Bydd Ryan Manning, cefnwr chwith Clwb Pêl-droed Abertawe, yn gadael ar ddiwedd ei gytundeb yn yr haf.
Daeth cadarnhad o’r sefyllfa gan y rheolwr Russell Martin, sy’n dweud nad oes diben parhau i drafod y mater.
Mae Manning wedi sgorio pum gôl mewn 95 o gemau yn ei dair blynedd gyda’r Elyrch, ond fe wrthododd e lofnodi cytundeb newydd fis Rhagfyr y llynedd.
“Dydy e ddim yn mynd i lofnodi cytundeb newydd yma,” meddai wrth y wasg.
“Dw i wrth fy modd gyda Ryan, mae e wrth ei fodd yma, ond rydyn ni wedi gadael i’r cytundeb fynd tan y flwyddyn olaf, neu heb fynd i’r afael â’r peth yn yr haf, felly rydyn ni lle’r ydyn ni.”
Mae’r sefyllfa’n golygu y bydd e’n gadael y clwb yn rhad ac am ddim ar ddiwedd y tymor, ac mae’r gwaith o chwilio am olynydd iddo wedi dechrau.
Mae ansicrwydd o hyd am ddyfodol amddiffynnwr arall, Joel Latibeaudiere, gyda chytundeb hwnnw hefyd yn dirwyn i ben yn yr haf.
Dydy hi ddim yn edrych yn debygol ar hyn o bryd y bydd yntau’n aros chwaith.