Prifysgol Abertawe fydd prif noddwr Hanner Marathon y ddinas am y tair blynedd nesaf.

Mae’r nawdd yn rhan o ymgyrch Camau Breision dros Iechyd Meddwl y Brifysgol, sy’n codi arian at ymchwil hanfodol o safon fyd-eang i atal hunanladdiad, ynghyd â chymorth iechyd meddwl a lles i fyfyrwyr Prifysgol Abertawe.

A hwythau’n elusen gofrestredig, mae Prifysgol Abertawe’n annog pobol i redeg yn yr hanner marathon ar eu rhan.

Bydd yr holl arian sy’n cael ei godi’n mynd tuag at ymchwil gan yr Athro Ann John, sy’n arwain y ffordd yn fyd-eang wrth ymchwilio i iechyd meddwl ac atal hunanladdiad ledled y byd; sefydlu Hyb Myfyrwyr Nyrsio i gefnogi iechyd meddwl myfyrwyr nyrsio a chreu gweithlu mwy gwydn i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol; a gwneud ymarfer corff yn fwy hygyrch i fyfyrwyr er mwyn hybu eu hiechyd meddwl a’u lles.

Bydd nifer o leoedd am ddim ar gael i bobol sy’n addo codi mwy na £200 at ymgyrch Camau Breision dros Iechyd Meddwl y Brifysgol, ynghyd â gostyngiad cyffredinol arall i staff, myfyrwyr a 150 o raddedigion.

Bydd yr hanner marathon yn cael ei gynnal ar Fehefin 11 eleni.

Mae JCP Solicitors wedi noddi’r digwyddiad ers y cychwyn cyntaf yn 2014, a bydd y cwmni bellach yn ymuno â’r rhestr o bartneriaid sy’n noddwyr ariannol, ochr yn ochr â’r cyfrifwyr siartredig Matthews & Co ac Ysbyty HMT Sancta Maria.

‘Traddodiad balch ym maes chwaraeon’

“Mae gan Brifysgol Abertawe draddodiad balch ym maes chwaraeon ac felly rydyn ni’n falch o noddi Hanner Marathon Abertawe, sydd bellach yn un o uchafbwyntiau calendr blynyddol ein dinas, eleni,” meddai’r Athro Paul Boyle, Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe.

“Mae’r ras yn ffordd bwerus o ysgogi pobol i fabwysiadu ffyrdd mwy iach o fyw, sy’n cyd-fynd ag uchelgeisiau strategol ein Prifysgol i gefnogi iechyd a lles ein cymuned ehangach.

“Gan ein bod ni’n elusen gofrestredig, rydyn ni’n sianelu llawer o’n rhoddion tuag at ymchwil o’r radd flaenaf a chymorth i fyfyrwyr ac rydyn ni’n falch ein bod wedi creu ein hymgyrch Camau Breision dros Iechyd Meddwl ar gyfer y ras eleni.

“Bydd yr arian sy’n cael ei godi am yr ymgyrch hon yn helpu ein hymchwilwyr i barhau i wneud darganfyddiadau arloesol, a bydd yn sicrhau bod ein myfyrwyr yn gallu disgleirio a’u bod yn cael cymorth wrth wynebu unrhyw heriau iechyd meddwl.”

‘Cyffro mawr’

Mae Esyllt Rosser, Llywydd Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe, wedi croesawu’r cyhoeddiad.

“Mae pandemig Covid-19 a’r argyfwng costau byw presennol wedi cael effaith sylweddol ar iechyd meddwl a lles ein myfyrwyr,” meddai.

“Felly, rydyn ni’n falch y bydd ymgyrch Camau Breision y Brifysgol yn codi arian hollbwysig i helpu i gefnogi iechyd meddwl ein myfyrwyr, gan helpu i sicrhau eu bod yn manteisio i’r eithaf ar eu profiad yn y Brifysgol.”

Un arall sydd wedi croesawu’r newyddion yw Natasha Smith, Cyfarwyddwr Ras Hanner Marathon Abertawe.

“Mae’n destun cyffro mawr i ni weithio gyda Phrifysgol Abertawe ar gyfer y digwyddiad yn 2023 ac rydyn ni’n edrych ymlaen at feithrin perthynas gref a datblygu cynlluniau yn y dyfodol,” meddai.

“Mae’r paratoadau ar gyfer Hanner Marathon Abertawe eleni wedi hen ddechrau ac rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu ein rhedwyr anhygoel yn ôl i Abertawe unwaith eto.

“Hoffen ni ddiolch i JCP Solicitors am holl gefnogaeth ac ymroddiad y cwmni dros yr wyth mlynedd diwethaf a hoffen ni hefyd groesawu Prifysgol Abertawe i deulu ein hanner marathon.”