Bydd timau pêl-droed Cymru a’r Alban yn uno yn erbyn homoffobia wrth herio’i gilydd yng Nghwpan Pinatar.

Mae Chwefror yn Fis Gweithredu Pêl-droed yn erbyn Homoffobia, sy’n gyfle i’r byd pêl-droed wrthwynebu homoffobia a rhagfarn yn erbyn y gymuned LHDT+, ac i ddathlu amrywiaeth o fewn y gamp.

Mae Cymru a’r Alban yn gobeithio tynnu sylw at yr ymgyrch ac agor trafodaeth ynghylch pwysigrwydd cefnogi’r gymuned, yn ogystal â thynnu sylw at y rhwystrau sy’n wynebu’r gymuned LHDT+ o fewn y gamp.

“Mae tîm merched Cymru wedi bod yn gefnogwyr hirdymor o gynhwysiant LHDT+ ac o Bêl-droed yn erbyn Homoffobia,” meddai Lou Englefield, Cyfarwyddwr Ymgyrch FvH Cymru.

“Gall eu harweiniad yn y gofod hwn wneud cymaint o wahaniaeth wrth i gêm y merched dyfu yng Nghymru.

“Rydym wrth ein boddau o gael arddangos y fath gefnogaeth yn ystod Mis Gweithredu yn ystod mis Chwefror.”

‘Dod ynghyd ar gyfer neges o gynhwysiant’

“Rydym wrth ein boddau o gael cydweithio ag FvH Cymru, FvH yr Alban a Chymdeithas Bêl-droed yr Alban i ddod ynghyd ar gyfer neges o gynhwysiant yn ystod Mis Gweithredu Pêl-droed yn erbyn Homoffobia,” meddai Carys Ingram, Swyddog Gweithredol Cydraddoldeb, Amrywiaeth, Cynhwysiant ac Integriti gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru.

“Mae’n eithriadol o bwysig ein bod ni’n parhau i greu cyfleoedd, gweladwyedd, ymwybyddiaeth a sgwrs ynghylch y rhwystrau a’r heriau mae ein cymuned LHDT+ yn eu hwynebu yn y byd pêl-droed a sut rydym am symud tuag at ddyfodol gwell, lle nad oes yna ddim ond cyfleoedd yn cael eu darparu, ond lle gall y gymuned LHDT+ deimlo eu bod nhw’n perthyn yn yr amgylcheddau hyn.”