Yn ddiweddarach wythnos hon yng nghylchgrawn golwg, fe fydd Dr Meilyr Emrys, yr hanesydd a sylwebydd chwaraeon, yn pwyso a mesur gyrfa Tom Brady, un o fawrion y byd pêl-droed Americanaidd, ar ôl i’r chwarterwr gyhoeddi ei (ail) ymddeoliad o’r gamp. Dyma damaid i aros pryd…
“Yn syml – o ystyried natur eithriadol o gorfforol pêl-droed Americanaidd – ni ddylai unrhyw feidrolyn allu cyflawni’r hyn a wnaeth Brady fel chwaraewr. ’Roedd ei lwyddiant parhaus am dros ddau ddegawd ar y lefel broffesiynol uchaf bron yn oruwchddynol.”
Ar gyfartaledd, dim ond tair blynedd yw hyd gyrfa chwarterwr (quarter back) yn y National Football League (NFL). Cyn iddo ymddeol am ar ail waith – yn barhaol tro hwn, mae’n debyg – ar ddechrau’r mis, roedd Tom Brady wedi bod yn serennu yn y gynghrair ers bron i chwarter canrif.
Yn ystod ei yrfa broffesiynol hirfaith, mwynhaodd y taflwr pêl tal o ogledd Califfornia fwy o lwyddiant nag unrhyw chwaraewr arall yn hanes ei gamp, wedi treulio ugain tymor gyda’r New England Patriots – gan gyrraedd naw Super Bowl ac ennill chwech ohonyn nhw – symudodd i lawr yr arfordir i Fflorida ar gyfer ei dair ymgyrch olaf, lle sicrhaodd seithfed bencampwriaeth genedlaethol yn lifrau coch a phiwter y Tampa Bay Buccaneers. Amlygir mawredd y gorchestion hyn gan y ffaith nad oes unrhyw un o’r 32 tîm sy’n rhan o’r NFL wedi ennill Tlws Vince Lombardi mor aml â Tom Brady: ac eithrio’r Patriots (sydd erioed wedi profi llwyddiant mewn Super Bowl heb eu rhif 12 chwedlonol), y Pittsburgh Steelers yw’r unig dîm arall sydd wedi sicrhau hanner dwsin o fuddugoliaethau ar y llwyfan mwyaf.
Ond nid ei saith modrwy bencampwriaeth yw unig lwyddiannau ‘Tom Terrific’… o bell ffordd.
Y tu hwnt i hynny, ef yw’r chwaraewr sydd wedi cael ei ddewis i gymryd rhan yn y Pro Bowl ar y nifer fwyaf o achlysuron: cafodd ei ethol i chwarae yng ‘Ngêm y Sêr’ flynyddol yr NFL bymtheg gwaith yn ystod ei yrfa, gan gynnwys yn 2022, pan oedd yn 44 mlwydd oed.
Ar yr un trywydd, cafodd Tom hefyd ei ethol yn Chwaraewr Mwyaf Gwerthfawr y gynghrair gyfan ar dri achlysur a gan iddo barhau i fod yn llwyddiannus am gyfnod mor hir, nid yw’n syndod mai ef sy’n berchen ar bron bob record sy’n ymwneud ag ystadegau chwarterwyr yn yr NFL: ef yw’r unig chwaraewr proffesiynol sydd wedi cywain dros 100,000 o lathenni pasio yn ystod ei yrfa, er enghraifft. Cyrhaeddodd y cyfanswm hwnnw oherwydd i 8,953 o’i dafliadau gael eu dal, sydd hefyd yn record; fel mae’r ffaith i 649 o’i ymdrechion i basio arwain at geisiau (touchdowns).
Yn syml – o ystyried natur eithriadol o gorfforol pêl-droed Americanaidd – ni ddylai unrhyw feidrolyn allu cyflawni’r hyn a wnaeth Brady fel chwaraewr. ’Roedd ei lwyddiant parhaus am dros ddau ddegawd ar y lefel broffesiynol uchaf bron yn oruwchddynol.
Ond nid oedd Tom Brady yn seren o’r crud. Yn wir, nid oedd y mwyafrif llethol o gefnogwyr cyffredin hyd yn oed yn ymwybodol o’i fodolaeth nes ydoedd ym mlynyddoedd canol ei ugeiniau (pan gafodd ei ddyrchafu i fod yn chwarterwr dewis cyntaf i’r Patriots). Ond dim ond ychwanegu at ei chwedl mae’r ffaith honno, a theg dweud fod ei enw bellach yn eithriadol o adnabyddus, ledled y byd chwaraeon ac ymhell y tu hwnt.
- Darllenwch ragor am un o fawrion y byd pêl-droed Americanaidd yn rhifyn golwg yn ddiweddarach yr wythnos hon…