Mae Clwb Pêl-droed Abertawe wedi denu’r golwr Andreas Sondergaard tan ddiwedd y tymor, yn unol â chaniatâd y Gynghrair Bêl-droed.

Mae’r golwr 22 oed wedi bod heb glwb ers iddo adael Wolves ddiwedd mis Ionawr, lle’r oedd e’n aelod o’r academi.

Cafodd e gyfnodau ar fenthyg yn Randers yn ei famwlad, a Henffordd.

Bydd yn gwisgo crys rhif 27.

Mae Steven Benda allan am weddill y tymor ag anaf, ac fe fu’n rhaid i’r Elyrch alw’r golwr ifanc Lewis Webb i’r brif garfan i ymuno ag Andy Fisher.

Bydd Sondergaard, felly, yn lleddfu rhywfaint o’r pwysau ac yn llenwi bwlch yn y garfan.