Bydd y mewnwr Lloyd Williams yn curo record ymddangosiadau Taufa’ao Filise i Rygbi Caerdydd wrth i ranbarth rygbi’r brifddinas groesawu Benetton i Barc yr Arfau nos Sadwrn (Chwefror 18, 5.15yp).

Daeth Williams drwy rengoedd academi’r rhanbarth, ac fe fydd yn chwarae gêm rhif 256 ei yrfa iddyn nhw, gan guro record broffesiynol y prop o Tonga.

Bydd yn ymuno â Jarrod Evans ymhlith yr haneri ar gyfer y gêm gyntaf yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig ar Barc yr Arfau ers mis Ionawr.

Mae Max Llewellyn yn dychwelyd ar ôl anaf i’w ffêr sydd wedi’i gadw allan o’r tîm am ddeufis, ac fe fydd yn bartner i Rey Lee-Lo yn y canol.

Ben Thomas, Owen Lane a Jason Harries sy’n cwblhau’r llinell ôl.

Corey Domachowski, Kristian Dacey a Dmitri Arhip fydd ym mlaen y sgrym, gyda Lopeti Timani a Seb Davies yn yr ail reng.

Josh Turnbull fydd yn arwain y tîm, gydag Ellis Jenkins a James Ratti yn cadw cwmni iddo yn y rheng ôl.