Yn nwylo’r chwaraewyr mae’r cyfrifoldeb i wella sefyllfa tîm pêl-droed Abertawe, yn ôl Joe Allen.
Daw sylwadau chwaraewr canol cae’r Elyrch wrth i’r rheolwr Russell Martin wynebu cryn bwysau, er ei fod yn mynnu ei fod e eisiau aros yn y clwb.
Byddan nhw’n herio Rotherham o flaen camerâu Sky Sports nos Lun (Chwefror 27) ar ôl pedair colled yn eu pum gêm ddiwethaf, rhediad sy’n golygu eu bod nhw wedi colli tir wrth anelu i aros ymhlith y chwech uchaf i sicrhau eu lle yn y gemau ail gyfle ar ddiwedd y tymor.
Mae rhwystredigaeth ychwanegol hefyd ar ôl iddyn nhw fethu â denu’r un chwaraewr i’r brif garfan yn ystod ffenest drosglwyddo Ionawr.
‘Hollol unedig’
Yn ôl Joe Allen, mae’r chwaraewyr a’r staff yn “hollol unedig” ac yn cefnogi’r rheolwr Russell Martin.
“Alla i ddim ei ganmol e ddigon,” meddai.
“Mae’r un peth yn wir am y gwaith rydyn ni’n ei wneud ar y cae ymarfer ac ar ddiwrnod gemau.
“Dw i wedi bod yn ffodus ac yn lwcus i weithio gyda rheolwyr gwych, a dw i’n ei edmygu fe gymaint â’r bois mwyaf hynny.
“Dw i wedi fy argyhoeddi ei fod e’n mynd i ddangos pam yn ystod ei yrfa.
“Mae’r chwaraewyr 100% y tu ôl i’r hyn mae’n ei wneud, ac mae’r cyfrifoldeb arnon ni fel chwaraewyr i berfformio’n fwy cyson, a dyna’r nod wrth fynd i mewn i ddydd Llun.”
‘Dw i eisiau bod yma’
Yn y cyfamser, mae Russell Martin yn cyfaddef iddo wneud camgymeriadau y tymor hwn.
“Dw i eisiau bod yma, dydy pa hyd mae pobol eraill eisiau i fi fod yma ddim yn rywbeth i fi ei benderfynu,” meddai wrth BBC Cymru.
“Does dim trafodaethau wedi bod [â’r perchnogion am ei ddyfodol].
“Rydyn ni wedi sgwrsio llawer am yr haf a chynllunio; byddwn ni’n parhau ar y trywydd hwnnw hyd nes y byddwn ni’n clywed fel arall.
“Ni yw’r tîm ieuengaf yn y gynghrair, rydyn ni’n chwarae pêl-droed gwych ar adegau ond rydyn ni’n gwneud gormod o gamgymeriadau ac yn ildio gormod o goliau, does dim cuddio hynny.
“Dw i’n eithaf siŵr hefyd fod gyda ni un o’r rheolwyr ieuengaf yn y gynghrair.
“Dw i’n mynd i wneud camgymeriadau, a dw i wedi gwneud.
“Dw i ddim yn mwynhau’r canlyniadau, ond dw i wir yn mwynhau’r swydd.
“Dw i eisiau bod yma.”