Fe fydd yn rhaid i Gymru “berfformio” er mwyn trechu Lloegr ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn Stadiwm Principality ddydd Sadwrn (Chwefror 25, 4.45yp), yn ôl y prif hyfforddwr Warren Gatland.

Roedd amheuon ynghylch cynnal y gêm yn dilyn anghydfod tros gyflogau, wrth i’r chwaraewyr fygwth streicio, ar ôl cerdded allan o ginio noddwyr yn ddiweddar.

Ond yn dilyn cytundeb rhwng y chwaraewyr a phenaethiaid Undeb Rygbi Cymru, daeth cadarnhad fod y gêm yn mynd yn ei blaen.

‘Cyfaddawd’

Dywed Warren Gatland ei fod yn falch fod y chwaraewyr ac Undeb Rygbi Cymru wedi cyfaddawdu.

“Rwy’n credu ei fod wedi bod yn heriol i bawb,” meddai.

“Ond yn y diwedd, dw i’n meddwl eu bod nhw’n eithaf hapus gyda’r canlyniad a beth sy’n mynd i ddigwydd wrth symud ymlaen.

“Mae yna chwaraewyr o hyd fyddai wedi bod eisiau i’r rheol 60 cap fod wedi diflannu’n llwyr, ond mae yna wastad dir canol a rhyw fath o gyfaddawd.”

‘Atal yr argae rhag byrstio’

Fe gollodd Cymru eu dwy gêm Chwe Gwlad gyntaf – o 34-10 yn erbyn Iwerddon ac o 35-7 yn yr Alban – a chafodd Warren Gatland ei holi a oedd yr ansicrwydd oddi ar y cae wedi effeithio ar berfformiadau ar y cae.

“Nawr fy mod i’n adlewyrchu yn ôl arno ac yn edrych yn ôl ar y cyfnod cyntaf roeddwn i yma (o 2008 i 2019), roedd llawer o’r materion hyn yn digwydd, ond mae’n debyg bod y ffaith ein bod wedi bod yn weddol lwyddiannus fel tîm wedi cuddio hynny i raddau,” meddai.

“Roedd yn atal yr argae rhag byrstio.

“Mae’r argae wedi byrstio nawr; mae wedi byrstio oherwydd bod y rhanbarthau’n teimlo eu bod yn cael eu tangyllido ac nad ydyn nhw wedi cael y llwyddiant y mae’r chwaraewyr eisiau.”

‘Ennill a llwyddiant’

Mae’n rhaid i Gymru “berfformio” yn erbyn Lloegr os ydyn nhw am fod â gobaith o ennill, meddai’r prif hyfforddwr wedyn.

“Mae ennill a llwyddiant yn aml yn cuddio rhai o’r materion sy’n digwydd y tu ôl i’r llenni.

“Dw i’n meddwl bod yn rhaid i ni berfformio ddydd Sadwrn, ond mae gennym ni lot o waith i’w wneud.

“Mae yna lawer o bethau sydd angen i ni wneud ein hunain, yn hytrach nag edrych ar ein gwrthwynebwyr.

“Bydd mynd i’r afael ag ychydig o broblemau ein hunain yn hanfodol er mwyn gwella ein perfformiad.”

Y tîm

Mae Warren Gatland wedi cyhoeddi naw newid i’w dîm i herio Lloegr ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn (Chwefror 25).

Bydd Mason Grady, y canolwr 20 oed, yn disodli George North i ennill ei gap cyntaf.

Daw’r newidiadau ar ôl i Gymru golli’r ddwy gêm gyntaf yn erbyn Iwerddon a’r Alban.

Bydd Leigh Halfpenny a Louis Rees-Zammit yn chwarae yn y bencampwriaeth am y tro cyntaf eleni, ar ôl gwella o anafiadau, gyda Halfpenny yn dechrau gêm am y tro cyntaf ers iddo ennill ei ganfed cap yn 2021.

Gyda Louis Rees-Zammit yn dychwelyd, does dim lle yn y garfan i Rio Dyer.

Bydd partneriaeth newydd ymhlith yr haneri, gydag Owen Williams yn safle’r maswr yn lle Dan Biggar i ddechrau gêm am y tro cyntaf, ochr yn ochr â’r mewnwr Tomos Williams. Bydd Biggar ar y fainc.

Gyda Mason Grady yn ennill ei gap cyntaf, mae George North yn cwympo i’r fainc i wneud lle i driawd di-brofiad – Owen Williams, Joe Hawkins a Mason Grady, sydd ond wedi ennill cyfanswm o saith cap rhyngddyn nhw.

Does dim lle ymhlith y blaenwyr na’r garfan i Wyn Jones na Jac Morgan, wrth i Justin Tipuric a Taulupe Faletau ddychwelyd i’r rheng ôl, gyda Gareth Thomas a Tomas Francis yn y rheng flaen a’r cyn-gapten Alun Wyn Jones yn yr ail reng.

Mae’r bachwr Bradley Roberts a’r blaenasgellwr Tommy Reffell ymhlith yr eilyddion, gyda’r mewnwr Kieran Hardy a’r canolwr Nick Tompkins ar y fainc ac yn aros i chwarae am y tro cyntaf eleni.