Mae tri chwaraewr wedi cael eu cyhuddo o achosi cythrwfl (affray) ar y cae yn ystod gêm rhwng timau pêl-droed y Rhyl a Bangor 1876 y llynedd.

Mae Alex Jones, 28, a Leon Atkins, 21, sydd ill dau yn chwarae i’r Rhyl, a Shaun Lock, chwaraewr 30 oed Bangor 1876, wedi eu cyhuddo o achosi cythrwfl, ac mae Alex Jones hefyd wedi’i gyhuddo o ymosod ar chwaraewr arall yn dilyn y digwyddiad ar faes Belle Vue yn y Rhyl ar Hydref 22.

O ganlyniad, mae chwaraewr arall wedi cael rhybudd gan Heddlu’r Gogledd.

Dywed y Ditectif Gwnstabl Kieran Davies fod y ddau glwb a Chymdeithas Bêl-droed Cymru wedi bod yn “awyddus i gydweithredu gydag ymchwiliad yr heddlu”.

Fe fydd y tri chwaraewr yn mynd gerbron ynadon Llandudno ar Fawrth 29.