Mae Rob Page, rheolwr tîm pêl-droed Cymru, wedi ychwanegu dau hyfforddwr profiadol at ei dîm hyfforddi ar gyfer ymgyrch ragbrofol Ewro 2024.

Fe fydd Eric Ramsay, hyfforddwr Manchester United, a Nick Davies, hyfforddwr West Ham, yn ymuno â’r tîm hyfforddi ar gyfer ymgyrch ragbrofol Ewro 2024, sy’n dechrau mis yma.

Bydd Ramsay yn parhau i weithio fel aelod o dîm hyfforddi Erik Ten Hag yn Old Trafford, a Davies yn cyfuno’i rôl newydd â’i rôl bresennol gyda David Moyes yn Llundain.

Eric Ramsay

Daw Eric Ramsay o ganolbarth Cymru’n wreiddiol.

Mae ganddo Drwydded Broffesiynol UEFA.

Dechreuodd ei yrfa gydag Abertawe cyn gweithio gydag Amwythig a Chelsea ac yna Manchester United.

Nick Davies

Bydd Nick Davies yn Bennaeth Perfformio Cymru.

Yn hanu o Bort Talbot, mae wedi cyflawni’r rôl hon gyda Charlton, Birmingham, Norwich a West Brom.

Bu ei dad yn rheolwr ar Glwb Pêl-droed Port Talbot yn y gorffennol.

Nick Davies

‘Ychwanegiadau gwych’

“Bydd Nick ac Eric yn ychwanegiadau gwych i’n staff,” meddai Rob Page.

“Mae gan Nick gyfoeth o brofiad ac yntau wedi bod ynghlwm wrth glybiau mawr, ac mae modd dadlau bod Eric yn un o’r hyfforddwyr ifainc gorau yn y byd pêl-droed ar hyn o bryd.

“Mae’r newidiadau’n rhoi cyfle i ni adeiladu ar ein llwyddiant, drwy raeadru chwaraewyr newydd i mewn i’r garfan ar yr adegau iawn.

“Gobeithio dros y deuddeg mis nesaf y bydd gennym ni’r criw nesaf o chwaraewyr i gynrychioli Cymru ar y lefel uchaf.”

Bydd Cymru bellach yn canolbwyntio ar eu hymgyrch ragbrofol nesaf, sy’n dechrau mis yma gyda gemau oddi cartref yn erbyn Croatia ar Fawrth 25, ac yna gartref yn erbyn Latfia yng Nghaerdydd ar Fawrth 28.