Bydd Neil Taylor, cyn-gefnwr chwith tîm pêl-droed Cymru, yn aelod o dîm hyfforddi Cymru dan 21 ar gyfer eu hymgyrch ragbrofol ar gyfer Ewro 2025.
Cododd Taylor drwy rengoedd Cymru gan ennill 43 o gapiau dros ei wlad fel oedolyn.
Roedd e’n aelod allweddol o’r garfan gymhwysodd ar gyfer Ewro 2016 yn Ffrainc, ac fe wnaeth e ymddeol o’r cae chwarae y llynedd cyn mynd yn ei flaen i ddechrau hyfforddi.
Mae e wrthi’n ceisio ennill Trwydded Broffesiynol UEFA ar hyn o bryd.
Bydd Boaz Myhill, y cyn-golwr, yn parhau i weithio gyda’r tîm dan 21 yn hyfforddi’r gôl-geidwaid, ac mae’r Pennaeth Datblygu Chwaraewyr Richard Williams yn cwblhau’r tîm hyfforddi.
Dywed Neil Taylor ei fod e’n credu y gall e gael “effaith bositif” ar yrfaoedd y chwaraewyr ifainc.
Dywed Matty Jones y bydd ei benodiad yn “newyddion positif” i’r garfan, gyda Neil Taylor yn “llysgennad gwych” ar ran Cymru.
Bydd Cymru’n dechrau’r ymgyrch gyda thaith i Ddenmarc ym mis Mehefin.