Mae clwb criced yn y gogledd-ddwyrain sy’n wynebu’r perygl o fynd i’r wal wedi cyhoeddi apêl am chwaraewyr.

Daw’r apêl gan Glwb Criced Llay Welfare, sydd wedi’i leoli yn Llai ger Wrecsam, wrth iddyn nhw barhau i fethu recriwtio chwaraewyr newydd ar drothwy’r tymor newydd.

Cafodd y clwb ei sefydlu yn y 1930au, a’r flwyddyn ddiwethaf roedd ganddyn nhw gynlluniau i redeg timau penwythnos a chanol wythnos i gystadlu yng Nghynghrair Griced Gogledd Cymru.

Ond erbyn canol y tymor diwethaf, dim ond un tîm penwythnos oedd ganddyn nhw, ac roedd criced canol wythnos eisoes wedi dod i ben yn y clwb.

“Wrth i’r tymor newydd agosáu, dydyn ni ddim mewn sefyllfa well na phan ddaeth y tymor diwethaf i ben, ac rydym ond wedi cofrestru un tîm ar gyfer Cynghrair Griced Gogledd Cymru,” meddai’r cadeirydd Steve Partington mewn llythyr agored.

“Mae gennym ni gnewyllyn, ond prin ddigon i gyflawni’r gemau hyn.

“Byddai un neu ddau ymadawiad yn ein gadael ni mewn sefyllfa anghynaladwy.”

Cyfarfod cyhoeddus

Yn sgil y sefyllfa bresennol, mae’r clwb wedi trefnu cyfarfod cyhoeddus.

Bydd y cyfarfod hwnnw’n cael ei gynnal yn Institiwt y Glowyr ddydd Sul (Chwefror 26) am 3.30yp.

Mae’r clwb yn dweud y byddan nhw’n gwrando ar bob syniad sy’n cael ei gyflwyno, ond fod croeso i unrhyw un fynd yno i gefnogi’r achos.

“Wedi’r cyfan, mae nifer o flynyddoedd o waith caled da, gwerthchweil wedi mynd i mewn i redeg ein clwb criced,” meddai’r cadeirydd wedyn.

“Gadewch i ni beidio bod yn dweud ‘Biti fyswn i ddim yn gwybod’ pan fydd hi’n rhy hwyr.”