Mae dyn o Gymru wedi bod yn ei chanol hi yn dilyn daeargryn Twrci, gan achub bywydau dau o bobol gafodd eu tynnu o’r rwbel.

Roedd Phil Irving, dyn 46 oed o Hwlffordd, yn aelod o’r tîm chwilio ac achub rhyngwladol gafodd ei anfon o wledydd Prydain yn dilyn y trychineb.

Mae 77 o arbenigwyr o 14 o dimau arbenigol bellach yn cynnig cefnogaeth i’r wlad ar gais Llywodraeth Twrci a Swyddfa Dramor y Deyrnas Unedig, ac yn eu plith mae pum Cymro o wasanaethau tân y canolbarth a’r gorllewin ac o’r de.

Mae deunydd fideo wedi ymddangos, sy’n dangos timau achub yn Hatay yn ne Twrci yn tynnu plismnon a dynes allan o rwbel ar ôl i adeilad mawr gael ei ddymchwel, ac roedden nhw wedi bod yno am 120 awr.

“Roedd y bobol hyn wedi’u claddu o dan rwbel a debris, ac roedd rhaid i ni weithio o amgylch y cloc i ddod â nhw allan yn fyw,” meddai.

“Roedd hi’n brynhawn Gwener pan wnaethon ni ddarganfod arwyddion o fywyd am y tro cyntaf.

“Roedden ni’n gwybod 100% eu bod nhw’n dal yn fyw, roedden ni’n eu clywed nhw’n tapio ac yn gweiddi, felly roedden ni’n gwybod ein bod ni’n agos atyn nhw ond roedd eu cyrraedd nhw’n her fawr.

“Roedd y dymchweliad yn un catastroffig, ac roedd cael mynediad yn anodd.

“Roedden nhw’n sownd yno dros bum niwrnod, a bydd eu gallu anhygoel i gadw i fynd, gobeithio a chredu yn aros gyda fi.”

Teimladau cymysg

Mae Phil Irving yn dad i ddau o blant, ac yn gweithio yng ngorsaf dân Hwlffordd ers 24 o flynyddoedd.

Fe fu’n gwirfoddoli gyda UK-ISAR, y tîm achub sydd yn Nhwrci ar hyn o bryd, ers 17 o flynyddoedd, gan helpu i achub pobol yn dilyn daeargrynfeydd Indonesia yn 2009 a Haiti yn 2010.

Ond mae’n dweud ei fod yn teimlo “teimladau cymysg” bob tro wrth achub bywydau pobol.

“Oherwydd os ydych chi’n achub un person ac maen nhw’n cael aduniad â pherthynas, ar y cyfan mae’r person hwnnw wedi gadael anwylyd yn yr adeilad sydd heb fod mor lwcus,” meddai.

“Felly mae hi ar y cyfan yn eiliad chwerwfelys.

“Wrth gwrs, pan ydyn ni’n llwyddiannus wrth gael rhywun allan, mae’n rhoi hwb i’r tîm, ond dw i ddim yn meddwl gewch chi achubiaeth sydd heb ei lliwio i ryw raddau gan wirionedd mawr y bydd yn rhaid i’r goroeswr ymdopi â galar am y rhai oedd heb ddod allan yn fyw.

“Dyna sut dw i’n teimlo am y peth.”

Dywed fod y dinistr yn Nhwrci yn “dorcalonnus”, a bod lleoliad y daeargryn “yn edrych fel parth rhyfel”.

“Dw i’n sefyll yn ôl ac yn edrych ar y bobol sydd wedi colli’u cartrefi a’u teuluoedd ac mae fy nghalon i’n gwaedu drostyn nhw,” meddai.

“Doedd Twrci ddim yn haeddu hyn, dydy bodau dynol ddim yn haeddu hyn.

“A bod yn hollol onest, y sgyrsiau mwyaf anodd gewn ni yw lle nad yw’r ci chwilio’n cael ‘hit’, does dim sŵn nac arwyddion o fywyd ac yna mae’n rhaid i ni symud ymlaen.

“Mae’n anodd iawn egluro’r rhesymeg wrth bobol sydd wrthi’n chwilio’n ddiwyd am eu hanwyliaid o ran pam ein bod ni’n symud ymlaen.

“Dydych chi ddim eisiau diffodd gobaith pobol.

“Rhaid i fi ddweud hyn am bobol Twrci, i raddau maen nhw wedi deall.

“Mae eu tosturi tuag aton ni’n rhyfeddol.

“Roedd dynes yn eistedd o amgylch tân yn llosgi drws nesaf i adeilad oedd wedi’i ddymchwel.

“Gallai hi fod wedi colli ei theulu, roedd ganddi’r dillad roedd hi’n eu gwisgo a dyna ni.

“Ond cerddodd hi at ddynes oedd yn feddyg, cyffwrdd yn ei braich a chynnig hanner y gacen chwe modfedd yma, yr unig beth oedd ganddi.

“Mae’r ffaith fod pobol o’r fath heb ddim byd, yn dioedd galar a thrawma sylweddol, â’r gallu i ddangos caredigrwydd fel hyn yn gwneud i fi gredu yn y ddynoliaeth.”

Meddwl am ei deulu yng Nghymru

Er bod Phil Irving yn brysur yn gweithio yn Nhwrci, dydy ei deulu – ei wraig Lianne, ei ferch ddwy oed Esmei, a’i fab wyth oed Evan – ddim yn bell o’i feddwl trwy gydol y cyfan.

“Maen nhw’n falch o’r hyn dw i’n ei wneud,” meddai.

“Mae fy ngwraig a fy merch yn ddigon aeddfed i sylweddoli pwysigrwydd y gwaith hwn a rheoli’r wybodaeth yna.

“Yn anffodus, mae fy mab yn gysgod i fi felly mae’r ffaith fy mod i i ffwrdd wedi ei fwrw fe’n galed, os ydw i’n onest.

“Mae e’n glyfar, ond mae e jyst yn meddwl am y perygl ac yn mynd yn emosiynol am y peth.

“Galla i ddeall sut mae e’n teimlo, bob tro rydych chi’n troi’r teledu ymlaen rydych chi’n gweld adeiladau’n dymchwel, ond dyw e ddim yn gweld y camau rydyn ni’n eu cymryd er mwyn sicrhau diogelwch y criw.

“Mae’n anodd ymdopi ag e, gan wybod fy mod i’n cael rhywfaint o effaith arno fe.

“Wrth gwrs, mae’n anodd rheoli’r holl emosiwn.

“Ond dw i yma i wneud gwaith, a rhaid i fi reoli’r emosiynau i ganolbwyntio o hyd ar beth bynnag sydd angen i ni ei wneud i achub bywydau.”

Apêl

Mae DEC Cymru, y pwyllgor argyfyngau sy’n gyfuniad o bymtheg o elusennau, yn dweud bod apêl y daeargryn yn Nhwrci wedi denu £52.8m dros gyfnod o ddeuddydd, gan gynnwys £5m o arian cyfatebol gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

“Diolch i garedigrwydd a thosturi pobol Prydain, mae Apêl Daeargryn Twrci-Syria y DEC wedi cyrraedd swm anhygoel, £52.8m, sy’n cynnwys £5m o arian cyfatebol gan drethdalwyr Prydain,” meddai Andrew Mitchell, y Gweinidog Datblygiad Rhyngwladol.

“Fyddai hyn ddim wedi bod yn bosib heb garedigrwydd a chefnogaeth pobol Prydain. Diolch.”

Yng Nghymru, mae £1.9m wedi’i godi drwy apêl ar gyfer pobol Twrci a Syria, gan gynnwys cyfraniad o £300,000 gan Lywodraeth Cymru.

Mae DEC Cymru yn apelio am roddion er mwyn helpu’r pobol sydd wedi’u heffeithio, gyda mwy na 28,000 o bobol wedi’u lladd hyd yn hyn a’r perygl y gallai rhagor farw mewn oerfel ar ôl dod yn ddigartref a chael eu hanafu.

“Mae’r delweddau yr ydym yn eu gweld a’u clywed o Dwrci a Syria wedi ein syfrdanu ni i gyd, ac mae’r awydd i helpu yn amlwg,” meddai Saleh Saeed, Prif Weithredwr y DEC.

“Mae elusennau DEC yn cynyddu’r ddarpariaeth cymorth, i wneud popeth o fewn eu gallu i helpu, gan wybod bod ganddyn nhw gefnogaeth y cyhoedd ym Mhrydain.

“Rydyn ni i gyd yn benderfynol o wneud popeth y gallwn i gefnogi’r rhai sydd wedi eu heffeithio dros y tymor byr a’r tymor hwy ac mae’n ysbrydoliaeth cael y fath gefnogaeth gan y cyhoedd.”

Mae’r ymateb wedi bod yn “anhygoel”, yn ôl Siân Stephen, Rheolwr Cysylltiadau Allanol DEC Cymru.

“Mae’n anhygoel gweld pa mor sydyn y dechreuodd unigolion, cymunedau, busnesau ymateb, gan drefnu casgliadau a digwyddiadau i gefnogi’r apêl hon,” meddai.

“Mae’r trychineb wedi cael effaith fawr ar bobol ac maen nhw’n gwneud eu gorau i wneud rhywbeth i wella’r sefyllfa.

“Dydyn ni dal ddim yn llawn deall maint y trychineb sy wedi taro Twrci a Syria yn eto, ond be ydan ni yn gwybod yw bod angen i ni barhau i gynyddu’r ymateb dyngarol ar frys.

“Mae eich cefnogaeth chi yn gwneud hyn yn bosib.”