Mae 2023 am fod yn flwyddyn arloesol i gynyrchiadau’r BBC yng Nghymru, gyda mwy o gynnwys o Gymru nag erioed o’r blaen, yn ôl y Cyfarwyddwr Cyffredinol a Chyfarwyddwr BBC Cymru.

Daw sylwadau Tim Davie a Rhuanedd Richards wrth i’r BBC nodi can mlynedd o ddarlledu yng Nghymru.

Bydd mwy o gynnwys o Gymru nag erioed o’r blaen i’w weld ar draws sianeli rhwydwaith y Gorfforaeth ar deledu a radio, gyda chwe chyfres ddrama newydd yn cael eu cynhyrchu ar hyn o bryd.

Mae’r canmlwyddiant yn cyd-fynd â lansio sioe newydd Owain Wyn Evans ar BBC Radio 2, sy’n cael ei darlledu o Gaerdydd bob dydd yn ystod yr wythnos – y rhaglen ddyddiol gyntaf yn ystod yr wythnos i’w darlledu ar Radio 2 y tu allan i Lundain.

Mae hyn yn rhan o gynlluniau ‘Ar Draws y Deyrnas Unedig’ y BBC, gafodd ei gyhoeddi gan Tim Davie yn 2021.

Agorodd y Cymro Cymraeg ei raglen fore heddiw (dydd Llun, Chwefror 13) gyda chyfarchiad yn Gymraeg, gan ddweud “Bore da, darlings. Croeso i Gaerdydd” cyn chwarae’r gân ‘Stronger’ gan Britney Spears.

Yn ddrymiwr o fri, bydd ei raglen yn cynnwys eitem sy’n dathlu ‘Air Drum Anthems’.

Y BBC wedi cael “effaith sylweddol ar Gymru”

Gyda chyfresi drama fel The Pact a Hidden yn cael eu gwylio gan filiynau ar draws y Deyrnas Unedig, ynghyd â chyfresi fel A Special School, fydd yn cael ei darlledu ar BBC 2 yr wythnos nesaf, mae eleni yn argoeli i fod y flwyddyn fwyaf hyd yma i ddramâu o Gymru ar y BBC.

“Dyw hi ddim yn gyfrinach fod Cymru wedi bod yn bwerdy drama ers amser,” meddai Tim Davie.

“Gwnaeth Doctor Who ymgartrefu yng Nghymru bron i ddau ddegawd yn ôl, cyfnod sy’n cael ei weld gan nifer fel trobwynt yn hanes cynhyrchu Cymreig a dyfodiad pennod newydd yn ei hanes greadigol.

“Heddiw, rydyn ni’n gweld digwyddiad hanesyddol arall wrth i Owain Wyn Evans gychwyn ei sioe newydd ar BBC Radio 2 o’r Sgwâr Canolog; enghraifft arall o sut mae’r BBC yn ehangu’r ffordd mae’n cynhyrchu rhaglenni ar draws y Deyrnas Unedig.”

Yn ôl Rhuanedd Richards, mae’r BBC wedi cael “effaith sylweddol” ar Gymru.

“Y BBC oedd y cwmni cyfryngau cyntaf a gynlluniwyd i wasanaethu Cymru gyfan, ac mae ei effaith ar ein cenedl – ei diwylliant, ei hieithoedd a’i heconomi – wedi bod yn sylweddol,” meddai.

“Wedi’i chreu’n wreiddiol fel gorsaf radio leol i Gaerdydd, mae’r BBC yng Nghymru wedi datblygu i fod yn sefydliad cyfryngau digidol cenedlaethol, dwyieithog sy’n cynhyrchu cynnwys i Gymru a gweddill y Deyrnas Unedig.

“Mae ein buddsoddiad yn yr economi greadigol wedi bod yn sbardun i wneud Cymru yn lleoliad o bwys ar gyfer cynhyrchu fideo, ac rydyn ni’n falch o fod yn creu cynnwys yn Gymraeg a Saesneg sy’n darparu gwerth i’n cynulleidfaoedd.

“Mae’n wych croesawu Owain Wyn Evans i’r Sgwâr Canolog, canolfan ddarlledu’r BBC yng Nghaerdydd, wth iddo gyflwyno ei sioe foreol gyntaf i BBC Radio 2 heddiw.

“Rydyn ni wrth ein bodd y bydd y Sgwâr Canolog yn gartref iddo, gan ddarlledu i gynulleidfaoedd ar draws y Deyrnas Unedig.”

‘Blwyddyn wych o ran drama’

Steeltown Murders fydd y gyfres gyntaf i gyrraedd y sgrin yn ystod y gwanwyn, gan wneuthurwyr y cyfresi poblogaidd Hidden a The Pembrokeshire Murders (Severn Screen).

Mae’n canolbwyntio ar yr ymchwiliad i ddal llofrudd tair menyw ifanc yn ardal Port Talbot a’r stori anhygoel o sut gafodd y dirgelwch ei ddatrys bron i 30 mlynedd yn ddiweddarach drwy ddefnyddio tystiolaeth DNA arloesol – yr achos cyntaf o’i fath.

Mae Wolf yn gyfres drosedd iasol chwe rhan newydd sy’n seiliedig ar nofelau poblogaidd Jack Caffery gan Mo Hayder ac sy’n cael ei chynhyrchu gan gwmni Hartswood Films, sydd wedi ennill nifer o wobrau.

Mae Lost Boys and Fairies yn adrodd hanes pâr priod hoyw wrth iddyn nhw fabwysiadu eu plentyn cyntaf.

Mae’r gyfres Doctor Who hefyd yn dathlu ei phen-blwydd yn chwe deg oed eleni gyda thair pennod arbennig i’w darlledu ym mis Tachwedd.

“Gan edrych ymlaen, mae hefyd yn mynd i fod yn flwyddyn wych o ran drama, ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weld rhai o’r straeon gwych hyn, sydd wedi’u gwreiddio yng Nghymru, yn dod yn fyw ar y sgrin,” meddai Rhuanedd Richards wedyn.

“Mae cael cynifer o straeon gwych wedi’u gwreiddio yng Nghymru yn gamp a hanner, ac rwy’n gwybod y bydd cynulleidfaoedd ledled Cymru a thu hwnt yn gaeth i’r sgrin wrth i’r flwyddyn fynd yn ei blaen.

“Mae’n ffordd wych o ddathlu canmlwyddiant y BBC yng Nghymru.”

Mae pob un o’r chwe drama wedi derbyn cefnogaeth Cymru Greadigol.

“Mae gan y BBC record falch o gefnogi’r twf yn ein diwydiannau creadigol, gan roi hwb i’r economi drwy gynnal ein cwmnïau cynhyrchu annibynnol a datblygu cynnwys unigryw Gymreig,” meddai Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon yn Llywodraeth Cymru.

“Drwy Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth Cymru Greadigol gyda BBC Cymru, rydym yn awyddus i adeiladu ar ein partneriaeth llwyddiannus gyda rhestr gyffrous o gynyrchiadau yn dod i’r sgrin yn 2023 – gyda hyd yn oed mwy o gynnwys wedi’i greu yng Nghymru, gan ddefnyddio talent Cymreig i adrodd ein straeon unigryw.

“Wrth fyfyrio ar y 100 mlynedd diwethaf, rydym yn edrych ymlaen yn fawr at weld yr hyn a ddaw yn y dyfodol.”