Mae actor sy’n wyneb cyfarwydd ar S4C ac ym myd yr eisteddfodau bellach yn llysgennad prentisiaethau cyfieithu ac yn dal i ddyheu am yrfa lawn a hir ym myd perfformio.

A hithau’n Wythnos Prentisiaethau yr wythnos hon, dywed Cedron Siôn o Borthmadog ei fod yn gobeithio gallu parhau i “gyplysu’r mwynhad” mae’n ei gael yn y ddau faes.

Yn enedigol o Borthmadog, fe ddaeth i amlygrwydd fel aelod o Ysgol Glanaethwy am fwy na degawd, cyn mynd yn ei flaen i actio’r cymeriad Dewi Parry yn Rownd a Rownd ar S4C.

Mae hefyd yn wyneb cyfarwydd ar lwyfannau’r Urdd a’r Eisteddfod Genedlaethol, ac fe enillodd Ysgoloriaeth Bryn Terfel yr Urdd yn 2017.

Aeth yn ei flaen i astudio blwyddyn o radd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor cyn mynd i’r Royal Central School of Speech and Drama yn Llundain.

Ond ar ôl penderfynu dilyn prentisiaeth gydag Agored Cymru a chael cyfle i ddilyn cymhwyster Lefel 4 mewn Ymarfer Cyfieithu gyda Thîm Gwasanaethau Cymraeg Addysg a Gwella Iechyd Cymru, fe aeth yn ei flaen i ennill gwobr y Prentis Cyfieithu Gorau a Gwobr Prentis Cymraeg y Flwyddyn Coleg Gŵyr Abertawe.

Yn y cyfamser, mae ei gyflogwr, Addysg a Gwella Iechyd Cymru, wedi’i enwi’n Gyflogwr Cymraeg y Flwyddyn.

Mae Cedron Siôn bellach yn Llysgennad Prentisiaid gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Ffederasiwn Hyfforddi Cenedlaethol Cymru, wrth baratoi i ddilyn gyrfa fel cyfieithydd ochr yn ochr ag actio.

Ar ôl dilyn ei brentisiaeth, cafodd ei gyflogi gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru, gan weithio tuag at gymhwyster Lefel 4 mewn Ymarfer Cyfieithu, sef prentisiaeth uwch sy’n cael ei chynnig gan Agored Cymru a’i chyflwyno trwy gyfrwng y Gymraeg yn Abertawe.

‘Dysgu o gael bod ar y swydd’

A’i ddiddordeb mewn iaith wedi’i wreiddio’n ddwfn, mae’r brentisiaeth wedi cynnig y cyfle iddo archwilio arferion cyfieithu, ac fe fu’n cymryd rhan mewn sesiynau Instagram i rannu ei brofiadau ac i hybu manteision dwyieithrwydd.

“Swydd brentisiaeth oedd hi’n wreiddiol, wedyn roedd cyfle i weithio dan amodau proffesiynol mewn ffordd efo nhw, ac wedyn dilyn unedau ymchwil, gan fwya’, wedi’u gosod gan Agored Cymru yn ymchwilio’r gwahanol haenau yn y proffesiwn cyfieithu a goblygiadau gwahanol bethau,” meddai wrth golwg360.

“Mae’r tîm o gyfieithwyr, a Huw Owen yn uwch reolwr, wedi bod yn gefn i’n gilydd a wastad yn barod i drafod a phwysoli gwahanol opsiynau a ballu.

“Os oes genna’i unrhyw gwestiynau o ran y gwaith ymchwil, fyswn i’n gallu’i drafod o efo nhw.

“Mewn ffordd, ro’n i’n gallu dysgu o gael bod ar y swydd, a’r unedau’n rhoi dealltwriaeth lawnach i mi o be’ oeddwn i’n gwneud, a’r cyfrifoldebau sgen gyfieithwyr.

“Byswn i’n argymell prentisiaeth, ac yn teimlo’i fod o’n ffordd ymarferol o feithrin crefft a datblygu sgiliau wrth gysgodi unigolion proffesiynol, profiadol a chael eich cyflogi ar yr un gwynt.”‘

Amrediad anhygoel o brentisiaethau’

Yn ôl Cedron Siôn, roedd y noson wobrwyo yn Abertawe yr wythnos hon yn dangos yr “amrediad anhygoel o brentisiaethau” sydd ar gael.

“Rhaid i mi ddeud, roedd o’n brofiad hyfryd bod yno yng Ngholeg Gwyr achos, i ddechrau, roedd o’n dangos yr amrediad anhygoel o brentisiaethau sydd yn cael eu cynnig ar hyn o bryd mewn cymaint o wahanol feysydd,” meddai.

“A’r cyfleoedd mae o’n eu rhoi a’r sylfaen hefyd i bobol ddilyn eu hanian a’u dyheadau yn broffesiynol a chael eu cyflogi tra’n dysgu gan gysgodi pobol brofiadol.”

Cafodd ei brofiad actio cyntaf ers graddio yn ddiweddar iawn hefyd, wrth i Theatr Bara Caws lwyfannu addasiad Betsan Llwyd o’r ddrama Un Nos Ola’ Leuad gan Maureen Rhys a John Ogwen, ac mae’n dweud iddo gael “modd i fyw”.

“Dw i wastad wedi ymddiddori mewn actio a pherfformio, ond actio’n benodol, a ‘ngobaith i ydi cyplysu’r mwynhad sydd gen i o actio efo proffesiwn fel cyfieithu,” meddai.

“Maen nhw’n ddau beth sy’n rhoi mwynhad i mi ac yn ddau beth dw i’n hoff o roi fy amser iddyn nhw.

“Ges i ‘mhrofiad actio cyntaf ers graddio yn ddiweddar iawn, ym mis Hydref, efo Theatr Bara Caws ar daith Un Nos Ola Leuad, a geshi fodd i fyw. Roedd o’n chwa o awyr iach, â deud y gwir, a neshi wirioneddol fwynhau.

“Mi geshi’n rhyddhau o’r gwaith, geshi seibiant cyflogaeth oedd yn cwmpasu’r cyfnod o ymarfer a phan oeddwn i ar daith, cyfnod o ddeufis.

“Mi fuodd fy nghydweithwyr i’n hynod gefnogol, a ddôth bob un o’r tîm a’r gyfadran i’w gweld hi mewn gwahanol leoliadau ar y daith, ac roedd o’n golygu lot fawr i mi eu bod nhw’n ewyllysio’r gorau ac yn cefnogi fy newis gyrfa i.”