Mae’r canwr reggae Morgan Elwy wedi cyhoeddi sengl newydd yr wythnos hon yn trafod yr hwyl a’r heriau o fyw ar y ffordd, ac mae’n dweud y byddai’n dda pe bai yna Wythnos Miwsig Cymru, nid dim ond un diwrnod.
Fel canwr a pherfformiwr, mae’r cerddor o Lansannan yn Sir Conwy yn treulio cryn dipyn o’i amser yn teithio o un lle i’r llall dros y wlad a dyna sydd dan sylw yn ‘Gyrru Ar Y Ffordd’, gafodd ei chyhoeddi ddydd Mercher (Chwefror 8).
Bydd Morgan Elwy a’r band yn cynnal gweithdy yn Ysgol Maes Garmon yn yr Wyddgrug i ddathlu Dydd Miwsig Cymru heddiw (dydd Gwener, Chwefror 10), ac yna’n chwarae yn y Saith Seren yn Wrecsam gyda’r nos efo Dafydd Hedd a Tesni Hughes, fel rhan o gyfres Gigs Cefn Car.
Byddai’n dda o beth petai’r diwrnod yn cael ei ymestyn i Wythnos Miwsig Cymru, meddai, gan ddweud bod “pob diwrnod yn Ddydd Miwsig Cymru” iddo fo.
“Mae Dydd Miwsig Cymru’n grêt, mae o jyst yn rhoi ffocws ar gerddoriaeth Gymraeg am un diwrnod,” meddai enillydd Cân i Gymru 2021, gyda’r gân reggae ‘Bach o Hwne’, wrth golwg360.
“Mae ysgolion i weld fwy a fwy dros y blynyddoedd yn cymryd mwy o ddiddordeb yn y peth ac yn ei gymryd o fwy o ddifrif.
“Ar yr un pryd, mae’n gallu bod ychydig bach yn rhwystredig achos mae yna lot o funding, mae’n rhaid, ar gyfer Dydd Miwsig Cymru a dw i’n meddwl y dyla’ fo fod yn Wythnos Miwsig Cymru.
“Be sy’n digwydd ydy bod lot o ysgolion eisiau i chdi ddod mewn i wneud gweithdy ar yr un diwrnod yna, ac wrth gwrs mae pob diwrnod yn Ddydd Miwsig Cymru i rywun fatha fi!”
Byw ar y ffordd
Cân reggae-rock ydy ‘Gyrru Ar Y Ffordd’, wedi’i chyfeilio gan gitâr Morgan Elwy, Gruff Roberts ar y dryms, Mared Williams ar yr allweddellau, a Mali Elwy yn canu llais cefndir.
“Fe wnes i sgrifennu hi ar ôl cyfnod o fod yn teithio lot o gig i gig ac o berfformiad i berfformiad,” meddai Morgan Elwy.
“Dw i wedi dechrau actio eleni hefyd, ac mae lot o fy ngwaith i’n cynnwys bod on the road a mynd o un lle i’r llall.
“Cân am yr heriau a rhai o’r pethau da o fod yn byw bywyd fel yna [ydi hi].
“Efo gwaith fel perfformiwr neu berson sy’n gwneud gigs neu ganu, mae yna wastad cyfnodau lle ti’n rili prysur ac efo lot i’w wneud.
“Mae fel bod pawb eisiau i chdi wneud gig un diwrnod, a ti’n cael cyfnodau, wythnosau weithiau, heb ddim lot o waith o gwbl ac yn gorfod ffeindio pethau eraill i wneud. Dyna ydy’r heriau mwyaf.
“Lot o’r amser, ti’n rhoi lot o amser a lot o ymdrech tuag at y stwff ti’n wneud, a ti ddim bob amser yn cael unrhyw fath o sylw. Mae’n gallu bod yn eithaf heriol ar adegau.
“Pob gig dw i’n wneud, dw i yn mwynhau eu gwneud nhw ryw ffordd neu’i gilydd, dw i wastad yn mwynhau canu caneuon fi fy hun o flaen cynulleidfa.
“Rydyn ni wedi cael lot o amseroedd da dros y flwyddyn ddiwethaf efo’r band, lot o wyliau a gigs rili cŵl ar draws Cymru ac wedi rili mwynhau chwarae’r rhan fwyaf o’r gigs.
“Mae yna rai lle ti’n trafaelio 150 milltir i lawr i dde Cymru neu i ochr arall y wlad, ac mae yna chwe pherson yn y stafell – mae hynna’n gallu bod yn eithaf torcalonnus weithiau.
“Ond ar adegau eraill ti’n gallu bod yn canu i loads o bobol ac mae pawb yn mwynhau eu hunain.”
- Mae’r sengl allan ar Recordiau Bryn Rock eisoes, ac mae’r fideo ar gyfer y gân i’w gweld ar sianel AMAM heddiw.