Mae band metal o’r gogledd wedi cyhoeddi eu cân Gymraeg gyntaf ar Ddydd Miwsig Cymru heddiw (dydd Gwener, Chwefror 10).
Yn y Saesneg mae Sarah a Gwion, gŵr a gwraig o Fangor sy’n perfformio dan yr enw CELAVI, wedi bod yn cyhoeddi cerddoriaeth hyd yn hyn, ond maen nhw’n awyddus i gyflwyno cerddoriaeth metal i gynulleidfa Gymraeg.
A pha well adeg i wneud hynny nag ar Ddydd Miwsig Cymru, medd Sarah, sy’n canu yn y band ac yn llais cyfarwydd ar Radio Ysbyty Gwynedd.
Neges y sengl newydd ‘Dyma Fi’ ydy annog pobol i fod yn nhw eu hunan a pheidio poeni am farn neb arall.
“Rydyn ni wedi bod yn gweithio ar ganeuon Cymraeg ers dipyn, ac mae o’n rywbeth rydyn ni wedi bod eisiau ei wneud fel band,” meddai Sarah Wynn wrth golwg360.
“Roedd y gân yma wnaethon ni ei sgrifennu, ‘Dyma Fi’, roedden ni’n teimlo fel mai hwn ydy’r amser iawn. Roedd o’n teimlo’n iawn yn greadigol, a’r gân berffaith fel cyflwyniad i CELAVI Cymraeg.
“Dydy hi ddim yn gyfieithiad o gân arall, mae hi’n wreiddiol a jyst yn bodoli yn Gymraeg.
“Roedden ni’n teimlo fel y bysan ni’n licio gwneud miwsig Cymraeg fel CEVALI, a’r adeg berffaith fysa Dydd Miwsig Cymru.”
Cyflwyno metal Cymraeg
Mae CELAVI eisoes wedi derbyn cefnogaeth gan Amazon Music drwy gael eu hychwanegu at restr chwarae olygyddol ‘Best New Bands’ y platfform.
Ynghyd â hynny, maen nhw wedi derbyn cefnogaeth gan ‘BBC Introducing’ ar BBC 6 Music a BBC Introducing in Wales.
“Metal ydy’r gân, metal neu nu metal. Efo’n cerddoriaeth ni, mae gennym ni ddylanwadau electroneg hefyd, ychydig o roc, a diwydiannol.
“Mae’n caneuon ni reit wahanol achos bod yna lot o felodis ynddyn nhw, sy’n gwneud take ni ar fetal ychydig yn wahanol.
“Rhywbeth rydyn ni rili wedi bod eisiau gwneud ydy dod â metal Cymraeg i’r sîn.
“Mae o’n bendant yn rhywbeth rydyn ni yn gweithio arno, mae gennym ni lot o syniadau, ac rydyn ni’n edrych ymlaen i roi caneuon Cymraeg yn ein set ni a gwneud lot mwy o ganeuon Cymraeg.”
Hyrwyddo tu hwnt i Gymru
Mae cyhoeddi’r sengl heddiw yn gyfle iddyn nhw hyrwyddo Dydd Miwsig Cymru ar blatfformau tu hwnt i Gymru, yn ôl Sarah Wynn.
“Mae gennym ni lot o gefnogaeth ar orsafoedd radio a gan gyflwynwyr o Loegr ac yn rhyngwladol, maen nhw wedi cefnogi’n caneuon iaith Saesneg ni,” meddai.
“Yn barod, maen nhw wedi bod mor hyfryd eisiau cefnogi ‘Dyma Fi’ ac maen nhw wedi bod yn holi cwestiynau am Ddydd Miwsig Cymru a ‘Dyma Fi’.
“Maen nhw’n mynd i chwarae’r gân, ac maen nhw wedi bod yn gofyn sut i ddweud ‘Dyma Fi’ yn iawn, ac wedi gofyn am fideos ohonom ni’n siarad am y gân ac yn siarad ychydig bach o Gymraeg.
“Mae’r gefnogaeth rydyn ni wedi’i chael yn barod yr wythnos yma’n wych, ac wedi bod yn lyfli.”
Bydd yna fideo ar gyfer y gân yn cael ei chyhoeddi hefyd, a bydd gan Sarah Wynn raglen ychwanegol o ‘Miwsig Sarah’ ar Radio Ysbyty Gwynedd heno rhwng 7 ac 8, gydag awr o gerddoriaeth Gymraeg a thrafod Dydd Miwsig Cymru.