Mae cynghorwyr wedi anfon llythyr ar y cyd at y rheoleiddiwr cystadleuaeth yn sgil pryderon y gallai cais posib i brynu Neuadd Dewi Sant arwain at fonopoli ar leoliadau yng Nghaerdydd.

Mae wyth o gynghorwyr Ceidwadol Cyngor Caerdydd wedi ysgrifennu at yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd i fynegi pryderon am gais gan AMG i brynu’r lleoliad cerddoriaeth clasurol, a hwnnw’n gwmni sy’n eiddo Live Nation ar y cyfan.

Mae’r cynghorwyr yn tynnu sylw at y ffaith fod Live Nation eisoes yn rheoli Arena Ryngwladol Caerdydd, ac y byddan nhw hefyd yn cyd-redeg yr arena newydd yng Nghaerdydd.

Mae’r llythyr wedi’i lofnodi gan y cynghorwyr Adrian Robson, Calum Davies, Catriona Brown-Reckless, Joel Williams, Emma Reid-Jones, John Lancaster, Peter Littlechild a Sian-Elin Melbourne, ac mae’n gofyn “ble mae rhyddid y farchnad os ydyn nhw’n cael Neuadd Dewi Sant hefyd?”

“Rydym yn credu bod galluogi cwmni unigol i ddominyddu’r sector cerddoriaeth fyw yng Nghaerdydd, drwy integreiddio llorweddol, yn dileu unrhyw ddewis a gwerth ar gyfer ffans cerddoriaeth,” meddai’r llythyr.

“Ar ôl cytuno i’r trafodyn hwn, a allai Cyngor Caerdydd sefyll i fyny i Live Nation pe bai’n cynnig cau Neuadd Dewi Sant neu ddirwyn perfformiadau clasurol i ben oni bai bod Cyngor Caerdydd yn talu mwy o arian?”

Ffyrdd newydd o weithredu

Wrth i’r Cyngor wynebu bwlch cyllidebol o £23.5m a gyda Neuadd Dewi Sant yn adeiladu biliau cynnal a chadw gwerth miliynau o bunnoedd, mae’r awdurdod wedi bod yn edrych ar ffyrdd newydd o redeg y lleoliad.

Cafodd cynnig gan AMG i redeg Neuadd Dewi Sant ar les hirdymor ei dderbyn mewn egwyddor gan Gabinet Cyngor Caerdydd ym mis Rhagfyr.

Mae’r cynnig wedi cael ei wrthwynebu’n helaeth gan weithwyr, mynychwyr cyngherddau a cherddorion.

Mae deiseb yn gwrthwynebu’r cynnig wedi denu dros 21,700 o lofnodion.

Mae cynghorwyr hefyd wedi mynegi pryderon am ddyfodol rhaglen cerddoriaeth glasurol Neuadd Dewi Sant, rywbeth sydd wedi’i grybwyll yn y llythyr at yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd.

Ond mae’r Cyngor yn mynnu bod gwarchod y rhaglen gerddorol yn flaenoriaeth fel rhan o unrhyw gytundeb.

Fel rhan o’u cynnig, mae AMG yn dweud y byddan nhw’n ymrwymo i neilltuo 60 o ddiwrnodau yn ystod cyfnodau brig, a 25 diwrnod ychwanegol y tu allan i gyfnodau brig, i sicrhau amser ar gyfer digwyddiadau gan gynnwys Canwr y Byd a’r Proms.

Yng nghyfarfod Cyngor Caerdydd ym mis Rhagfyr, gofynnodd y Cynghorydd Catriona Brown-Reckless sut y byddai’r Cyngor yn gallu sefyll i fyny i gwmni sydd â monopoli ac i’r “fath rym sydd gan Live Nation”.

“Fe fydd yna gytundeb,” meddai Neil Hanratty, Cyfarwyddwr Datblygiad Economaidd Cyngor Caerdydd, yn ystod y cyfarfod.

“Bydd gan y Cyngor les ac mae cymalau yn y les fydd yn ein galluogi ni i reoli’r pethau sy’n bwysig i ni.”

Ymateb AMG

“Mae’r Academy Music Group yn buddsoddi yn nyfodol Neuadd Dewi Sant er mwyn sicrhau bod y lleoliad annwyl hwn yn parhau i ddod â cherddoriaeth glasurol a chyfoes i’w gynulleidfa ymroddedig am flynyddoedd i ddod,” meddai llefarydd ar ran AMG.

Unwaith fydd cytundeb drafft yn cael ei lunio, bydd y Cyngor yn cyhoeddi hysbysiad VEAT, sy’n cael ei ddefnyddio i gyhoeddi bwriad masnachol i’r farchnad ehangach.

Mae hyn yn galluogi cystadleuwyr i herio’r cynnig, fyddai’n arwain at broses gaffael.

Bydd hysbysiad VEAT fel arfer yn ei le rhwng deg ac ugain diwrnod.

Os na fydd her unwaith daw’r cyfnod VEAT i ben, bydd adroddiad terfynol yn cael ei gyflwyno i Gabinet y Cyngor ei gymeradwyo.

Mae’r Cyngor yn mynnu eu bod nhw’n anelu i gael penderfyniad terfynol gan y Cabinet ym mis Mawrth.