Mae Cronfa Lansio Gorwelion wedi cyhoeddi gwobrau gwerth dros £70,000 i 42 o artistiaid a labeli newydd ledled Cymru.

Mae Cronfa Lansio Gorwelion yn rhan o Gorwelion, sy’n bartneriaeth rhwng BBC Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru ac sy’n buddsoddi mewn talent cerddoriaeth Gymreig wreiddiol ac yn rhoi llwyfan iddyn nhw.

Mae Cronfa Lansio Gorwelion 2023 yn addo bod yn flwyddyn eithriadol, gyda thros £70,000 mewn gwobrau’n cael ei ddosbarthu, y swm uchaf sydd wedi’i gynnig ers sefydlu’r gronfa yn 2014.

Caiff y cyllid ei gynnig i gefnogi gwaith talent o bob rhan o’r wlad ac sy’n rhychwantu sbectrwm tirwedd gyfan cerddoriaeth yng Nghymru.

Mae’r rhai sy’n derbyn yr arian eleni’n cynnwys artistiaid o’r gymuned RnB a rap, bandiau pync a roc, perfformwyr talentog yn yr iaith Gymraeg, ac artistiaid newydd cyffrous sy’n ennill cydnabyddiaeth ac yn tyfu eu cynulleidfaoedd ar lwyfan ac ar recordiau.

Dydd Miwsig Cymru

Daw’r cyhoeddiad ynghylch y gwobrau ar Ddydd Miwsig Cymru.

Nod Dydd Miwsig Cymru yw cyflwyno miwsig Cymraeg i gynulleidfaoedd newydd drwy ddathlu miwsig Cymraeg a’r artistiaid sy’n achosi cynnwrf yma ac ar draws y byd.

Yn ystod y 12 mis diwethaf, mae mwy na 70 o albymau a 140 o senglau wedi’u rhyddhau yn yr iaith, tra bod caneuon wedi’u perfformio ar lwyfannau o Glastonbury i Eurosonic yn yr Iseldiroedd.

Mae digwyddiadau byw wrth galon Dydd Miwsig Cymru eleni wrth i fwy na 30 o gigs a digwyddiadau gael eu cynnal ledled Cymru a’r byd, o Gaerdydd, Abertawe, Casnewydd, Pontypridd, Aberystwyth a Wrecsam i Budapest, ar gyfer yr hyn sy’n argoeli i fod y Dydd Miwsig Cymru mwyaf erioed o ran mynychwyr a’r nifer o gigs.

I nodi’r diwrnod hwn ac i ddathlu’r artistiaid sy’n derbyn gwobrau, bydd Gorwelion yn cynnal parti lansio swyddogol yn yr Eglwys Norwyaidd ym Mae Caerdydd heno (nos Iau, Chwefror 9 am 8 o’r gloch).

Bydd y parti’n cynnwys perfformiadau gan Sage Todz, Parisa Fouladi a Mari Mathias, gan arddangos gwaith Angel Hotel, Jenna Kearns, Macy a Telgate hefyd.

Bydd detholiad o artistiaid Cronfa Lansio 2023, gan gynnwys Sage Todz, Parisa Fouladi, Gillie a Melda Lois, hefyd yn recordio sesiynau’r BBC yn Sgwâr Canolog ar Ddydd Miwsig Cymru (dydd Gwener, Chwefror 10).

Gallwch ddilyn yr holl weithgaredd ar gyfryngau cymdeithasol Gorwelion @horizonscymru.

Mae’r artistiaid sy’n derbyn gwobrau eleni i ddatblygu eu gyrfaoedd cerddorol yn cynnwys y band roc Cymraeg Ffatri Jam, sy’n hanu o Fôn a Chaernarfon; y canwr-gyfansoddwraig R&B o Gaerdydd, Aduja; y band aggro-glam, Telgate; Truth, rapiwr 19 oed o Gasnewydd; yr artist hip hop o ogledd Cymru, Sage Todz; y canwr pop indie, Aderyn, a gafodd ei magu ar fferm ddefaid ym Mannau Brycheiniog; yr act electronig arbrofol Sachasom, sy’n hanu o Fachynlleth; a Koash – artist pop cyfoes o dras Arabaidd a Chymreig.

Mae tair label recordio hefyd wedi derbyn arian eleni i helpu eu gwaith nhw i ddatblygu a chefnogi artistiaid Cymreig.

Y tair label yw Dirty Carrot Records, label recordio annibynnol wedi’i leoli yng Nghasnewydd, a’r labeli yng Nghaerdydd, Bard Picasso Records, a Phwoar a Peace Records.

“Mae yna lawer iawn o dalent ym myd cerddoriaeth Cymru ac roedd yn fraint cael gwrando ar yr ystod o gerddoriaeth a darganfod artistiaid newydd gwych,” meddai Antwn Owen-Hicks, Rheolwr Portffolio Cyngor Celfyddydau Cymru.

“Mae’r Gronfa Lansio yn ffynhonnell hanfodol o gefnogaeth i artistiaid newydd yng Nghymru, ac edrychwn ymlaen at ddilyn hynt y rhai sy’n derbyn cyllid eleni.”

‘Cyfnod anodd a heriol’

“Yn sicr mae hi wedi bod yn gyfnod anodd i artistiaid newydd ac i’r gymuned gerddoriaeth yng Nghymru, ac mae wedi bod yn gyfnod heriol i bawb fagu momentwm eto, felly mae’n wych gweld buddsoddiad ar lawr gwlad y sîn yng Nghymru,” meddai Bethan Elfyn, Rheolwr Prosiect gyda Gorwelion.

“Drwy fuddsoddi mewn artistiaid, rydym yn rhoi hwb i’r holl ecosystem gerddoriaeth o amgylch yr artistiaid – o’r stiwdios i gynhyrchwyr, labeli, cwmnïau hyrwyddo a chymaint mwy.

“Rydyn ni’n gyffrous iawn i weld sut mae’r prosiectau cerdd hyn yn datblygu.”

Yr artistiaid sydd wedi derbyn arian o Gronfa Lansio Gorwelion 2023 yw

· Aderyn – Aberhonddu

· Adjua – Caerdydd

· Angel Hotel – Caerdydd

· Angharad – Abertawe

· Baby Brave – Wrecsam

· Banshi – Caerdydd

· Bard Picasso Records – Caerdydd

· Breichiau Hir – Caerdydd

· Chroma – Pontypridd

· Dactyl Terra – Caerdydd

· DD Darillo – Caerdydd

· Dirty Carrot Records – Casnewydd

· Ffatri Jam – Ynys Môn a Chaernarfon

· French Alps Tiger – Pontardawe

· Gillie – Llangadog, Sir Gaerfyrddin

· Hollie Profit – Conwy

· Jenna Kearns – Casnewydd

· Jimbo – Caerdydd

· Koash – Casnewydd

· Leila McKenzie – Abertawe

· Macy — Abertyleri

· Man Like Vision – Casnewydd

· Mari Mathias – Caerdydd

· Melda Lois – Caerdydd

· Minas – Caerdydd

· Murder Club – Casnewydd

· Natty Paynter – Caerdydd

· Nookee – Caerdydd

· Parisa Fouladi – Caerdydd

· Phwoar & Peace Records – Caerdydd

· Rhi’n’B – Abertawe

· Sachasom – Machynlleth

· Sage Todz – Caernarfon

· Samana – Hendy-gwyn ar Daf

· Sorry Stacy – Caerdydd

· Sywel Nyw – Caerdydd

· Telgate – Caerdydd

· The Family Battenburg – Caerdydd

· The Goudies – Pontyclun

· The Night School — Abertawe

· The Lixx – Tonyrefail

· Truth – Casnewydd

Y gronfa

Ers ei sefydlu wyth mlynedd yn ôl, mae Cronfa Lansio Gorwelion wedi rhoi arian i oddeutu 300 o artistiaid, o dros 60 o wahanol ddinasoedd a threfi yng Nghymru, gan fuddsoddi £343,000 yn ecosystem cerddoriaeth Cymru.

Mae’r arian ar gyfer Cronfa Lansio Gorwelion yn bosibl drwy’r Loteri Genedlaethol, sy’n cael ei ddyrannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Mae llawer wedi cael eu cefnogi yn eu gwaith creadigol gyda’r gronfa yn eu galluogi i dreulio amser mewn stiwdio, comisiynu ffotograffiaeth a gwaith celf ar gyfer hyrwyddo recordiau newydd, offer, cynhyrchu fideo a chostau teithio.

I’r 42 o artistiaid sydd wedi derbyn cyllid eleni, mae hon yn foment allweddol yn eu taith ac yn gam yn nes at gymorth arall gan Gorwelion, gan gynnwys datblygu artistiaid, hyrwyddo ac arddangos setiau mewn gwyliau.

‘Hynod werthfawr’

“Rwy’n gweithio ar fy EP cyntaf ar hyn o bryd; caiff ei ryddhau eleni,” meddai Leila McKenzie o Abertawe.

“Mae’r cyllid hwn yn mynd i helpu gyda’r broses – o bopeth fel costau gwaith celf i sesiynau byw a chysylltiadau cyhoeddus – sydd i gyd yn hynod werthfawr i artist fel fi.”

Dywedodd artist arall a fydd yn derbyn cyllid, Gillie, ei bod hi wedi’i chyffroi o gael ei dewis fel enillydd.

“Mi fyddaf yn defnyddio’r cyllid hwn i fuddsoddi mewn offer recordio y mae mawr ei angen a fydd yn mynd â’m proses gynhyrchu i gam nesaf ei datblygiad,” meddai.

“Mae hyn yn golygu cymaint i mi, nid yn unig fel artist, ond fel cynhyrchydd benywaidd, ac edrychaf ymlaen at harneisio fy set sgiliau ymhellach!”

Mae Dirty Carrot Records yn “ddiolchgar iawn i Gorwelion”, medden nhw.

“Bydd y cyllid yn ein helpu i gyflawni ein prosiect nesaf, sef ffilmio sesiynau byw yng Ngwesty’r Westgate, gan ddarparu fideos o safon uchel ohonynt yn perfformio i’n hartistiaid.”

Ar y panel ddewisodd yr enillwyr roedd Lowri Jones (Cyngor Celfyddydau Cymru), Antwn Owen-Hicks (Cyngor Celfyddydau Cymru), Tori Sillman (Anthem), Ifan Davies (BBC Radio Cymru), Sam Dabb (Le Pub), Helen Weatherhead (BBC 6 Music), Christina MacDonald (EYC Ltd), Aleighcia Scott (BBC Radio Wales/Artist), James Prendergast (The Shutdown Show), Tara Turner (Beacons/The Honey Sessions), Perrie Wilson (Rheolwr Artist: Mace the Great), Sam MacGregor (BBC Radio 1), Danni Ditson (BBC Radio 1), Alex Jones (Beacons/Forte), Natalie Jones (FOCUS Cymru).