Daeth un o raglenni S4C i’r brig mewn gwobrau Prydeinig yn Llundain neithiwr (Chwefror 8), gan guro cyfresi fel Love Island.

Enillodd Drych: Fi, Rhyw ac Anabledd wobr yn y categori Rhaglen Aml-sianel Orau yng Ngwobrau Broadcast 2023.

Mae’r rhaglen, gafodd ei chynhyrchu gan Wildflame, yn dilyn Rhys Bowler, dyn 34 oed o Drefforest, sy’n byw gyda Muscular Dystrophy, anhwylder genetig sy’n achosi dirywiad cynyddol i’r cyhyrau.

Teimlad Rhys ydy bod angen trafodaeth fwy agored am anabledd a rhyw.

Yn ogystal ag ennill gwobr, cafodd S4C enwebiad arall yn y categori Rhaglen Orau Aml-sianel am Ysgol Ni: Y Moelwyn (Darlun).

Cafodd y rhaglen Efaciwîs (Wildflame) enwebiad yn y categori Rhaglen Blant Orau hefyd.

‘Cystadlu gyda’r gorau’

Dywed Llinos Griffin Williams, Prif Swyddog Cynnwys S4C, eu bod nhw’n falch iawn bod y rhaglenni wedi cael cydnabyddiaeth yn y gwobrau, ac wedi dod i’r brig mewn categori mor gystadleuol.

“Mae’r gwobrau Broadcast yn dathlu’r gorau o blith sianeli a chynnwys teledu Prydain – felly’r ffaith bod S4C wedi ennill gwobr – yn dangos ein bod ein cynnwys ni o safon uchel sy’n gallu cystadlu gyda’r gorau yn y byd darlledu,” meddai.

“Llongyfarchiadau mawr i Wildflame a Darlun a’r holl dimau talentog sydd wedi gweithio’n ddiwyd ar y rhaglenni yma.”

Rhyw ac anabledd “wastad wedi bod yn dabŵ”

Cadi Dafydd

“Os mae’n rhaid ti wneud rhywbeth – yna ti’n gallu! Os mae gyda ti anabledd, does dim rhaid i hwnna stopio ti,” meddai Rhys Bowler