Mae dyn sy’n byw gydag anhwylder genetig sy’n achosi dirywiad cynyddol i’r cyhyrau, yn awyddus i ddechrau sgwrs gyffredinol ac agored am anabledd a rhyw.

Bydd Rhys Bowler, sy’n 34 oed ac yn byw o Drefforest, yn dechrau’r drafodaeth yn ystod rhaglen gyntaf cyfres newydd DRYCH ar S4C nos Sul, 30 Ionawr.

Ei obaith wrth siarad ar y rhaglen yw torri’r tabŵ sy’n gysylltiedig â’r pwnc, yn ogystal â dangos i eraill yn ei sefyllfa nad oes rhaid i anabledd eu stopio nhw rhag gwneud pethau – o fyw yn annibynnol i ffurfio perthnasau.

Mae gan Rhys Bowler Duchenne Muscular Dystrophy, ac yn ei amser rhydd mae’n siaradwr ysgogol.

“Tabŵ”

Mae trafod rhyw ac anabledd wastad wedi bod yn bwysig iawn i Rhys Bowler.

“I fi, dyw cymdeithas erioed wedi derbyn anabledd a rhyw fel trafodaeth am ryw reswm. Mae e wastad wedi bod yn dabŵ,” meddai wrth golwg360.

“Doeddwn i erioed yn deall pam ei fod yn dabŵ.

“Cymerodd amser hir, a dw i wedi bod yn disgwyl am gyfle i gydnabod y ffaith honno.

“Fy mhwynt i oedd dweud: ‘Edrychwch, rydyn ni’r un fath â chi, rydyn ni gyd yn ei wneud e, mae e’n beth dynol’.

“I fi, mae rhyw yn ran fach iawn ohono, dyw e ddim yn angenrheidiol cael rhyw.”

Mae profiadau Rhys Bowler wedi’i annog i ddod i’r casgliad bod cael cysylltiad ystyrlon a pherthynas yn bwysicach na chael rhyw, ac yn ystod y rhaglen, mae’n mynd ar daith, yn llythrennol, i chwilio am gariad.

“Dweud y ffeithiau”

Mae Rhys Bowler yn credu bod angen gwneud mwy  o ran ysgogi trafodaeth agored am ryw ac anabledd, a hynny drwy siarad am y pwnc ar y teledu “a’i gael drosodd, nid mewn ffordd dros ben llestri, risque, ond mewn sgwrs gyffredinol”.

“Dweud y ffeithiau fel y maen nhw, jyst siarad amdano yn gyffredinol.”

Yn ddiweddar, mae cyfres Sex Education ar Netflix wedi ysgogi rhywfaint o drafodaeth ynghylch anabledd a rhyw, a chynrychiolaeth mewn rhaglenni ac yn y cyfryngau, ond ar y cyfan mae anabledd a rhyw yn un o’r pynciau hynny sydd wedi cael eu “gwthio i un ochr”, meddai Rhys Bowler.

“Mae hi’n hen bryd ei drafod,” ychwanegodd, gan ddweud ei fod yn ddiolchgar i S4C am y cyfle i ddechrau’r drafodaeth.

“Mae’r holl bethau hyn yn bosib”

Dechreuodd Rhys Bowler roi sgyrsiau i ysbrydoli ac ysgogi eraill yn 2019, a chyn y pandemig bu’n siarad mewn ambell gyfarfod busnes, ac mewn prifysgolion a cholegau.

Daeth hynny i ben gyda’r pandemig, ac ers hynny mae Rhys wedi bod yn cynnal nifer o sgyrsiau ar-lein.

“Fe wnaeth fy mrawd farw yn 2017, i fi roedd hynny’n rym i fy ngwthio. Roeddwn i eisiau bod yno i eraill yn fy sefyllfa, fel roedd e yno i fi,” meddai.

“Rhan o’r rhaglen ddogfen hon yw’r ffaith fy mod i eisiau dweud wrth eraill yn fy sefyllfa i fod yr holl bethau hyn yn bosib.

“Rydych chi’n gallu llwyddo i gael perthnasau, rydych chi’n gallu cael rhyw, rydych chi’n gallu cael annibyniaeth – gallwch chi gael yr holl bethau hyn.

“Jyst achos eich bod chi’n anabl, dyw e ddim yn golygu y dylai hynny’ch stopio chi.

“Os mae’n rhaid ti wneud rhywbeth – yna ti’n gallu! Os mae gyda ti anabledd, does dim rhaid i hwnna stopio ti.

“Os ti ddim yn gallu gwneud y pethau yna, ti’n ffeindio ffordd o’u gwneud nhw.”

  • Bydd DRYCH: Fi, Rhyw ac Anabledd ar S4C nos Sul, 30 Ionawr am 9yh.