Bydd cyfres ddogfen newydd ar S4C yn taflu golau ar lanciau sy’n hoffir gyrru ceir yn y gogledd.

Canolbwynt cyfres Pen Petrol fydd y criwiau moduro Unit Thirteen a’r Midnight Runners o Fangor, sy’n treulio’u hamser yn addasu, arddangos a ralio ceir o amgylch yr ardal.

Bwriad y rhaglen yw dangos criw sydd yn aml yn cael enw drwg a’u cyhuddo o achosi perygl ar y ffyrdd.

‘Peintio chdi efo’r un brwsh’

Craig Gilmour

Mae Unit Thirteen yn denu dilynwyr o Wynedd, Ynys Môn, ac ar draws gogledd Cymru i’w digwyddiadau, ac mae Craig Gilmour o Langefni, sy’n aelod o’r grŵp, yn egluro sut mae pobol yn feirniadol o’r diwylliant.

“Dwi ddim yn licio’r gair boyracer,” meddai.

“Dwi’n enthusiastic am geir. Dwi ddim yn dreifio allan o gwaith yn rasio pobl ar y ffordd adra.

“Ond mae lot yn peintio chdi efo’r un brwsh a’r bobol sydd yn neud idiots o’i hunain. Mae pobol yn awgrymu bo chdi’n anti-social.

“Fel grŵp da ni’n reit mechanically-minded, da ni efo hogia sy’n peintio, detailio, paint correction, vinyl wrapping, da ni efo engineers a machine specialists.

“Dwi’n meetio gymaint o wahanol bobol sydd fewn i gymaint o wahanol geir. Ond mae pawb yn dod at ei gilydd am yr un rheswm – ceir.”

‘Da ni ddim above the law, da ni’n gwrando!’

Bydd cyfres Pen Petrol yn edrych ar wahanol agweddau o’r diwylliant ceir, gan gynnwys digwyddiadau ceir clasurol, ceir drifftio, ralis canol-nos ym Mhen Llŷn, a digwyddiad ceir super ym Miwmares.

Bydd y grŵp arall o Fangor, y Midnight Runners, yn cael sylw yn y bennod gyntaf.

Maen nhw wedi trefnu rhai o ddigwyddiadau ceir mwyaf gogledd Cymru dros y blynyddoedd, ac yn ddiweddar, mae eu ‘meets’ wedi denu cannoedd o bobol a’u ceir.

Mae Nathan Owen o Lanerchymedd yn dweud nad oes bwriad ganddyn nhw i annog ymddygiad gwrthgymdeithasol.

“Y munud ti’n deud Midnight Runners i’r police, neith hanner ohonyn nhw [rolio llygaid],” meddai.

“Da ni actually wedi pacio car park yn Llandudno o’r blaen a mae na ryw 400, 500 o spaces yna.

“Fel da ni yna, ti’n gweld pobol yn eu bedrooms yn ffilmio ni allan o’r ffenast, recordio ni’n cyrraedd a recordio ni’n gadael.

“Maen nhw’n deud ar Facebook wedyn bod ni di bod yna drwy’r nos, a chwech awr o refio. Ond dim ond tair awr o stay sydd yna, da ni ddim above the law, da ni’n gwrando!

“Da ni’n actually gwisgo high-vis mewn meets ni, a pan mae’r police yn dod yna, ma’ nhw’n actually deud diolch i ni am fod ni’n trio cadw fo’n organised.”

Bydd pennod gyntaf Pen Petrol yn cael ei ddarlledu ar S4C nos Lun nesaf (31 Ionawr) am 9.35.

Ond i’r rheiny sy’n ysu i weld bob pennod ar unwaith, bydd y gyfres gyfan ar gael i’w gwylio fel bocs set ar S4C Clic a thudalen YouTube Hansh o nos Lun ymlaen.