Mae Lloyd Steele – o’r band Y Reu gynt – wedi lansio prosiect cerddorol newydd sbon danlli sy’n hyrwyddo hunaniaeth gyda phop positif.

Mae’r sŵn yn dra wahanol i’r gerddoriaeth drom yr oedd Y Reu yn ei chynhyrchu, ac mae Lloyd yn dweud ei bod hi wedi cymryd sbel iddo setlo ar y math o gerddoriaeth yr oedd o am ei ryddhau.

Bydd ei gân gyntaf ‘Mwgwd’ allan ar Chwefror 4.

“Dw i wedi bod yn sgwennu stwff ers ‘chydig o flynyddoedd rŵan gan fod Y Reu wedi mynd ar bach o frêc a bo’ nhw di mynd ymlaen a gweithio ar brosiectau fatha Kim Hon a ballu,” meddai wrth golwg360.

“Wnes i benderfynu mentro ar ben fyn hun er mwyn i mi allu cael mynegi ochr cerddorol fi math o beth, ond dw i wedi bod yn indecisive am sut dw i eisio i hwnna swnio.

“Dw i wedi bod yn eistedd ar lot o stwff ers eithaf dipyn achos dw i’n meddwl fy mod yn poeni am sut ymateb basa fo’n cael gan bobl.

“Ond dw i wedi cyrraedd pwynt rŵan lle dw i ddim yn poeni gymaint am hynna.

“Dw i wedi creu rhywbeth dw i’n rili hapus hefo fo felly dw i’n poeni llai am be’ mae pobl eraill yn feddwl amdano fo.

“Dw i jyst yn falch mod i’n rhydd i ryddhau pethau fy hun.”

Sut brofiad ydi cyfansoddi cerddoriaeth yn unigol yn hytrach nag fel aelod o fand felly?

“Mae o’n brofiad gwahanol, definitely.

“Weithiau ti’n gorfeddwl stwff oherwydd bo’ gen ti ddim pobl eraill i roi barn ar bethau a dw i’n meddwl ella mai dyna pam mae o wedi cymryd mor hir i mi allu creu rhywbeth dw i’n hapus efo.

“Pan nes i ddechrau ro’n i’n meddwl y basa fo’n brofiad lot fwy rhydd oherwydd does gen ti ddim constraints ond mae o’r ffordd arall rownd os wbath.

“Ond mae o wedi bod yn neis oherwydd dw i’n cael cyfleu elfen mwy personol ohona fi, mae yna lot o be dw i’n meddwl amdano yn mynd i mewn i’r gerddoriaeth.”

“Bod yn pwy wyt ti”

Context y gân ydi sôn am hunaniaeth dy hun,” meddai Lloyd.

“Dw i’n meddwl ei bod hi’n bwysig bod yn pwy wyt ti fel person achos mae hynna yn rhywbeth ro’n i’n stryglo lot efo yn y gorffennol cyn i mi ddod allan yn hoyw.

“Doeddwn i ddim yn teimlo mod i’n gallu byw bywyd fy hun fel pwy o’n i go-iawn ac roedd hynna yn rhoi pwysau ar fy mywyd i mewn ffordd.

“Ond wedyn pan ddes i dros hynna, wnes i sylweddoli bod stwff i weld yn dipyn haws o ran bywyd.

“Gan mod i ddim yn cuddio pwy oeddwn i roedd bywyd jyst i weld yn lot brafiach, so am hynna mae’r gân.

“Wedyn mae’r fideo dw i wedi’i wneud efo Lŵp yn based ar gymeriad sy’n gwisgo masg.

“Mae yna lein ‘Tra bod y mwgwd ymlaen, bydda i’n dangos gwen’ – so bo’ chdi’n smalio bod pob dim yn iawn, ond dydi o ddim… ti’n cuddio am dy fod ti ddim yn chdi dy hun a bod pob dim ddim yn teimlo’n grêt.

“Ond wedyn yn y gân mae yna twist gobeithiol lle ti’n tynnu’r masg i ffwrdd a ti’n teimlo bo’ chdi’n medru bod yn chdi dy hun a ti’n cynhyrfu am hynny.

“Mi faswn i’n licio meddwl ella bod rhywun yn gwrando ar y gân a meddwl ‘O ia, dw i’n dallt be mae o’n feddwl, mae gen i ryw fath o fwgwd neu barrier sy’n nadu fi rhag bod yn pwy ydw i go-iawn’.

“Dw i jyst yn rhannu fy mhrofiadau i a dw i’n teimlo’n dipyn brafiach ers i mi gael gwared ar lot o fy ofnau ac embrace-io pwy ydw i fatha person.”

Arwyddo gyda Côsh Records

Mae’r gân newydd yn cael ei rhyddhau ar Côsh Records ar Chwefror 4, ond sut ddaeth Lloyd i arwyddo â’r label?

“Pan ddaeth hi’n amser lle ro’n i’n barod i ryddhau’r gân doeddwn i’m yn siŵr iawn be’ oedd yr approach gorau,” eglura Lloyd.

“Nes i benderfynu anfon fo at Yws (Gwynedd) er mwyn cael ei expertice o gan fod o’n rhedeg Côsh ac ati.

“Wedyn ddaru o wrando ar y gân a fuon ni’n trafod a ddaru o gynnig i mi ryddhau fo o dan Côsh ac roedd hynny yn ideal i mi.

“Mi ddaru o ddangos dipyn o bethau i mi nid yn unig o ran rhyddhau’r gân ond hyrwyddo fo hefyd.

“Ddaru o helpu o ran cael Lŵp yn rhan o greu’r fideo sy’n amlwg yn mynd i helpu i hyrwyddo fo, ac mae o’n rhywbeth neis i fynd efo’r gân hefyd.

“Mae o wedi bod yn neis cael y gefnogaeth yna, yn enwedig gan mod i’n gwneud o ar ben fy hun hefyd.

“Mae o’n braf cael tîm rili da y tu ôl i mi i wneud yn siŵr bod yn gân yn cyrraedd ei botensial a bod gymaint o bobl yn gwrando arno fo ac sy’n bosib rili.”

“Caneuon eraill ar y gweill”

Allwn ni ddisgwyl clywed mwy o ganeuon gan Lloyd felly?

“Mae yno bendant ganeuon eraill ar y gweill,” eglura Lloyd.

“Dw i wedi sgwennu lot dros y blynyddoedd diwethaf so dw i yn y broses o blethu stwff dw i wedi sgwennu o’r blaen i siwtio’r math o sŵn yma dw i isio rŵan.

“Mae yno o leiaf dwy gân arall pretty much wedi gorffen y bydd y rheini’n dod allan yn ystod y misoedd nesaf.”