Mae ffilm gan ddisgyblion ysgol gynradd yng Ngwynedd, sy’n seiliedig ar un o chwedlau mwyaf adnabyddus Cymru, wedi creu cryn dipyn o argraff ar lwyfan byd.
Cafodd Blot-deuwedd ei chynhyrchu gan ddisgyblion Ysgol Rhosgadfan a’i gweld gan gynulleidfa ryngwladol yn Uwchgynhadledd Newid Hinsawdd COP26 ym mis Tachwedd y llynedd.
Yn seiliedig ar gainc Blodeuwedd o’r Mabinogi, mae’r ffilm yn edrych ar y stori yng nghyd-destun modern, gan gyfleu’r heriau sy’n wynebu’r byd yn sgil newid hinsawdd.
Cyngor Gwynedd oedd wedi comisiynu’r ffilm fel rhan o’u prosiect Ynys Blastig, er mwyn delio â phwnc newid hinsawdd mewn ffordd greadigol.
Mae’r stori yn egluro sut mae dyn wedi ‘blotio’ y blaned, gan ddilyn y prif gymeriad Hana Hughes, ei chyd-ddisgyblion yn Ysgol Rhosgadfan, a’r actores Ceri Lloyd, sydd wedi actio ar gyfresi fel Rownd a Rownd, Pen Talar a Teulu.
Wythnos diwethaf, cafodd y ffilm ei dangos mewn premiere lleol yn Galeri Caernarfon, gyda’r plant a’r rhieni yn heidio i lawr y carped coch i’w gweld ar y sgrin fawr.
‘Agor ein meddyliau’
Yn ystod y premiere, mynegodd pennaeth Ysgol Rhosgadfan, Judith Owen, ei balchder o weld disgyblion yn serennu.
“Mae cael cymryd rhan mewn prosiect o’r math yma wedi bod yn brofiad bythgofiadwy i’r disgyblion a’r staff,” meddai.
“Yn sicr mae’r cyfleoedd yma wedi llwyddo i agor ein meddyliau i gyfraniad y celfyddydau o fewn cwricwlwm cyflawn yr ysgol.
“Mae’r cydweithio rhwng staff yr ysgol a gweithwyr proffesiynol wedi bod yn werthfawr tu hwnt.
“Mae gallu cynnig profiadau ac arddulliau sbardunus er mwyn i ddisgyblion allu llwyddo i’w llawn botensial yn ganolog i feddylfryd yr ysgol. Mae’r hadyn cychwynnol wedi esblygu i’r eithaf yma ac yn parhau i ffynnu a blodeuo.
“Rydym yn hynod ddiolchgar i Ynys Blastig a phawb sydd yn gysylltiedig â’r prosiect.”
‘Neges drymlwythog’
Ymhlith y gynulleidfa oedd yr Aelodau Seneddol lleol, Siân Gwenllian AoS a Hywel Williams AS.
Roedd y ddau wedi eu synnu gan y gwaith, ac wedi canmol y disgyblion am eu portread dirdynnol o newid hinsawdd.
“Fel pob un o’r Mabinogi, mae gan Blodeuwedd neges frawychus o berthnasol i Gymru heddiw,” meddai Hywel Williams, yr Aelod Seneddol dros Arfon.
“Yn y chwedl mae neges oesol am effaith ddinistriol dynoliaeth, sy’n arbennig o berthnasol i oes yr argyfwng hinsawdd.
“Mae honno’n neges drymlwythog i’w chyfleu mewn ffilm fer, ond mae plant Ysgol Rhosgadfan wedi llwyddo i wneud hynny’n rhagorol.
“Wrth wylio’r ffilm fer, cefais fy atgoffa o bortread yr arlunydd adnabyddus Richard Wilson o’r Wyddfa o gyfeiriad Llyn Nantlle, sy’n cael ei arddangos yn Llundain.
“Mae’r portread hwnnw’n ein hatgoffa o le Cymru yn y byd. Efallai wir ein bod yn wlad fechan, ond mae gennym gyfrifoldeb pwysig wrth fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.
“Fel y soniais wrth y disgyblion, ‘sbïwch allan i’r byd, ond dechreuwch wrth eich traed.’”
‘Ardal sy’n berwi ag egni creadigol’
Ychwanegodd Siân Gwenllian, yr Aelod o’r Senedd dros Arfon, ei bod hi’n gwerthfawrogi gweld plant yn cael y cyfle i ymdrin â newid hinsawdd.
“Es i i Rosgadfan i gwrdd â’r disgyblion cyn y Nadolig, ac roeddwn wrth fy modd yn cael gwahoddiad i’r premiere yn Galeri Caernarfon,” meddai.
“Ar fy ymweliad cefais anrhegion Nadolig a oedd yn ein hatgoffa o gyfrifoldeb yr unigolyn yng nghyd-destun yr argyfwng newid hinsawdd. Roedd 12 cracer Nadolig, yn cynrychioli 12 diwrnod y Nadolig, yn cynnwys cynghorion dydd i ddydd ar sut i leihau ein hôl troed carbon.
“Mae Arfon yn ardal sy’n berwi ag egni creadigol, celfyddydol. Mae rhoi’r cyfle i blant sianelu’r egni hwnnw, a’i gyfuno â materion fel newid hinsawdd yn hollbwysig.”