Mae artist gwerin yn dweud ei bod hi’n bwysig fod ieithoedd lleiafrifol yn cael eu hybu, ar drothwy dathliad o gerddoriaeth a diwylliant Celtaidd fis nesaf.

Bydd chwe artist o Gymru yn perfformio yn Showcase Scotland yn Glasgow ym mis Chwefror, gyda’r digwyddiad yn rhan o ŵyl ehangach Celtic Connections.

Fe wnaeth yr ŵyl fyd-enwog honno ddenu cynulleidfa fyw o tua 130,000 o bobol i’r Alban, gyda’r digwyddiad rhithiol y llynedd hefyd yn denu 27,000 o wylwyr ar-lein o dros 60 o wledydd.

Mae Celtic Connections 2022, a gafodd ei lansio yr wythnos ddiwethaf, yn cael ei chynnal yn hybrid, felly yn fyw ac ar sgrin.

Nod digwyddiad Showcase Scotland eleni yw pontio â chynulleidfaoedd yr Alban, Cymru a thu hwnt.

Yn hynny o beth, bydd yr artistiaid o Gymru – N’famady Kouyaté, Eve Goodman, Pedair, Cynefin, The Trials of Cato a NoGood Boyo – yn chwarae yno rhwng Chwefror 2 a 4.

‘Pwysig ein bod ni’n cael llwyfan’

Mae Owen Shiers, sy’n perfformio o dan enw Cynefin, yn edrych ymlaen at gael cymryd rhan yn y digwyddiad eleni.

Bydd yn perfformio gyda’r gantores Albaneg, Kathleen McInnes, a’r canwr Gwyddeleg, Breanndán Ó Beaghlaoich, er mwyn plethu tair o’r ieithoedd Celtaidd â’i gilydd.

Mae’n teimlo bod y cyfle i arddangos yr ieithoedd a’r diwylliant gwerin yn hollbwysig.

“Mae’r Gymraeg yn iaith Geltaidd hynafol, a dydy hi ddim yn cael lot o sylw yn fy marn i,” meddai.

“Felly mae’n bwysig ein bod ni’n cael llwyfan i berfformio. Ac unrhyw iaith leiafrifol, mae’n bwysig eu bod nhw’n cael sylw a chefnogaeth, a’u bod nhw’n cael eu hybu.

“Dw i’n meddwl y bydd yr ŵyl yn tanlinellu’r ffaith eu bod nhw yn ieithoedd lleiafrifol hefyd, a bod nhw ddim jyst yn ieithoedd sy’n bodoli yn naturiol.

“Mae angen eu hybu nhw’n gyson fel hyn.”

Cydweithio

Dyma fydd y tro cyntaf ers 15 mlynedd i Gymru fod yn bartner arweiniol â’r digwyddiad, ac mae Dawn Bowden, sy’n Aelod o’r Senedd ac yn Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, yn croesawu’r cydweithrediad rhwng y ddwy wlad.

“Rwyf wrth fy modd y bydd artistiaid o Gymru’n ymddangos yn y flwyddyn arbennig hon i Gymru yn Celtic Connections a Showcase Scotland,” meddai.

“Dyma gyfle i’w groesawu i feithrin cysylltiadau agosach rhwng sefydliadau celfyddydol yng Nghymru, yr Alban a’r byd, gan roi cyfleoedd yn eu tro yma yng Nghymru i artistiaid o’r Alban ac artistiaid rhyngwladol.

“Mae cerddoriaeth yn ganolog i ddiwylliant a chymunedau Cymru ac yn hollbwysig i’n lles. Mae ein perthynas â diwylliannau amrywiol yn rhyngwladol wedi llywio natur ein cerddoriaeth.

“Yn y cyfnod anodd hwn, bydd cerddoriaeth yn rhoi mwynhad a gobaith yma yng Nghymru, ac rydyn ni’n edrych ymlaen hefyd y tu hwnt i’r pandemig at weld cydweithio diwylliannol, rhyngwladol, cynaliadwy.”

Cysylltu’r cefndryd Celtaidd

Dan arweiniad Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, asiantaeth ryngwladol Cyngor Celfyddydau Cymru, bydd brand ‘Cymru Wales’ Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r digwyddiad.

Y bwriad yw hybu’r cyfleoedd i artistiaid Cymreig yn rhyngwladol, codi proffil Cymru, a dechrau sgwrs am ddiwylliant Celtaidd.

“Mae cerddoriaeth werin Cymru ar fin rhoi perfformiad ysgubol i’r byd, ac allwn i ddim bod yn fwy balch,” meddai Eluned Hâf, Pennaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru.

“O burdeb canu persain Eve Goodman, alawon unigryw Pedair a’r modd y mae cerddoriaeth Cynefin yn tarddu o ddaear Cymru, i ddawn gerddorol The Trials of Cato, alawon llon No Good Boyo a seiniau hudolus N’famady Kouyaté, sy’n pontio Gorllewin Affrica a Chymru drwy’i lais melfedaidd a’i balafon, bydd ein cerddoriaeth yn rhoi mwynhad a phrofiad newydd i gynulleidfaoedd ym mhob cwr o’r byd.”