Mae’r Urdd yn galw ar actorion ifanc i gofrestru ar gyfer cynhyrchiad cyntaf Theatr Ieuenctid yr Urdd.

Daw hyn wedi i’r cwmni gael ei ail-lansio yn yr hydref.

Dan ofalaeth Angharad Lee fel cyfarwyddwr a Rhys Taylor yn Gyfarwyddwr Cerdd, sioe lwyfan gyntaf Y Cwmni fydd cynhyrchiad newydd o Deffro’r Gwanwyn gan Dafydd James.

Bydd yn cael ei berfformio ar lwyfan Theatr y Werin yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth ym mis Medi.

Cafodd addasiad Cymraeg Dafydd James o’r sioe gerdd Spring Awakening ei berfformio gan Theatr Genedlaethol Cymru am y tro cyntaf yn 2010.

“Dathliad lliwgar ac egnïol o ieuenctid”

Wedi’i seilio ar ddrama ddadleuol Frank Wedekind, cafodd y sioe ei hysgrifennu gan Steven Sater a’r gerddoriaeth gan Duncan Sheik ar gyfer llwyfan Broadway yn 2006.

Wedi ei osod yn 1891, mae’r cynhyrchiad yn archwilio deffroad rhywiol, ieuenctid yn rebelio, a hunan ddarganfyddiad.

“Mae Deffro’r Gwanwyn yn ddathliad lliwgar ac egnïol o ieuenctid a rebelio,” meddai Branwen Davies, Trefnydd Theatr Ieuenctid yr Urdd.

“Mae’n ymwneud a themâu sydd dal yn anghyfforddus i’w trafod ar brydiau a hynny mewn modd gonest a miniog.

“Bydd y cynhyrchiad yma yn gyfle arbennig i aelodau newydd Theatr Ieuenctid yr Urdd fod yn rhan o gynhyrchiad proffesiynol adnabyddus wedi ei gyfieithu gan Dafydd James, dramodydd a chyfansoddwr mwyaf cyffrous ac unigryw Cymru.

“Mae’r Urdd yn ymfalchïo yn ein nod o gynnig cyfleodd arbennig i bobol ifanc Cymru.

“Oherwydd hyn mae’n hanfodol fod y mudiad yn rhoi cyfle i aelodau fod yn rhan o gynhyrchiad proffesiynol adnabyddus gan ddangos ein bod o ddifri ynglŷn â chynnig profiadau safonol a phroffesiynol i’n pobl ifanc.”

“Gobaith ar gyfer y dyfodol”

Mae Branwen Davies o’r farn bod y penderfyniad i ddewis Deffro’r Gwanwyn fel cynhyrchiad cyntaf Y Cwmni yn un arwyddocaol.

“Rydw i o’r farn ei fod yn ddewis eofn ac yn gyfle i griw o bobol ifanc sydd yn byw’r themâu i fynegi eu hunain mewn modd theatrig, bythgofiadwy,” meddai.

“Mae’n gyfle i genhedlaeth ifanc sydd wedi dioddef yn ystod cyfnod Covid i fynegi eu rhwystredigaethau ac i wahodd trafodaeth am eu barn ac am eu gweledigaeth nhw o’r byd.

“Mae’n gyfle i wyntyllu rhwystredigaeth a darostyngiad y blynyddoedd cyfyngedig diwethaf, ond hefyd ystyried gobaith ar gyfer y dyfodol.”

Bydd clyweliadau yn cael eu cynnal ym Mangor, Abertawe ac ar lein ym mis Mawrth.

Mae gofyn i actorion ifanc rhwng 16-25 oed sydd â diddordeb ymuno â’r cynhyrchiad baratoi cân a monolog dim mwy na thri munud o hyd ar gyfer y clyweliad.

Yn ogystal â phrif gymeriadau a chast, bydd Y Cwmni yn chwilio am fand byw a thîm o bobol ifanc i gynorthwyo cefn llwyfan o fis Ebrill ymlaen, sydd yn cynnwys cyfleoedd cynllunio a rheoli llwyfan.

Am fwy o wybodaeth neu i gofrestru diddordeb i ymuno â’r Cwmni, ewch i wefan yr Urdd.

Cwmni newydd yr Urdd “ar gyfer pobol ifanc sy’n chwilfrydig am fyd y theatr”

Non Tudur

“Mae’r Cwmni ar gyfer pobol ifanc rhwng 16 a 25 sy’n chwilfrydig am fyd y theatr”