Heddiw mae mudiad yr Urdd yn cyhoeddi’r newyddion mai Branwen Davies sydd wedi cael ei phenodi yn Drefnydd Cwmni Theatr Ieuenctid yr Urdd ar ei newydd wedd.

Bydd hi’n gyfrifol am ail-sefydlu’r Cwmni, fel y bydd yn cael ei alw, gyda chyllideb o £1,000,000 dros bum mlynedd, a gafodd ei gyfrannu at y fenter gan Lywodraeth Cymru.