Y syniad o berthyn i’r tir a sylwi ar swyn Cymru sy’n clymu gwaith tri ffotograffydd fu’n rhan o arddangosfa ddiweddar yn y gogledd.

Roedd Hanna Baguley, Richard Jones a Carwyn Rhys Jones yn dri o’r cystadleuwyr wnaeth yn dda ar gyfres Yn Y Ffrâm ar S4C eleni.

Hanna ddaeth i’r brig, ond roedd posib gweld gwaith y tri yn Storiel ym Mangor yn ddiweddar. Dyma gyfle arall i weld y gorau o’r gwaith hwnnw.