Bu dros 10,000 o bobol yn gorymdeithio ar hyd strydoedd Caerdydd yn galw am annibyniaeth y Sadwrn diwethaf.

Hon oedd y bumed orymdaith dros annibyniaeth i’w chynnal yng Nghymru, ac fe gafwyd munud o dawelwch er cof am y sylwebydd rygbi, darlledwr a chenedlaetholwr Eddie Butler, fu farw’n ddiweddar.

Cafodd ei araith ysbrydoledig yng Ngorymdaith Merthyr yn 2019 ei darlledu yn ystod y digwyddiad, ac roedd ei wraig a’i blant yn gorymdeithio.