Rai misoedd yn ôl bellach, fe gymerais ran mewn ffilmio ar gyfer rhaglen ddogfen newydd Stori’r Iaith, gyda’r cyflwynydd Sean Fletcher. Nawr, a hithau ar fin cael ei darlledu, rwy’n synfyfyrio ar y trafodaethau difyr, wrth edrych ymlaen at weld fy hun ar y telibocs!
Fel person creadigol llawrydd, dwi wedi hen arfer erbyn hyn hefo e-byst yn cyrraedd yn cynnig cyfleoedd difyr ac annisgwyl i mi, ac felly pan gyrhaeddodd gwahoddiad gan gwmni Rondo (dwi wedi gwneud bach o waith hefo nhw o’r blaen), roeddwn wrth fy modd.
Es i draw i Brifysgol Bangor am un diwrnod o ffilmio hefo Luned, gan drafod fy mhrofiadau o fyw (yn dechnegol) 2.7 milltir dros y ffin, a’r effaith mae hyn wedi’i chael ar ganfyddiadau rhai pobol o fy ‘Nghymreictod’. Roedd hyn yn broses ddifyr, wrth i’r drafodaeth ysgogi ymateb emosiynol annisgwyl ynddof fi… Dwi dal yn gweithio ar hyn…
Yn ddiweddarach, es i draw i’r Cae Ras i gyfarfod Sean. Yma, roedd doniolwch, gan fod Sean yn honni ei fod o dal i ddysgu’r iaith… Ond y gwir amdani yw fod ei Gymraeg e’n llawer iawn gwell na fy Nghymraeg i, er gwaetha’r ffaith fy mod wedi fy magu ar aelwyd ddwyieithog a chael addysg gyfangwbl trwy gyfrwng y Gymraeg!
Tynged yr iaith yn y gogledd-ddwyrain
Fe wnaethom drafod statws a stad yr iaith yn ardal Wrecsam, a’r gogledd-ddwyrain yn gyffredinol, a gofynnodd y cwestiwn: A yw dirywiad yr iaith Gymraeg yn anochel yn y gogledd-ddwyrain (neu rywbeth fel ’na).
Ac, unwaith i ni orfod dweud ‘cut’ unwaith, gan nad oeddwn yn gyfarwydd hefo’r gair posh ‘anochel’, sef ‘inevitable’, ymlaen â ni i drafod. Roedd hyn, wrth gwrs, cyn i ystadegau’r Cyfrifiad gael eu cyhoeddi, ond wrth feddwl, dwi ddim yn meddwl fyswn yn ateb llawer yn wahanol.
Dydw i ddim yn gweld dirywiad yr iaith yn anochel yn y gogledd-ddwyrain, ddim o gwbl… Ond dwi yn meddwl fod yna bosibilrwydd taw dyna fydd tynged yr iaith dros y blynyddoedd nesaf yma, oni bai bod newidiadau mawr yn cael eu gwneud.
Dwi wedi bod yn synfyfyrio ers trafod hyn hefo Sean, a theimlaf taw’r broblem yw hyn: Ar hyn o bryd, nid oes cydnabyddiaeth o natur wahanol y fröydd – ddim mewn gwirionedd. Yma ar y ffin, mae angen cydnabod pa mor anodd yw hi i fyw bywyd trwy gyfrwng y Gymraeg, ac addasu… Peidio bod mor dalcen-galed hefo polisïau iaith ac addysg…
Mae yna lond llaw ohonom sy’n angerddol ynglŷn â’r iaith Gymraeg yn Wrecsam, felly mae yna siawns go lew i’r iaith ffynnu o dan yr amodau iawn…
Y Doctoriaid Cymraeg a Sean…Gwneud ffrindiau newydd draw yn Nhregaron
Jyst cyn ‘Steddfod Tregaron, cefais e-bost arall yn fy ngwahodd i ddigwyddiad ym Maes-D ar y maes. Roedden nhw am ddangos clipiau i ni o’r rhaglen – rhagflas. Wrth fynychu’r digwyddiad, fe wnes i daro i mewn i Stephen ‘Doctor Cymraeg’ Rule. Mi roedd e hefyd wedi bod yn rhan o’r rhaglen.
Roeddwn wedi cwrdd â Stephen yn gynharach yn y flwyddyn, yng ngŵyl lyfrau ‘Bookfest’ yr Wyddgrug. Roedden ni’n ymwybodol o’n gilydd trwy Twitter ac felly wedi cael sgwrs, ond dyna’r tro cyntaf i ni gyfarfod; ond yn ‘Steddfod Tregaron ddaethon ni i nabod ein gilydd yn well.
Stephen Rule, Sean, a Fi…Meithrin mentrau newydd…
Yn ystod y ‘Steddfod, a thu hwnt wedyn, mae Stephen a finnau wedi bod yn cyfathrebu a thrafod materion sydd gennym yn gyffredin, megis cyhoeddi llyfrau. Mae e eisoes wedi gwneud hyn, a dwi nawr wedi fy argyhoeddi i ddilyn y llwybr hunan-gyhoeddi.
Rydym hefyd wedi bod yn trafod sut i fynd ati i gyfuno ein doniau mewn podlediad, ‘Y Doctoriaid Cymraeg’; rydym ar hyn o bryd wrthi’n trio cynllunio’r ffordd orau i wneud hyn.
Ac felly, daeth llawer o bethau da allan o fod yn un o’r cyfranogwyr i’r rhaglen ddifyr hon, a gobeithiaf weld llawer o bethau eraill yn datblygu ar draws Cymru o ganlyniad iddi, a’r trafodaethau difyr y mae hi’n eu hysgogi.
Yn amlwg, bydd gweld a chlywed stori iaith Sean yn ysbrydoli dysgwyr. Ac mae’r gyfres newydd, Stori’r Iaith, yn adlewyrchu ymrwymiad newydd S4C i greu cynnwys cyffrous i ddenu mwy o bobol i siarad Cymraeg ac i wylio’r cynnwys.
Ar nodyn mwy personol, wnes i rili mwynhau gweithio hefo Sean, ac yn enwedig clywed ei stori hyfryd.
Ac, wrth gwrs, mae Sean yn berson o liw, sydd ar y sgrîn yn trafod ei Gymreictod. Mae hyn yn bwerus ac yn rhywbeth fydd o fudd i lawer iawn o bobol, gan gynnwys fy nithoedd, wrth iddyn nhw synfyfyrio ar eu Cymreictod nhw fel merched o liw, o deulu hil a diwylliant cymysg.
- Caiff y rhaglen ei darlledu ar S4C nos Fercher, Chwefror 8 rhwng 9-10yh.