Mae Llywodraeth Cymru wedi amlinellu cynllun i geisio sicrhau mai Cymru yw’r genedl fwyaf cyfeillgar yn Ewrop i bobol LHDTC+.

Wrth fanylu ar y cynlluniau, dywed Hannah Blythyn, Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol Cymru, eu bod nhw eisiau sicrhau mwy o gydraddoldeb a chynhwysiant i bobol LHDTC+.

Dyma’r tro cyntaf i’r ymrwymiadau gael eu tynnu ynghyd â’u gosod mewn cynllun “mentrus ond realistig” er mwyn “creu cymdeithas lle mae cynnwys a dathlu pobol LHDTC+ yn elfen gwbl ganolog”, meddai.

Mae’r cynllun yn cynnwys camau fel gwella diogelwch, addysg, tai, iechyd a gofal cymdeithasol, ynghyd â hyrwyddo cydlyniant cymunedol.

Yn ogystal, mae’n dangos ymrwymiad i amddiffyn a hyrwyddo hawliau ac urddas pobol draws ac anneuaidd.

‘Dan ymosodiad’

Wrth lansio’r Cynllun Gweithredu LHDTC+, dywed Hannah Blythyn fod pethau wedi gwella’n sylweddol yn y degawdau diwethaf ond nad ydy hi’n bosib llaesu dwylo.

“Allwn ni fyth gymryd cynnydd yn ganiataol, a ddylen ni fyth wneud hynny,” meddai.

“Rydyn ni am sicrhau mwy o gydraddoldeb a chynhwysiant i bobol LHDTC+, er mwyn inni fel cymuned deimlo’n ddiogel i fod yn ni ein hunain, yn rhydd rhag ofn, gwahaniaethu a chasineb.

“Mae cymunedau LHDTC+ yn parhau i fod dan ymosodiad, ac mae’r hawliau yr ydyn ni wedi brwydro mor galed drostyn nhw mewn perygl o gael eu herydu o amgylch y byd, gan gynnwys yma yn y Deyrnas Unedig.

“Dw i’n ymfalchïo yn y ffaith fod hawliau LHDTC+ yma yng Nghymru yn rhan annatod o ymrwymiadau Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru.

“Mae’r cynllun yn uchelgeisiol, ond mae gobaith yn ganolog iddo. Rydyn ni’n gwbl ymroddedig i sicrhau newid ystyrlon i gymunedau LHDTC+, gan greu cymdeithas a gwlad lle mae pobol LHDTC+ yn ddiogel i fyw a charu’n ddiffuant, yn agored, ac yn rhydd fel nhw eu hunain.”

‘Cymru gyfiawn, deg a goddefgar’

Mae’r Cynllun Gweithredu LHDTC+ wedi’i gyflwyno ar y cyd ag Adam Price, fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio rhwng Llafur Cymru a Phlaid Cymru.

“Mae’r cynllun hwn yn dangos sut rydyn ni’n cydweithio i greu Cymru sy’n fwy cyfiawn, teg a goddefgar,” meddai Adam Price, arweinydd Plaid Cymru.

“Pwrpas gwleidyddiaeth yw gwneud gwahaniaeth a gwella bywydau’r bobol rydych chi’n eu gwasanaethu.

“Mae hyn yn golygu sicrhau newid i bawb mewn cymdeithas, ac mae’n destun balchder i ni fod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar ein cyd-uchelgais i sicrhau mai Cymru yw’r genedl fwyaf cyfeillgar yn Ewrop i bobol LHDTC+.

“Mae’r cynllun hwn yn arddangos ein hymrwymiad clir i gyflawni hynny.

“Mae mynd i’r afael ag anghyfiawnder ar bob ffurf yn hanfodol, a chyda’n gilydd fe allwn ni greu cymdeithas decach, gan hyrwyddo hawliau pawb yn y gymuned LHDTC+.”

I nodi cyhoeddi’r Cynllun, ymwelodd y ddau wleidydd – sy’n aelodau agored o’r gymuned LHDTC+ eu hunain – ag arddangosfa Pride & Protest yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan, sy’n cynnwys baneri protest a bathodynnau ymgyrch LHDTC+ o gasgliad Amgueddfa Cymru o wrthrychau o ddigwyddiadau Pride ledled Cymru.

‘Diogelu ei holl ddinasyddion’

Cafodd y llywodraeth gymorth sawl corff a chymuned LHDTC+ er mwyn ffurfio’r Cynllun Gweithredu.

Dywed Lisa Power, un o sylfaenwyr Stonewall a gyfrannodd at ddatblygu’r Cynllun Gweithredu LHDTC+, fod “Cymru yn olau disglair yn y maes hwn”.

“Yn aml, wrth i bobol edrych ar faterion yn ymwneud â LHDTC+, y cyfan maen nhw’n ei weld yw’r elfen LHDTC,” meddai.

“Dydyn nhw ddim yn sylweddoli ein bod ni’n ddinasyddion fel pawb arall.

“Mae’r Cynllun Gweithredu hwn yn glir ynghylch beth mae’n mynd i’w wneud a sut.

“Mae’n cydnabod mai un rhan yn unig o hunaniaeth fwy cymhleth, groestoriadol yw bod yn LHDTC+ yn aml, a bod materion o bob math yn effeithio arnon ni yn ystod ein bywyd.

“Drwy’r gwaith rydw i’n ei wneud yn rhyngwladol, dw i’n clywed mwy a mwy o sylwadau gan bobol sy’n cydnabod Cymru fel gwlad sy’n ceisio diogelu ei holl ddinasyddion – ac mae hynny’n ddi-os yn cynnwys dinasyddion LHDTC+.”