Mae’r chwe phrosiect cyntaf fydd yn rhan o rwydwaith Cymru gyfan o goetiroedd i gymunedau lleol eu defnyddio a’u mwynhau am dderbyn cyfran o dros £1 miliwn mewn grantiau.

Daw’r arian o’r cynllun Grant Buddsoddi mewn Coetiroedd (TWIG), sy’n rhan o raglen Goedwigaeth Genedlaethol Llywodraeth Cymru.

Caiff y cynllun ei redeg gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, a’i bwrpas yw creu, adfer a gwella coetiroedd yng Nghymru.

“Mae wedi bod yn hyfryd gweld yr amrywiaeth o ymgeiswyr yn derbyn grantiau yn rownd gyntaf y Grant Buddsoddi mewn Coetiroedd – o goetir newydd mewn ysgol yn y Barri i adfer coetir diraddiedig ym Mhen Llŷn,” meddai Julie James, Gweinidog Newid Hinsawdd Cymru.

“Mae rhagor o rowndiau ariannu ar y gorwel ac rydym am i fwy o bobol ddod ymlaen a gwneud cais am gyllid fel y gallant dyfu mannau awyr agored hardd ar gyfer eu cymuned leol.

“Rydyn ni i gyd yn elwa ar goetiroedd – maen nhw’n ein helpu ni a bywyd gwyllt i fyw bywydau iachach, maen nhw’n gwella ein lles, ac yn ein helpu i liniaru effeithiau gwaethaf newid hinsawdd.”

Rhaglen TWIG

Cafodd y rhaglen TWIG ei lansio gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol fis Mehefin y llynedd, ac mae’n darparu grantiau rhwng £40,000 a £250,000.

Dyma’r rownd gyntaf o bump dros yr ychydig flynyddoedd nesaf.

Mae’r drydedd rownd yn cau ar gyfer datganiadau o ddiddordeb ar Chwefror 16.

Bydd dau o’r prosiectau sy’n cael eu cyhoeddi heddiw (dydd Mawrth, Chwefror 7) yn y de yn creu coetiroedd trefol, wrth i ddisgyblion ysgol gydweithio ar ddylunio coetir y gall pawb gael mynediad iddo.

Bwriad un arall yw disodli hen goetir conwydd ac annog tyfiant coed brodorol mewn lleoliad arfordirol godidog ym Mhen Llŷn.

“Mae ariannu prosiectau treftadaeth naturiol sy’n mynd i’r afael ag effeithiau newid yn yr hinsawdd a chefnogi adferiad byd natur yn flaenoriaeth allweddol i Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru,” meddai Andrew White, Cyfarwyddwr y Gronfa yng Nghymru.

“Mae’r Grant Buddsoddi mewn Coetiroedd rydym yn ei weithredu mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru yn un o’r ffyrdd yr ydym yn cyflawni’r amcan hwn.

“O greu coetiroedd newydd ac adfer rhai eraill, bydd y grantiau hyn hefyd yn cyfrannu at fenter Coedwig Genedlaethol i Gymru, yn gwella ein gallu i addasu i’r argyfwng hinsawdd ac yn dod â buddion iechyd uniongyrchol i’r bobol a’r cymunedau lle mae prosiectau.”


Y prosiectau

Y chwe phrosiect sy’n cael eu hariannu yw:

  • Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn, sy’n derbyn £209,060 ar gyfer prosiect ‘Coedwig Nant Gwrtheyrn’.

Bydd y prosiect hwn ar Benrhyn Llŷn yn ailsefydlu coetir brodorol ar y llethrau arfordirol serth o amgylch Nant Gwrtheyrn.

Mae’r coed conwydd presennol yn hen ac yn dirywio’n gyflym ac mae cyflwr peryglus y coed a’r dirwedd heriol yn golygu na all hyd yn oed cerddwyr profiadol gyrraedd y coetir.

Mae’r coetir yn rhan bwysig o dreftadaeth naturiol y lleoliad ysblennydd hwn i ymwelwyr.

Mae hefyd yn bwysig i’r gymuned ehangach gan fod twristiaeth sy’n canolbwyntio ar Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Llŷn yn allweddol i’r economi leol.

Bydd y prosiect hwn yn cysylltu Nant Gwrtheyrn â busnesau lleol ym mhentref cyfagos Llithfaen.

  • Gwella Coetir Ystagbwll, sy’n derbyn £249,302.

Yn Sir Benfro, mae prosiect ‘Gwella Coetir Ystagbwll’ yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn derbyn £249,302 i frwydro yn erbyn newid hinsawdd ac adfer ecosystemau.

Mae coetir Ystagbwll yn cael ei effeithio gan faterion fel rhywogaethau ymledol anfrodorol sy’n ei dagu’n araf. Bydd contractwyr yn mapio ardaloedd yr effeithir arnynt ac yn trin neu’n cael gwared ar rywogaethau ymledol anfrodorol megis rhododendron, llawryf, ffromlys, canclwm, ac aeron ffesant sy’n doreithiog ar y safle.

Bydd gwaith hefyd yn cynnwys cael gwared ar goed conwydd marw ac ar farw ac ailblannu mwy o rywogaethau llydanddail brodorol a fydd yn galluogi’r coetir brodorol i ffynnu.

Bydd llwybrau’n cael eu clirio a bydd cwt coedwigwr yn cael ei drawsnewid yn ofod ar gyfer dehongli dwyieithog gyda goleuadau solar, seddau pren cerfiedig a rheseli beiciau.

  • ‘Gwella Coetir Hanesyddol Bryngarw’ Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, sy’n derbyn £103,082.

Bydd y prosiect hwn ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn gwella iechyd ac ansawdd coetiroedd Bryngarw fel eu bod yn wydn ac yn esiampl parhaus o dreftadaeth naturiol, sy’n hafan ddiogel i natur a phobol fel ei gilydd.

Bydd yn ecosystem ffyniannus sy’n gwella bioamrywiaeth tra hefyd yn diogelu ased cymunedol lleol sy’n darparu gofod ar gyfer lles, dysgu a hamdden.

Ymhlith y gwaith fydd yn cael ei wneud bydd gwaith rheoli cynefinoedd ar raddfa fawr, gwaith i wella mynediad cyhoeddus a diogelwch ar y safle, yn ogystal â digwyddiadau ymgysylltu cymunedol a gweithgareddau addysgol.

Bydd rhywogaethau anfrodorol ymledol gan gynnwys bambŵ, canclwm Japan, rhododendron a ffromlys chwarennog yn cael eu tynnu.

  • Coed Meadow Street Cyngor Tref Pontypridd, sy’n derbyn £197,011.

Gardd gymunedol hygyrch yw cymuned Stryd y Ddôl ym Mhontypridd sydd wedi’i hadfywio o lain o dir diffaith diolch i gyllid gan raglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy’n cael ei rhedeg gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Ar yr un safle mae coetir sydd wedi’i adael heb ei gynnal a bydd y prosiect hwn yn ei droi’n goetir trefol.

Unwaith y bydd y gwaith wedi’i gwblhau, bydd y safle yn hygyrch ac yn ddeniadol fel y gall pobol Rhondda Cynon Taf ei fwynhau a bydd hefyd yn gwarchod a gwella natur a bioamrywiaeth lleol ar yr un pryd.

Bydd y coetir ‘ar gyfer y gymuned leol gan y gymuned leol’.

  • Ysgol Gynradd Oak Field, sy’n cael £50,000 ar gyfer y prosiect ‘Coetir Cymunedol Oak Field’.

Yn y Barri, mae Ysgol Gynradd Oak Field wedi creu ardal bywyd gwyllt a phwll ac mae wrthi yn sefydlu rhandir cymunedol.

Mae tua un erw o dir wedi gordyfu o amgylch yr ardal hon a bydd y prosiect hwn yn gweld disgyblion ysgol, y gymuned leol ac arbenigwyr yn cydweithio i ddatblygu coetir trefol arno.

Bydd disgyblion a’r bartneriaeth natur leol yn cydweithio ar ddylunio’r coetir i’w wneud yn hygyrch i bawb a bydd coed a glasbrennau mwy aeddfed yn cael eu plannu.

Caiff syniadau’r plant eu defnyddio i sefydlu mannau chwarae a dysgu a hefyd gwrychoedd i greu cynefinoedd newydd i fywyd gwyllt.

  • Dŵr Cymru, sy’n derbyn £250,000 ar gyfer prosiect ‘Llyn Llanddegfed Cam 1’.

Bydd y prosiect hwn yng Nghronfa Ddŵr Llandegfedd ger Pont-y-pŵl yn canolbwyntio ar ddarparu coetiroedd amlbwrpas i greu mynediad ar gyfer cyfleoedd hamdden, twristiaeth, ymgysylltu â’r gymuned, addysg a dysgu yn ogystal â gwella’r coetiroedd.

Mae’n cynnwys tri choetir – Coed Pentre-waun; Coed Sluvad a Choed Cwmbwrwch.

Bydd y prosiect dwy flynedd yn gweithio gydag Ymddiriedolaeth Natur Gwent i arolygu’r coetiroedd a pharatoi cynllun rheoli coetir.

Yn y pen draw, bydd ymwelwyr â’r safle yn gallu cael mynediad i’r tri choetir trwy gydol y flwyddyn i brofi’r newid yn y tymhorau a chael cyfle i gymryd rhan trwy raglenni gwirfoddoli a dysgu.