Mae bygythiad gan Rishi Sunak y bydd y Deyrnas Unedig yn gadael Confensiwn Hawliau Dynol Ewrop yn tanseilio hawliau ffoaduriaid a datganoli, yn ôl Liz Saville Roberts.
Daw’r rhybudd gan arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan wrth iddi ddweud mai dyma “ochenaid olaf despret llywodraeth sydd yn marw ac yn boddi yn eu hanhrefn ideolegol a’u rhaniadau eu hunain”.
Mae Downing Street wedi gwrthod wfftio’r awgrym y gallai’r Deyrnas Unedig adael y Confensiwn pe bai’n ystyried fod angen gwneud hynny er mwyn atal cychod bychain rhag croesi’r Sianel.
Yn ôl Liz Saville Roberts, nid yn unig y byddai hynny’n peryglu hawliau ffoaduriaid, ond hefyd y setliadau datganoli sydd â’r Confensiwn wrth eu calon.
Tra nad yw’n credu y dylid trin y bygythiadau yn rhai difrifol, mae’n dweud eu bod nhw’n datgelu “anhrefn ideolegol a rhaniadau” o fewn y Blaid Geidwadol a’u bod nhw’n dangos pa mor “ddi-rym” yw Cymru wrth wynebu llywodraeth “ddinistriol” yn San Steffan.
Mae hi’n annog Llywodraeth Cymru i gyflymu’r cynlluniau i gyflwyno Mesur Hawliau Cymru “i ymgorffori’n fwy uniongyrchol ddeddf hawliau dynol rhyngwladol”, gan ddadlau y dylid gwneud hynny ochr yn ochr â datganoli pwerau tros gyfiawnder i Gymru.
‘Dim byd llai nag ymosodiad amlwg ar ddemocratiaeth’
“Dydy’r bygythiadau diofal hyn i ddileu hawliau dynol yn ddim byd llai nag ymosodiad amlwg ar ddemocratiaeth ac urddas dynol sylfaenol,” meddai Liz Saville Roberts.
“Maen nhw’n ochenaid olaf despret llywodraeth sy’n marw, ac yn boddi yn eu hanhrefn ideolegol a rhaniadau eu hunain.
“Mae gwrthod wfftio tynnu’r Deyrnas Unedig allan o Gonfensiwn Hawliau Dynol Ewrop ar ran y Ceidwadwyr yn fygythiad uniongyrchol nid yn unig i hawliau ffoaduriaid ond hefyd i seiliau’r setliadau datganoli.
“Mae’n arwydd clir o’u diystyrwch o les pobol Cymru, yn ogystal ag egwyddorion craidd cyfiawnder.
“Dydy’r rhain ddim yn fygythiadau credadwy – ond mae eu bodolaeth yn datgelu pa mor ddi-rym ydyn ni yng Nghymru wrth wynebu llywodraeth ddinistriol yn San Steffan.
“Mae goruchafiaeth Senedd y Deyrnas Unedig dros y Senedd yn golygu, pe bai Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dilyn y fath lwybr di-synnwyr, yna ni allem wneud unrhyw beth i’w hatal nhw.
“Rhaid i Lywodraeth Cymru wneud popeth o fewn eu gallu i weithredu’n gyflym ac yn benderfynol drwy gyflymu eu cynlluniau i gyflwyno Mesur Hawliau Cymru, gan ymgorffori cyfraith hawliau dynol rhyngwladol yn uniongyrchol.
“Rhaid gwneud hyn ochr yn ochr â datganoli cyfiawnder yn ei gyfanrwydd fel y gallwn ni gynnal, gweithredu’n well ac ehangu hawliau dynol byd-eang yng Nghymru.”