Mae Plaid Cymru’n annog Llywodraeth Cymru i gefnogi eu gwelliant i’r Gyllideb Ddrafft er mwyn rhoi codiad cyflog go iawn o 8% i staff iechyd.
Dyma fyddai’r codiad cyflog cyntaf mewn termau real ers dros ddegawd.
Bydd Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24 yn cael ei thrafod heddiw (dydd Mawrth, Chwefror 7).
Mae gwelliant Plaid Cymru i’r gyllideb yn galw ar Lywodraeth Cymru i godi refeniw ychwanegol drwy amrywio cyfradd y dreth i roi cynnig cyflog tecach i weithwyr iechyd a gofal fel rhan o fuddsoddiad tymor hwy yn y gwasanaeth.
Ar ôl gwadu bod unrhyw arian, fe gadarnhaodd Llywodraeth Cymru ddydd Gwener (Chwefror 3) “gynnig cyflog diwygiedig” o 3% yn ychwanegol i staff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, gydag 1.5% ohono wedi’i gyfuno.
Dywed Adam Price fod y cynnydd o 1.5% yn “blastr dros-dro”, ac y byddai’n gwneud “dim” i fynd i’r afael â’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, sydd “yn brin o staff” a system ofal sydd “yn cael ei thanariannu”.
Dywed y byddai cynllun Plaid Cymru’n cynhyrchu £317m ychwanegol er mwyn cynnig codiad cyflog o 8% i weithwyr y Gwasnaeth Iechyd – y codiad cyflog cyntaf mewn termau real ers dros ddegawd – i helpu i fynd i’r afael â phrinder staff, a rhoi £12 yr awr i weithwyr gofal fel lleiafswm.
Mae hefyd yn annog y Llywodraeth Lafur i gefnogi galwadau ei blaid i Gymru osod ei bandiau treth ei hun i greu “system drethiant decach”.
‘Plaid Cymru wedi dangos ffordd ymlaen’
“Gwasanaethau cyhoeddus – torri. Amseroedd aros – i fyny,” meddai Adam Price.
“Mae teuluoedd yn cael trafferth rhoi bwyd ar y bwrdd tra bod busnesau lleol yn mynd i’r wal.
“Dyma ganlyniad uniongyrchol tair blynedd ar ddeg o doriadau’r Torïaid a phum mlynedd ar hugain o fethiant Llafur yn darparu atebion real a radical i’r heriau sy’n wynebu ein cymunedau.
“Mae Plaid Cymru wedi dangos ffordd ymlaen.
“Gan ddefnyddio’r pwerau trethu sydd gennym yma yng Nghymru, gallem gynhyrchu £317m yn ychwanegol i gynnig codiad cyflog o 8% i weithwyr y Gwasanaeth Iechyd Gwladol – y codiad cyflog cyntaf mewn termau real ers dros ddegawd – er mwyn helpu i fynd i’r afael â phrinder staff a rhoi o leiaf £12 i weithwyr gofal.
“Nid yw’r cynnig o 1.5% sydd ar y bwrdd ar hyn o bryd gan Lafur yn ddim byd ond plastr dros dro.
“Ni fydd yn gwneud dim i fynd i’r afael â gwasanaeth iechyd sydd heb ddigon o staff, system ofal nad yw’n cael ei hariannu’n ddigonol a gweithlu yn y ddau sy’n dioddef oriau hir a diffyg parch.
“Dim ond Plaid Cymru sydd wedi cyflwyno cynllun credadwy i drawsnewid pethau i wella’r argyfwng yn y gwasanaeth iechyd a gofal.
“Lle mae Plaid Cymru yn arwain, mae Llafur yn dilyn – yn y diwedd.
“Anogwn nhw i’n dilyn yn awr, yn ddi-oed a chefnogi ein gwelliant i’r gyllideb.
“Ac, os ydyn nhw wir yn credu mewn system drethiant deg, byddan nhw’n ein cefnogi ni ddydd Mercher i fynnu’r pwerau i osod ein bandiau treth ein hunain yn union fel yr Alban, yn hytrach na chael ein rheoli gan San Steffan – eto.”
Cynllun chwe phwynt y Ceidwadwyr Cymreig
Yn y cyfamser, mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi amlinellu eu cynllun chwe phwynt “i roi blaenoriaethau’r bobol wrth galon Cyllideb Llywodraeth Cymru”.
Daw hyn wrth iddyn nhw ddadlau y byddai cynylluniau’r Llywodraeth yn golygu toriadau yn nhermau real mewn cyllidebau iechyd, gwasanaethau cymdeithasol ac addysg.
Ymhlith blaenoriaethau’r Ceidwadwyr Cymreig mae torri amseroedd aros y Gwasanaeth Iechyd, rhewi treth y cyngor a chefnogi busnesau i greu swyddi.
Maen nhw’n cyhuddo Llafur o flaenoriaethau cynlluniau megis y Comisiwn Cyfansoddiadol, diwygio’r Senedd a gwario arian ar feysydd sydd heb eu datganoli.
“Dim ond yng Nghymru dan reolaeth Llafur rydym yn gweld toriadau i Wasanaeth Iechyd Gwladol Cymru,” meddai Peter Fox, llefarydd cyllid y Ceidwadwyr Cymreig.
“Fe wnaethon nhw hynny o’r blaen yn 2013, ac maen nhw’n ei wneud e eto yn 2023.
“Pam nad yw Llafur yn blaenoriaethu Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru ar adeg pan fo’i hangen fwyaf?”
Chwe phwynt y Ceidwadwyr Cymreig
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn awyddus i:
- ddileu’r ôl-groniad yn y Gwasanaeth Iechyd drwy sefydlu Gwestai Gofal
- sefydlu canolfannau llawfeddygol i ddileu rhestrau aros
- cefnogi microfusnesau i dyfu
- diogelu busnesau Cymru at y dyfodol
- rhewi treth y cyngor i helpu â’r argyfwng costau byw
- troi tai gwag yn gartrefi unwaith eto