Blas ar anerchiad Geraint Jones, y cyntaf i fynd i garchar dros yr iaith Gymraeg, a gafodd ei roi mewn dathliad i nodi 60 mlynedd ers protest enwog Pont Trefechan

Un o siaradwyr yr achlysur arbennig ddydd Sadwrn diwethaf i nodi 60 mlynedd ers protest gyntaf Cymdeithas yr Iaith ar Bont Trefechan oedd y Cymro cyntaf i fynd i garchar dros y Gymraeg.

Dyma ddetholiad o anerchiad tanllyd Geraint Jones – ‘Twm Trefor’ i’w gyfeillion – a gafodd ei rhoi yn festri Seion ar Stryd y Popty, ar ddiwedd y dathliadau.

Yma, mae’n sôn am sut y buodd e bron â thaflu bricsen drwy ffenestr swyddfa’r heddlu y diwrnod hwnnw nôl yn 1963, ac fel y gwnaeth y brotest ddod â ‘dos go dda o ruddin i wythiennau milwyr ifanc ac amrwd Cymdeithas yr Iaith’…


Mae yna rai efo ni o hyd. Hogia a genod, gŵyr a gwragedd sy’n fodlon codi eu penna’ uwchlaw y parapet. Yn ystod y 60 mlynedd diwetha’ ’ma, mae yna gannoedd – yn wir miloedd – fu â rhyw ran yn y frwydr hon. Ond y caswir ydi wrth gwrs mai ychydig ydi’r rhai a lynodd. Mae rhai ohonoch chi wedi glynu, ac mae rhai yma heddiw sydd wedi sefyll ac wedi dyfalbarhau a diolch am hynny.

A dyna oedd yn braf rywsut yn nyddiau cynnar Cymdeithas yr Iaith Gymraeg; pobol ifanc a oedd ar dân yn wirioneddol dros y Gymraeg… Rydach chi wedi clywed rhai ohonyn nhw’n siarad heddiw. Dyna onid e oedd siars fawr Saunders Lewis yn ei ddarlith radio Tynged yr Iaith 1962. ‘Eler ati o ddifri a heb anwadalu’. Ia, heb anwadalu. Heb unrhyw lol, heb smalio, na rhagrithio, na hel esgusion. Gafael â dwy law yn dynn yng nghefn yr aradr.

Mae Saunders Lewis yn lluchio aton ni bum gair – yn anogaeth, yn faen prawf ac yn her – i bob un ohonon ni hyd heddiw, yn dal yn berthnasol, ac ymlaen i fory hefyd, yn sylfaen mewn gwirionedd i’n brwdaniaeth a’n dyheadau ni. A dyma nhw: ‘penderfyniad, ewyllys, brwydro, aberth, ymdrech.’ Mae hynna yn dweud y cyfan.

Wrth i rywun edrych yn ôl dra’ch ei gefn i’r gorffennol, weithiau’n ddigon hiraethus, dro arall yn gignoeth ddadansoddiadol, a thro arall efallai hyd yn oed yn edifeiriol, mae rhywun fel fi bownd o ofyn ‘i ba beth y bu hyn oll?’

‘Ymateb i her fawr Saunders’

Wel, ymateb i her fawr Saunders Lewis wnaeth y Gymdeithas. Yr her honno wedi ei lliwio â safiad digymar Trefor ac Eileen Beasley, yr anogaeth a’r esiampl a fethason ni yn aml iawn â’i dilyn ond yn achlysurol, os nad yn fympwyol hefyd gydol y blynyddoedd. … Roedd popeth mwyach yn bosib. Fe all breuddwyd fod, a dod, yn wir.

Fe godwyd yr hen law farw, yr oedd Ffred (Ffransis) yn sôn amdani gynnau, yr hen law farw yma oedd ar warrau pobol a oedd gynt yn petruso ac yn ofni. A hyn yn eironig ddigon, er gwaetha’ gwrthwynebiad… y rhai a oedd yn ymbil arnon ni i ymatal ac ymbwyllo. Dw i’n clywed llais (John Davies) Bwlchllan… yn ymbil arnon ni i fod yn blant da a mynd tua thre. ‘Rhaid i chi garco, neu mi fyddwch chi yn y jael!’ Ac yna’r glec farwol o wn Neil ap Siencyn, ‘gobeithio’n wir y byddwn ni.’

Yn llofft yr Home Cafe oedden ni a’n pennau yn ein plu wedi methu’n llwyr â chael ein bwcio am sticio posteri ar waliau’r swyddfa bost. Do’n i yn bersonol ddim yn fanno, yn swyddfa’r post, ro’n i wedi mynd efo grŵp llai i geisio gwneud yr un peth ar furiau swyddfa’r heddlu.

Ro’n i’n daer am luchio bricsan drwy ffenestr y lle i wneud yn siŵr fy mod i’n cael f’arestio. Penri (Jones) Llanbedrog wnaeth fy narbwyllo mai ffôl o beth fyddai hynny. D’wn i ddim pam chwaith. Ro’n i’n gweld y bwriad, rhaid dweud, yn un champion.

Yn ein holau i lofft yr Home Caffi. Pob un a’i gynffon yn ei afl. Roedd dadlau poeth yno ynglŷn â beth i’w wneud rŵan. Roedd y syniad o roi’r ffidil yn y to yn anathema i lawer ohonon ni.

‘Diolch ti, Gwil’

Dw i’n berffaith siŵr mai Gwilym Tudur gynigiodd, heb hel unrhyw ddail yn y byd, ein bod ni’n cau’r ffordd ar Bont Trefechan, y brif wythïen o Aberystwyth i lawr i weddill Ceredigion. Diolch ti, Gwil; roedd be wnest ti hwyrach yn fwy na’r hyn yr oeddet ti wedi ei feddwl erioed. Wnest ti erioed ddychmygu pa mor bwysig oedd dy ebychiad y diwrnod hwnnw.

Ryw ugain – hwyrach ar y mwyaf, tri dwsin – fentrodd i lawr at y Bont, er bod yna bron i 80 yn honni eu bod nhw yno. Doedd yna ’mond ryw 30 yno. A gadael y gweddill, ynghyd â swyddogion nerfus Cymdeithas yr Iaith i yfed rhagor o waddod coffi’r caffi.

Does yna fawr neb o brotestwyr y Bont ar yr ochr braf o 80 oed. Mae nifer o’r fyddin fach betrus honno, ond penderfynol, yma heddiw, ac mor braf ydy’ch gweld chi i gyd. Bellach ysywaeth mae nifer dda wedi ein gadael. Y diweddaraf wrth gwrs bu farw yn gynharach eleni, y dirodres dwymgalon olygydd Llais y Lli, Dyfrig Thomas – hogyn o Boncath.

Mi ddaeth Bont Trefechan â dos go dda o ruddin i wythiennau milwyr ifanc ac amrwd Cymdeithas yr Iaith. Fe ddisodlwyd ansicrwydd ac ofn gan ryw don o hyder ac awydd i weithredu. Cofiwch y geiriau: ‘penderfyniad, ewyllys, brwydro, aberth, ymdrech’.

Beth am heddiw?

Ond beth am heddiw. Rhaid dod i heddiw. Lle’r ydan ni arni wedi’r blinion blynyddoedd? Mae’n anodd iawn ganddon ni gyfaddef ein bod ni mewn rhyw sefyllfa o ddeufor gyfarfod, mewn cerrynt croesion, mewn rhyw impasse mileinig. Mewn gair, mewn picil.

Enillwyd mwy neu lai’r frwydr dros statws swyddogol ond eto wyddoch chi mor gyndyn ydi’r cyfrwng o ddefnyddio’r breintiau a gostiodd mor ddrud. Goeliwch chi, does yna ddim ond 6% i 8% yn defnyddio ochr Gymraeg twll yn y wal ym manciau tref Caernarfon?

Fe gododd twf anhygoel ysgolion cyfrwng Cymraeg stêm garw yn ystod y blynyddoedd hynny ac wedyn yn yr ardaloedd Seisnigedig. A gwych o beth ydi hynny. Ysgolion a nifer ohonyn nhw’n 100% yn gyfrwng Gymraeg. Eto i gyd, dim ond ryw 50% o addysg uwchradd Sir Gwynedd sydd bellach drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae hi’n sefyllfa drychinebus…

Galw am “weithredu gwirioneddol”

O ystyried y gorffennol, y wers bwysicaf oll y dylan ni ei dysgu ydi bod angen dybryd, mwy nag erioed, i gael llu o weithwyr a gweithredwyr o fewn ein cymunedau Cymraeg yn arbennig, yn brwydro a gwarchod, a gwneud hynny heb gyfri’r gost.

Gwir ystyr y dull di-drais yng nghyd-destun brwydr yr iaith fel erioed ydi – mynnu mynd â’n brwydrau i’w pen draw anochel. A dyna pryd y gwelwyd yng Nghymru egin chwyldroad, trwy weithredu, cyfraith neu beidio, ac un cam bychan ac eto allweddol oedd protest Pont Trefechan yn y daith tuag at newid meddylfryd cenedlaetholwyr a maes o law bobol Cymru.

I roi’r peth mewn ffordd blaenach ac efallai fwy pigog, mae’r siarad drosodd ac mae’n hwyr brynhawn. Dyna oedd her ddiangof Saunders Lewis: ‘Eler ati o ddifri a heb anwadalu.’ …

Mae’n rhaid dod â gweithredu gwirioneddol yn ôl i flaen yr agenda a gwneud hynny heb gyfri’r gost. Rhaid mynd dros y tresi unwaith yn rhagor. A hyn fydd gwir hanfod llwyddiant Cymdeithas yr Iaith dros y blynyddoedd. Mi rydan ni yn gwybod hynny’n iawn. Mae ein hunan les wedi ein trechu ni beryg. Ond rhaid dwysau’r gweithredu ar ba ffurf bynnag fydd hwnnw. A gwneud hynny yn unol ac yn unedig.

Gallwn ddiolch bod o hyd ymhlith milwyr yr iaith rai sy’n sylweddoli gwerth ac arwyddocâd a gwirionedd anogaeth o’r fath. Wedi’r Cyfrifiad diwethaf, mae’n anodd cael calon i weithio. Mae’n gymaint haws anobeithio, a hynny wrth gwrs fyddai tranc terfynol yr iaith. Na fyddwn drist; dim byd o’r fath.

‘Y dyfodol yn bwysicach’

10 mlynedd yn ôl mi fuodd yna ddathlu cyffelyb i heddiw yma yn Aberystwyth, ac mae’n werth dyfynnu geiriau Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith ar y pryd, Robin Farrar. Dyma nhw… ‘Fyddwn i ddim yn hoffi meddwl beth fyddai wedi digwydd i’r Gymraeg pe na bai protestwyr wedi bod yn barod i wneud safiad i dorri’r gyfraith a chymryd y cyfrifoldeb.’ Yn hollol.

Mae’r gorffennol yn bwysig, ond wrth gwrs mae’r dyfodol bellach yn bwysicach. Cofiwn y geiriau: penderfyniad, ewyllys, brwydro, aberth, ymdrech. Dyna’n anogaeth – boed yn ifanc, yn ganol oed, neu’n hen fel fi. …

Diolch am gael bod yma yn eich plith.