Fe fydd Anthony Albanese, Prif Weinidog Awstralia, yn ceisio cefnogaeth ddwybleidiol i refferendwm allai arwain at sefydlu pwyllgor cynghori ar faterion brodorol yn y senedd.

Mae disgwyl i’r refferendwm gael ei gynnal yn ddiweddarach eleni, ac fe allai sefydlu “llais” brodorol er mwyn cyflwyno tystiolaeth i’r senedd wrth iddyn nhw ystyried polisïau sy’n effeithio ar bobol frodorol.

Pe bai’n cael ei basio, byddai’r refferendwm yn arwain at ychwanegu at gyfansoddiad Awstralia er mwyn cydnabod trigolion brodorol y wlad am y tro cyntaf.

Does dim modd addasu cyfansoddiad y wlad heb refferendwm.

Mae pôl newydd yn dangos bod 56% o Awstraliad gafodd eu holi’n cefnogi newid y cyfansoddiad, a dim ond 37% yn erbyn.

Mae pobol frodorol yn byw yn Awstralia ers 60,000 o flynyddoedd, ond maen nhw ymhell ar ei hôl hi pan ddaw i gynrychiolaeth o fewn deddfwriaeth gymdeithasol ac economaidd.

“Dw i’n credu’n gryf y dylai Awstraliaid fanteisio ar y cyfle fydd ganddyn nhw yn ail hanner y flwyddyn hon i fwrw pleidlais dros ‘Ie’, bwrw pleidlais er mwyn troedio llwybr cymodi,” meddai Anthony Albanese wrth y wasg yn ninas Canberra.

“Fe allai wella bywydau rhai o’r bobol fwyaf difreintiedig yn ein gwlad.”

Dywed ei fod e eisiau cymaint o gefnogaeth â phosib i’r cynlluniau, gan ddweud y “dylai hyn fod uwchlaw gwleidyddiaeth”.

Pe bai’n cael ei basio, ei obaith yw y byddai’r ddeddfwriaeth yn cael ei chyflwyno cyn diwedd y cyfnod seneddol presennol.

Dydy’r Blaid Ryddfrydol ddim wedi datgan eu cefnogaeth i refferendwm hyd yn hyn, ac mae carfan fechan ohonyn nhw wedi lansio ymgyrch yn ei erbyn gan ddadlau na fydd yn datrys y problemau sy’n wynebu pobol frodorol yn Awstralia.

Mae Lidia Thorpe, seneddwr y Blaid Werdd, wedi gadael y blaid a chroesi’r llawr yn sgil pryderon am y cynlluniau, wrth iddi alw am gytundeb rhwng y llywodraeth a phobol frodorol yn y lle cyntaf.

Mae’r sefyllfa honno’n gadael y llywodraeth leiafrifol mewn sefyllfa fregus wrth geisio pasio deddfwriaeth newydd, ac maen nhw bellach yn ddibynnol ar gefnogaeth y Blaid Werdd ac aelodau annibynnol.