Mae ymgyrch newydd yn galw ar y sector cyhoeddus, ac ysgolion yn benodol, i gynyddu’r ystod o gynnyrch Cymreig sydd ar eu bwydlenni.

Menter Môn sy’n gweithredu’r cynllun Larder Cymru, a’i nod yw ceisio rhoi pwysau ar sefydliadau i adolygu cyflenwadau bwyd ac i weithio gyda’u darparwyr i gynyddu’r cynnyrch lleol sydd ar gael.

Daw’r ymgyrch newydd yn sgil cyhoeddiad diweddar ar ganllawiau ac adnoddau caffael newydd gan Vaughan Gething, Ysgrifennydd Economi Cymru.

Yn becyn cymorth ymarferol, y bwriad yw cefnogi caffael bwyd a chynhyrchion bwyd yn fwy cynaliadwy, gan barhau i gydymffurfio â chyfreithiau caffael cyhoeddus.

Effaith bositif

Mae cyfres o ryseitiau sy’n cydymffurfio â Deddfwriaeth Bwyd Iach Ysgolion wedi ei datblygu gan Larder Cymru, gyda phwyslais ar gynnyrch Cymreig.

Mae’r ryseitiau ar gael i awdurdodau lleol ac i ysgolion sy’n awyddus i gyflwyno bwydlenni newydd a chaffael yn fwy cynaliadwy.

Mae Larder Cymru wedi’i ariannu gan Gynllun Datblygu Cadwyni Cyflenwi a Chydweithio trwy gorff ariannu WEFO a Llywodraeth Cymru.

Trwy’r cynllun hwn a phrosiectau arloesol eraill, nod Menter Môn yw gweithredu er mwyn cael effaith bositif ar gymunedau drwy greu a darparu cyfleoedd i fusnesau a phobol leol.

Taclo newid hinsawdd

“Prif nod Larder Cymru yw cadw’r gadwyn gyflenwi’n lleol, er mwyn cadw arian yn lleol, ac yn y pen draw, diogelu swyddi,” meddai Dafydd Jones, Rheolwr Prosiectau Bwyd Menter Môn.

“Rydym yn croesawu ymrwymiad y Llywodraeth i gaffael yn fwy cynaliadwy ac yn gofyn i swyddogion sefydliadau cyhoeddus i adolygu sut maen nhw’n prynu cynnyrch ac i roi mwy o bwyslais ar y lleol.”

Gyda Llywodraeth Cymru hefyd yn ymrwymo i ddarparu prydau ysgol am ddim i bob plentyn oedran cynradd erbyn 2024, mae Dafydd Jones yn teimlo bod cyfleodd pellach i hyrwyddo bwyd a diod Cymreig.

“Mae’r ymrwymiad yma yn gyfle arall am newid mewn polisi ac i gael mwy o gynnyrch Cymreig drwy cadwyni cyflenwi byrrach yn y sector gyhoeddus ac yn benodol mewn ysgolion,” meddai.

“Trwy Larder Cymru byddwn yn cefnogi busnesau bwyd i ddatblygu a chyflenwi contractau newydd er mwyn manteisio ar y cyfleodd hyn.

“Mae gweini bwyd iach lleol ac o safon yn hollbwysig, gyda’r sgil effeithiau o wneud hynny yn eang – o sicrhau deiet iach i blant, i daclo newid hinsawdd trwy leihau milltiroedd bwyd.”

Conwy yn arwain y ffordd

Mae Larder Cymru wedi bod yn cydweithio gydag un awdurdod lleol yn y gogledd i edrych ar ymarferoldeb cynyddu cynnyrch Cymreig ar fwydlenni.

Un ardal sydd eisioes yn gweini cynnyrch lleol yw Cyngor Bwrdeisdref Sirol Conwy, sy’n manteisio ar gynnyrch Llaeth y Llan, Edwards a becws Henllan, a’u prif gyflenwr, Gwasanaeth Bwyd Harlech.

“Mae hon yn bartneriaeth gyffrous gyda Menter Môn trwy Larder Cymru – ac yn newyddion da i fusnesau bwyd a diod lleol yn ogystal â disgyblion y sir,” meddai’r Cynghorydd Julie Fallon, Aelod Cabinet Cyngor Conwy sydd â chyfrifoldeb dros addysg.

“Gyda’r argyfwng costau byw yn hawlio penawdau ac yn rhoi mwy o bwysau ar deuluoedd, rydym yn falch o allu darparu cinio ysgol llawn maeth gyda phwyslais ar y lleol am ddim i bob plentyn Cyfnod Sylfaen.

“Ein gobaith yn y pen draw yw y bydd hyn yn rhoi’r cychwyn gorau posib iddynt a’r cyfle i gyrraedd eu potensial o ran eu haddysg.”