Y Lôn Goed, llwybr hanesyddol sy’n ffinio Llŷn ac Eifionydd, yw canolbwynt Coron yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.

Bwriad Elin Mair Roberts, gemydd 31 oed o Y Ffôr ger Pwllheli, ydy defnyddio’r ffiniau fel sail i Goron Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd.

Er ei bod hi’n cadw manylion y dyluniad yn gyfrinachol am y tro, mae Elin Mair wedi dechrau ar y gwaith yn ei gweithdy yng Nghaernarfon ac yn bwriadu defnyddio arian i’w chreu.

Wedi’i magu ar fferm, mae’r gemydd yn awyddus i gyfleu cyfoeth tir yr ardal drwy ddefnyddio’r lliw gwyrdd ar gyfer defnydd y benwisg.

Caiff y Goron ei rhoi am bryddest neu gasgliad o gerddi heb fod mewn cynghanedd a hyd at 250 o linellau ar y testun Rhyddid eleni.

‘Braint ac anrhydedd’

Gwelodd un o ffrindiau Elin Mair hysbysiad Undeb Amaethwyr Cymru yn y papur bro yn estyn gwahoddiad i unrhyw un oedd â diddordeb mewn cynnig dyluniad a gwneud Coron yr Eisteddfod i wneud hynny.

“Doeddwn i ddim wedi meddwl gwneud ond wedi meddwl amdan y peth dyma benderfynu rhoi cynnig arni,” meddai.

“Roedd hynny yn 2020, wrth gwrs, am fod yr Eisteddfod Genedlaethol i fod i ddigwydd ym Moduan yn 2021.

“Ond daeth Covid-19 a rhoi stop ar bob dim.

“Fe gedwais y dyluniad a’i ddanfon fewn llynedd, ac roeddwn wrth fy modd pan glywais mai fy nyluniad oedd wedi ei ddewis ar gyfer y Goron eleni.

“Dw i ddim wedi gwneud rhywbeth fel Coron o’r blaen ond rwy’n edrych ymlaen at y gwaith ac yn edrych ymlaen at weld yr ymateb iddi.

“Mae’n fraint ac yn anrhydedd i gael y cyfle i ddylunio a chreu coron Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd.”

Mae Elin Mair wedi bod yn dylunio gemwaith cyfoes ers 2011, ac ar ôl dilyn cwrs yn Hatton Garden yn Llundain dychwelodd i Gymru, ac erbyn hyn mae ei gwaith yn cael ei werthu mewn siopau ac orielau annibynnol dros wledydd Prydain.

Bellach, mae hi hefyd yn is-bartner yn Siop Iard, siop grefftau yng nghanol Caernarfon, ar y cyd â’r dylunydd gemwaith Angela Evans a’r gemydd Ann Catrin Evans, dwy arall sydd wedi dylunio a chreu Coron yr Eisteddfod Genedlaethol yn y gorffennol.

Amaethyddiaeth yn ysbrydoli

Cangen Sir Gaernarfon o Undeb Amaethwyr Cymru sy’n noddi’r gystadleuaeth eleni.

“Rydym yn falch iawn o allu parhau gyda’r traddodiad ar gyfer Eisteddfod 2023 a braint a phleser ydyw i Gangen Sir Gaernarfon o Undeb Amaethwyr Cymru gael cyflwyno y Goron i’r enillydd yn Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd 2023, ac rydym yn falch iawn mai Elin Mair Roberts o Y Ffôr ger Pwllheli fydd yn ei gwneud,” meddai Gwynedd Watkin, Swyddog Gweithredol Sirol yr Undeb.

“Mae Elin Mair yn emydd cyfoes yn creu dyluniadau gan ddefnyddio’r metelau gwerthfawr aur ac arian.

“Fel merch fferm, mae amaethyddiaeth yn ei hysbrydoli’n ddyddiol, yn ogystal â byd natur, ac mae hynny’n amlwg yn ei chasgliadau presennol.

“Rydym fel Undeb yn edrych ymlaen at weld y gwaith wedi ei gwblhau a chael cyflwyno’r Goron i’r Eisteddfod.”

Pe bai teilyngdod, bydd y Goron yn cael ei chyflwyno i’r bardd buddugol ddydd Llun, Awst 7.