Mae blanced o lieiniau cwrw gafodd eu defnyddio ar gyfres C’mon Midffîld! wedi’i rhoi ar ocsiwn er mwyn codi arian.

Roedd Morus Elfryn yn rheolwr cynhyrchu ar y gyfres, ac yn dod adref bob hyn a hyn efo’r llieiniau oedd ar y bar yn nhafarn y Bull ym Mryncoch mewn gwahanol benodau, meddai ei fab.

Bu farw â chanser fis Mawrth y llynedd, a bydd yr arian o werthu’r flanced yn mynd tuag at ymchwil i ganser.

Yn wreiddiol o Bontsian yn ne Ceredigion, roedd Morus Elfryn yn aelod o’r Cwiltiaid a’r Dyniadon Ynfyd Hirfelyn, a dechreuodd ganu ar ei liwt ei hun ganol y 1970au.

Treuliodd gyfnod yn gweithio gyda’r BBC yng Nghaerdydd, cyn symud i’r gogledd a dechrau gweithio gyda Ffilmiau’r Nant, lle daeth ynghlwm â chyfresi fel C’mon Midffîld! a Pengelli.

“Roedd dad yn dod adref bob hyn a hyn efo un neu ddau, dw i ddim yn gwybod pam oedd o’n dod â nhw adref,” meddai Deian Elfryn, sy’n byw ym Methel ger Caernarfon, wrth golwg360.

“Wedyn fe wnaeth mam gael digon ohonyn nhw, a phenderfynu gwneud cwilt gwely. Hwnna oedd fy nghwilt gwely i am flynyddoedd pryd oeddwn i’n teenager!

“Mae o wedi bod yn eistedd yn y Beudy, dyna rydyn ni’n alw fo – hen feudy sydd wedi cael ei convertio – am flynyddoedd maith.

“Fe wnes i weld o ddoe a meddwl ys gwn i os fysa rywun efo diddordeb yn hwn?”

Rhoddodd Deian Elfryn neges ar Facebook yn gofyn a fyddai gan rywun ddiddordeb, ac erbyn hyn mae cynnig o £180 wedi cael ei roi am y flanced gyda chwe diwrnod i fynd.

“Dw i wedi cael sioc faint o ymateb mae o wedi’i gael.

“Dw i ddim yn gwybod os ydy o werth rhywbeth i rywun neu os fysa yna rywun yn licio’i gael o ond fe wnes i jyst cael y syniad o gael ryw bidding war i godi pres.

“Mae hi’n eiconig o raglen, felly ella bod o’n collectors item!”

Mewn cyfweliad gyda golwg yn 2014, dywedodd Mervyn Rowe, cynllunydd set C’mon Midffîld!, ei fod wedi cael yr holl addurniadau a defnyddiau ar gyfer tŷ Lydia Tomos, tŷ Arthur Picton a thu mewn i dafarn y Bull yn rhad iawn mewn ocsiwn yn Llandudno.

‘Storis gwirion’

Roedd Deian Elfryn tua naw neu ddeg oed ac yn ddisgybl yn Ysgol Waunfawr ger Caernarfon pan ddechreuodd C’mon Midffîld! gael ei ffilmio yn yr ardal.

“Roeddwn i yn y bennod gyntaf un yn y cefndir yn chwarae pêl-droed,” meddai.

“Dw i’n cofio Dad yn dod adref a dweud storis gwirion am be oedd wedi digwydd a be oedd wedi mynd yn rong, a phobol yn chwerthin a methu stopio chwerthin.

“Dw i’n cofio Dad yn mynd i’r Eidal am wyth wythnos i ffilmio’r un Cwpan y Byd, ‘Yr Italian Job’.

“Gen i gof ohono fo’n dweud am y bennod dwyn defaid [pennod ‘Meibion Bryncoch’], fe wnaethon nhw golli’r ddafad ac roedd rhaid iddyn nhw gyd redeg ar ôl ei hôl hi.

“Storis gwirion fel yna.”

Mae modd gwneud cynnig am y flanced ar-lein.

Teyrngedau i Morus Elfryn, cerddor a rheolwr cynhyrchu “uchel iawn ei barch”

“Mi wnaeth gyfraniad mawr i S4C yn y degawdau cyntaf yna,” meddai Alun Ffred Jones, a fu’n gweithio gyda Morus Elfryn ar raglenni fel Cmon Midffild