Mae’r bardd a’r gantores-gyfansoddwraig Bethany Celyn wedi cael ei phenodi’n Olygydd Creadigol newydd gyda Chyhoeddiadau Barddas.

Yn wreiddiol o Ddinbych, mae Bethany Celyn bellach yn byw yng Nghaernarfon ac yn treulio dipyn o’i hamser yn Aberystwyth hefyd.

Bydd yn olynu Alaw Mai Edwards, fu yn y swydd am bron i bum mlynedd.

Graddiodd o King’s College London yn 2016 gyda gradd dosbarth cyntaf mewn Iaith a Llenyddiaeth Saesneg, cyn cwblhau gradd mewn Ysgrifennu Creadigol Cymraeg ym Mangor.

Mae hi’n gweithio ym myd llenyddiaeth a’r celfyddydau ers blynyddoedd fel bardd comisiwn ac yn canu a chyfansoddi, ac yn ddiweddar, mae hi wedi bod yn gweithio yn y trydydd sector gyda phobol ifanc bregus a digartref ac wedi gweithio ym myd theatr a gydag ysgolion.

‘Aelod brwdfrydig a chreadigol’

Meddai Aneirin Karadog, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Barddas: “Mae’n bleser gennym i groesawu Bethany Celyn atom fel aelod brwdfrydig a hynod greadigol o deulu Barddas.

“Mae gan Bethany syniadau ffres a gweledigaeth gyffrous ar gyfer Cyhoeddiadau Barddas.

“Wedi cyfnod llwyddiannus o bron i bum mlynedd pan fu Alaw Mai Edwards yn rôl y Golygydd Creadigol, rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr i weld ei holynydd, Bethany, yn adeiladu ar y seiliau cadarn a osodwyd.

“Edrychwn ymlaen i weld Bethany Celyn hefyd yn symud Cyhoeddiadau Barddas ymlaen gan hefyd weithio ar wireddu mwy ar nod y Gymdeithas Gerdd Dafod, sef hybu’r gynghanedd a barddoniaeth Gymraeg ymysg y cyhoedd.”

‘Braint’

Mae Bethany Celyn eisoes wedi dechrau ar ei swydd newydd, ac mae hi’n edrych ymlaen at “gydio’n awenau creadigol y rôl a chael dylanwad ar y llyfrau sy’n cyrraedd ein silffoedd”.

“Braint fydd cael cydweithio gyda’r holl olygyddion a beirdd a rhoi llwyfan i’r sbectrwm eang o leisiau talentog sydd yma yng Nghymru,” meddai.