Mae teyrngedau wedi cael eu rhoi i’r actores Christine Pritchard sydd wedi marw yn 79 oed.

Roedd yr actores yn adnabyddus am chwarae rhan y wrach Rala Rwdins yn yr addasiad teledu o gyfres Angharad Tomos.

Ymddangosodd mewn degau o ffilmiau, cyfresi a dramâu eraill hefyd, gan gynnwys Dinas, Pobol y Cwm, Anita, Un Bore Mercher a Glas y Dorlan.

Wedi’i magu yng Nghaernarfon, astudiodd radd mewn Saesneg, Lladin a Drama ym mhrifysgol Bryste.

Bu’n gweithio fel athrawes yn Llundain ac yn ynys St Kitts yn y Caribî, cyn cael blas ar actio a newid gyrfa tua diwedd y 1960au.

‘Colled i Gymru’

Mae ei cholli’n “golled i Gymru” ac yn enwedig felly’r byd theatr a chelfyddydau, meddai’r actor Richard Elfyn, oedd yn actio rhan Dewin Doeth yn y gyfres Rala Rwdins.

Buodd yn gweithio gyda Christine Pritchard ar sawl rhaglen radio a drama lwyfan wedi hynny hefyd.

“Roedd hi’n berson hyfryd ac roedd hi wastad yn bleser gweithio efo hi, ar bob cynhyrchiad dweud y gwir,” meddai Richard Elfyn wrth golwg360.

“Roedd hi wastad mor broffesiynol ac mor llawn cariad, ac roedd hi wastad yn barod i helpu mewn unrhyw ffordd.

“Roeddwn i ar Dinas efo hi, hi oedd bos fy nghymeriad i ar Dinas. Roedd hi’n hyfryd efo fi, doedd gen i ddim lot fawr o brofiad gweithio ar deledu.

“Dyna i gyd oeddwn i eisiau ei wneud yn fy ugeiniau oedd gwaith theatr, ac fe wnes i waith ar Dinas a hi oedd Mrs Gregory, yn rhedeg busnes ac roedd fy nghymeriad i’n gweithio iddi hi. Roedd hi mor glên.

“Gaethon ni gymaint o hwyl yn gweithio ar Rala Rwdins, tair cyfres i gyd dros dair blynedd, a chwerthin drwy’r amser.

“Roedd o i gyd ar blue screen, dyna oedden nhw’n alw fo adeg hynny. Dw i’n meddwl bod o wedi troi’n wyrdd erbyn heddiw.

“Roedden ni’n gorfod dychmygu’r rhan fwyaf o’r set, yn enwedig pan oedden ni tu allan. Roedden ni jyst yn gweld glas yn bob man, ac roedd fy ngwisg gyntaf i efo ychydig bach o las ynddi hi ac roeddwn i’n diflannu pan oeddwn i’n camu ar y set ac roedd rhaid iddyn nhw wneud hi fymryn yn fwy gwyrdd.

“Roedd o’n hwyl gweithio efo hi bob tro, gymaint o hwyl. Fydda i’n ei cholli hi’n fawr iawn.”

‘Braint gweithio efo hi’

Mae atgofion Richard Elfyn o Christine Pritchard a’i dylanwad arno yn ymestyn yn ôl ymhellach hefyd.

“Gymaint y gwnes i fwynhau gweithio efo hi dros y blynyddoedd, ond hyd yn oed cyn hynny, dw i’n cofio’i gwylio hi yn y 70au yn teithio efo Meic Povey yn gwneud Gymerwch Chi Sigarét?,” meddai.

“Dw i’n cofio gweld hwnnw ym Motwnnog yn y 70au cynnar, ac wedyn ryw ddeuddeg mlynedd wedyn roeddwn i’n gwneud y ddrama efo Theatr Gwynedd.

“Pan oeddwn i’n gweithio ar y ddrama roeddwn i’n meddwl am ei pherfformiad hi a Meic.

“Mae cofio amdani’n mynd yn ôl am ddegawdau, bron iawn i hanner can mlynedd o fod yn ymwybodol ohoni cyn cael y fraint o weithio efo hi.

“Mae’n golled i Gymru, yn enwedig i’r theatr a’r byd celfyddydau. Roedd hi’n berson unigryw iawn.”

‘Un o’n hactoresau gorau’

Bu Wynford Ellis Owen yn gweithio gyda hi ar gyfres Dinas, ac meddai ar Twitter: “Bu’n ‘wraig’ i mi am flynyddoedd lawer: un o’n hactoresau gorau ni.

“Fy nghydymdeimlad cywiraf â’r teulu bach yn eu colled a’u galar.”

Dywedodd yr actor Cefin Roberts: “Christine Pritchard – cwmni diddan bob amser, actores garedig a thalentog.

“Cwsg yn dawel del!”