Fe wnaeth ffotograffydd o Fôn fanteisio ar y cyfnod clo i dynnu ynghyd werth blynyddoedd o ffotograffau sydd yn rhan o arddangosfa yn Storiel.
Mae’r arddangosfa o luniau Laurence Gane, sy’n wreiddiol o Lundain ond bellach yn byw ger Pont Menai, yn arddangos ffoto-destunau gafodd eu tynnu dros gyfnod o ddeg i bymtheg mlynedd, ond a gafodd eu dewis yn ystod y cyfnod clo yn 2021.
Maen nhw’n cynnig rhai agweddau sardonig, eironig a dystopaidd ar ddelweddau gafodd eu tynnu o ddiwylliant poblogaidd, teledu a bywyd y ddinas.
Mae datblygiad technoleg ddigidol wedi chwalu ein perthnasoedd cymdeithasol, ond erbyn hyn mae’n ymddangos mai dyma’r pryder lleiaf sydd gennym ni.
Mae pandemigau, rhyfel a newid hinsawdd yn peri bygythiadau llawer tywyllach i’n dyfodol a’n bodolaeth fel rhywogaeth, gan achosi pryder a cholli cwsg, ac mae’r delweddau hyn yn rhoi darlun o’r symptomau sy’n rhan o’n cyfyng-gyngor.
Cafodd pob delwedd ei thynnu â ffôn symudol gan ddefnyddio’r golau oedd ar gael, a doedd dim golygu digidol fel rhan o’r broses.
Defnyddio ffôn clyfar
Er bod Laurence Gane wedi arfer â defnyddio offer proffesiynol a bod ganddo gefndir fel ffotograffydd, mae’n well ganddo ddefnyddio ffôn clyfar.
Mae’n hoffi bod yn anhysbys mewn sefyllfaoedd cymdeithasol, a dydy o ddim eisiau tynnu sylw at ei hun efo camera, ond byddai’n rhaid iddo ddefnyddio camera pe bai’n dymuno tynnu lluniau mwy o faint.
“Rwyf wastad wedi caru ffotograffiaeth,” meddai.
“Ar un adeg, cefais y dewis o fynd yn broffesiynol, ond penderfynais fy mod eisiau bod yn academydd.
“Rwy’n hoff iawn o ffilm analog a’r holl bethau yna, ond yr holl beth am ffonau clyfar yw bod y math o luniau rydw i eisiau eu tynnu yn aml mewn sefyllfaoedd cymdeithasol, a dydw i ddim eisiau i bobol sylwi arna i.
“Os oes gennych chi gamera, mae pobol yn sylwi arnoch chi.
“Os ydych chi’n defnyddio ffôn clyfar, rydych chi’n llawer mwy anhysbys.
“Dyna pam dw i’n ei ddefnyddio.
“Nid yw’r ansawdd cystal ag y gallwn ei gael gyda’r offer cywir, ond mae’r ansawdd yn ddigon da.
“Pe bawn i eisiau delweddau ugain troedfedd o uchder, mae’n debyg y byddai’n rhaid i mi edrych ar wahanol offer.
“Mae ffôn clyfar yn fy siwtio’n iawn.
“Maen nhw’n gwella drwy’r amser.
“Mae’r Samsung newydd yn rhyfeddol, ond maen nhw i gyd yn dda iawn.
“Dydw i ddim yn gwneud unrhyw driciau a stwff digidol.
“Fy nhric yw ychwanegu’r testun.”
Effaith y cyfnod clo
Oherwydd heriau’r cyfnod clo, cafodd Laurence Gaine ddigon o amser i hel delweddau roedd wedi’u tynnu dros y blynyddoedd.
Er bod rhai lluniau yn ymwneud â’r cyfnod clo, nid y cyfnod clo yw prif destun yr arddangosfa.
Yn hytrach, mae’n canolbwyntio ar beidio bod yn hapus efo datblygiadau’r byd modern.
“Rwy’n edrych ar bethau rydw i wedi edrych arnyn nhw ers cryn amser,” meddai.
“Y peth am y cyfnod clo yw fy mod i ynddo ar fy mhen fy hun, chwalodd fy mherthynas yn ystod y cyfnod clo.
“Rwy’n byw ar fy mhen fy hun beth bynnag.
“Roedd gennyf gymaint o amser.
“Mae gen i stiwdio recordio broffesiynol. Cafodd honno ei chau. Roedd popeth ar gau.
“Cefais yr holl amser yma i hel gwaith.
“Mae’r delweddau rydw i wedi’u defnyddio wedi’u tynnu dros ddeg i bymtheg mlynedd.
“Daeth y syniad o’u hargraffu gyda thestun ataf yn ystod y cyfnod clo, ond dydy fy ngwaith ddim yn ymwneud yn benodol â’r cyfnod clo.
“Mae rhai o’r materion yn ymwneud ag o, ond dwi’n meddwl yn fwy cyffredinol gan fod teitl y sioe yn adlewyrchu anesmwythder cyffredinol ac anfodlonrwydd gyda bywyd fel y mae heddiw.
“Roedd y cyfnod clo bryd hynny yn un mater arall i fod yn bryderus yn ei gylch.
“Ers hynny, wrth gwrs, rydyn ni wedi cael y rhyfel.
“Ymddengys ei fod yn un trychineb ar ôl y llall yn pentyrru.
“Mae’r sioe yn adlewyrchu pryderon ac anfodlonrwydd.
“Mae’n mynegi datgysylltiad cyffredinol â bywyd cyfoes.
“Does dim llawer o bethau cadarnhaol yn digwydd.
“Mae popeth sy’n digwydd efo tueddiad tuag at ryw ddyfodol dystopaidd nad ydyn ni wir eisiau bod yn rhan ohono, neu dwi ddim am fod yn rhan ohono fo beth bynnag.”
Dirywiad mewn safonau byw efo amser
Barn Laurence Gain, sy’n 80 oed, yw bod safonau byw wedi dirywio efo amser ac mae’r sioe yn adlewyrchiad o hyn .
Mae’n cofio amser lle gallai gael swydd o’i ddewis fel person dosbarth canol.
“Mae pob cenhedlaeth yn dweud bod y gorffennol yn amser gwell,” meddai.
“Yn fy achos i, mae rhai ffeithiau gwrthrychol am fy mywyd pan oeddwn yn 20 neu’n 30.
“Bryd hynny, cefais fy ngeni yn Llundain, ac roeddwn yn byw yn Llundain am 45 mlynedd.
“Er i mi gael fy ngeni i deulu dosbarth canol is, roeddem yn eithaf tlawd, ac roeddwn yn ffodus i fynychu’r brifysgol.
“Bryd hynny, roedd llai na 10% o’r boblogaeth yn mynd i’r brifysgol.
“Rwy’n 80 eleni.
“I mi ac i bobl yn gyffredinol, nid yn unig y bobl addysgedig dosbarth canol, roedd swyddi i’w cael.
“Gwellodd safonau byw ar ôl y rhyfel oherwydd bod y rhyfel wir yn rhywbeth.
“Cefais fy ngeni yn ystod yr ail ryfel byd.
“Roedd pethau’n dda iawn.
“Pan adewais y brifysgol, roeddwn i’n gallu gwneud unrhyw beth roeddwn i eisiau, unrhyw swydd.
“Nid oedd yn gwestiwn a allwn i gael y swydd hon, ond pa swydd hoffwn i.
“Felly yn bendant, fy mhrofiad o fywyd yw dirywiad cyffredinol mewn gwerthoedd a safonau cymdeithasol ac economaidd.
“Mae’r math yma o sioe yn adlewyrchu hynny.”