Mae awdures y gyfrol Llyfr y Flwyddyn yn dweud ei bod hi wedi’i hysbrydoli gan straeon yn y newyddion am gasineb tuag at ferched, ac nad yw hi eisiau i’r darllenydd uniaethu â’i phrif gymeriad.

Mae wedi’i hysgrifennu o safbwynt y prif gymeriad, Robin Richards, dyn sy’n casáu merched a chaiff merched eu gweld drwy ei lygaid o ac nid trwy lygaid yr awdures ei hun.

Daw’r teitl o ddyhead y prif gymeriad i ennill gwobr Llyfr y Flwyddyn.

“Roedd yr ysbrydoliaeth a dweud y gwir yn dod o straeon ar y newyddion, oherwydd bron bob dydd rydym yn gweld straeon ar y newyddion am gasineb tuag at ferched,” meddai Mari Emlyn wrth golwg360.

Yn gysgod yn y llyfr mae adar efo’u symbolaeth, a phentref bach yng ngogledd Cymru lle mae’r stori wedi ei leoli yn dirywio oherwydd newidiadau yn y byd modern.

Y prif gymeriad

Wedi’i sbarduno gan stori oesol a stori sy’n berthnasol yng Nghymru, ysgrifennodd Mari Emlyn am ddyn sydd ag atgasedd tuag at ferched.

“Rydym yn ei weld yng Nghymru efo beth sy’n digwydd efo’r WRU efo’r rygbi,” meddai.

“Mae ymchwiliad ar hyn o bryd iddyn nhw am y ffaith eu bod nhw’n casáu merched. Mae’r peth yn anhygoel.

“Yr hyn rydym yn ei weld yn y newyddion bob dydd am gasineb tuag at ferched sydd wedi ffurfio cymeriad Robin Richards mewn gwirionedd.

“Dyn misogynist yn y bôn, sy’n casáu merched.”

Dydy’r merched ddim yn cael eu disgrifio fel ag y maen nhw, ond trwy Robin Richards.

“Mae merched yn cael eu portreadu yn y llyfr trwy lygaid Robin Richards.

“Mae’n eithaf cymhleth oherwydd bod dychan yn y nofel, oherwydd mae merched yn cael eu portreadu trwy lygaid dyn sy’n misogynist felly dwi’n gobeithio bod y darllenydd am weld mae dychan ydy hwn ac nid dyma farn Mari Emlyn am ferched.”

Torri confensiwn

Yn draddodiadol, mae awduron wedi ysgrifennu am brif gymeriad mae’r darllenydd yn ei garu ac yn ei ddeall, ond mae Mari Emlyn wedi gwneud y gwrthwyneb yn y gyfrol hon.

“Fel arfer, pan mae rhywun yn ysgrifennu nofel, mae confensiwn yn dweud wrtha chdi i greu prif gymeriad mae’r darllenydd yn gallu cydymdeimlo efo fo,” meddai.

“Yn yr achos yma, rwy’ wedi herio’r confensiwn hwnnw trwy greu cymeriad atgas.

“Rwy’n gobeithio na fydd y darllenydd yn uniaethu na chydymdeimlo efo Robin Richards.

“Mae o ychydig o gambl.

“Fy ngobaith yw bod y darllenydd eisiau gweld sut mae’r stori’n datblygu.

“Y darllenydd yn y pendraw sydd am farnu os yw’r stori yn gafael digon i fod yn stori dda.”

Adar

Yn is thema yn y llyfr mae adar, ac yn benodol brain.

Mae’r brain yn cynrychioli marwolaeth, ac yn gysgod i Robin Roberts.

Mae ei wraig Llinos yn creu adar allan o bapur, ac mae hyn yn adleisio hanes trychinebus a thebyg Branwen yn y Mabinogi.

“Mae yna sawl cymeriad yn y llyfr wedi enwi ar ôl adar,” meddai Mari Emlyn.

“Mae Robin, Llinos, Branwen ac ati.

“Mae brain yn chwarae rhan yn y nofel.

“I fi, pan oeddwn yn ysgrifennu’r nofel yma, roedd haid o frain yn ynysu ar ein simdde ni go iawn.

“Es i ychydig bach yn paranoid am y brain yma, oherwydd maen nhw’n cael eu cysylltu efo marwolaeth.

“Meddyliais y byddai’n eithaf diddorol dod â’r brain yma fel rhyw gysgod dros y prif gymeriad Robin.

“Hefyd mae ei wraig o, Llinos, yn creu papur origami, yn creu adar papur origami.

“Mae hwnna’n ryw fath o nod at y Mabinogi efo Branwen efo’i drudwy wedi caethiwo a’r drudwy yma’n cael ei anfon allan efo neges i geisio ei hachub hi.

“Mae’r nofel mewn gwirionedd am abuse domestig, ac wrth gwrs dyna oedd yn digwydd i Branwen.

“Pan gafodd ei charcharu yn y gegin yn Iwerddon, roedd y gwas yn cael ei churo hi un waith y diwrnod.

“Defnyddiodd hi’r drudwy fel ffordd o geisio ffeindio help.”

Ail gartrefi a dirywiad cymdeithas

Wedi ei lleoli mewn pentref dychmygol yng ngogledd Cymru, mae dirywiad cymdeithas o’r fath i’w deimlo yn y byd go iawn hefyd.

“Mae yna sawl enghraifft yn y llyfr o ddirywiad cymdeithas,” meddai Mari Emlyn.

“Mae’r nofel wedi ei lleoli mewn pentref dychmygol o’r enw Pont Hen Felin ac mae sawl cyfeiriad yn y llyfr at y ffaith bod y pentref yma mewn gwirionedd ar ei liniau.

“Mae bob yn ail ddrws efo key safe, sy’n awgrymu mai ail gartrefi ydyn nhw.

“Mae’r busnesau ar hyd y Stryd Fawr i gyd wedi cau.

“Mae’r unig gapel sydd ar ôl ar fin cau.

“Mae’n ryw fath o cul-de-sac o bentref.

“Buodd yn llewyrchus iawn ar un adeg, ond fel llawer o bentrefi a threfi glanmôr ar hyd arfordir gogledd Cymru, maen nhw’n gweld dirywiad mawr yn gymdeithasol.”