Mae Rheolwr Hwb Menter gyda Menter Môn yn dweud bod yna “ychydig o stereoteip mai dynion hŷn mewn siwt a brîffcês sydd yn rhedeg busnes”.
Daw sylwadau Sara Lois Roberts ar drothwy digwyddiad i ferched sydd mewn busnes neu sy’n meddwl cychwyn busnes gael cyfle i rwydweithio, ac mae’r digwyddiad hefyd yn talu sylw i hunanofal.
Nod rhwydwaith Merched Mentrus Môn a Gwynedd ydy rhoi cyfle, trwy gyfrwng y Gymraeg, i ferched sydd mewn busnes neu sydd yn meddwl dechrau busnes ddod at ei gilydd i rwydweithio, cefnogi ei gilydd a dysgu sgiliau newydd.
Mae rhedeg busnes yn brofiad buddiol a gwerthfawr, ond mae’n golygu bod llai o amser i flaenoriaethu eich hunain, felly mae’r digwyddiad yn gyfle i ddysgu am hunanofal a sut i edrych ar ôl y meddwl a’r corff.
Mae’r digwyddiad yn ardal Gwynedd ac Ynys Môn wedi’i drefnu gan Rwydwaith Merched Mentrus Môn a Gwynedd, yng Nghaffi BRAF Dinas Dinlle nos Iau, Mawrth 2, rhwng 7 o’r gloch a 9 o’r gloch.
Bydd cyflwyniad ar newid ffyrdd o feddwl (NLP) i leihau gorbryder a chynyddu lles gan Enid Roberts, a sesiwn ioga gydag Elen Ifan, ac mae’n rhan o bartneriaeth rhwng Hwb Menter, Helo Blod, Menter Iaith Mon, Cwmni Celyn a Dolen HR.
Caiff yr Hwb Menter ei ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.
Hunanofal yn allweddol i redeg busnes yn fwy effeithiol
Gan fod rhedeg busnes yn gyfrifoldeb mawr, mae Sara Lois Roberts yn credu bod hunanofal yn hynod bwysig yn bersonol ac i redeg busnes yn fwy effeithiol.
“Yn gyffredinol, mae gwylio ar ôl dy hun yn bwysig,” meddai wrth golwg360.
“Rwy’n hoffi’r dywediad ‘If you don’t make time for your wellness, you will be forced to make time for your illness‘.
“Mewn geiriau eraill, os nad wyt ti yn stopio i wneud amser i edrych ar ôl dy hun, mi ei di yn sâl a fydd gen ti ddim dewis ond stopio.
“Pan wyt ti’n dechrau busnes, chdi sy’n gyfrifol am bob dim, ti’n gorfod gofalu am farchnata, cyfrifon, y gwaith ei hun, bob dim. Mae o’n gallu mynd reit overwhelming.
“Ti’n gorfod gwneud yn siŵr dy fod yn cymryd cam yn ôl oherwydd, os wyt ti ddim yn iach, beth ydy’r pwynt o ddim byd arall? Beth ydy’r pwynt o gael busnes sy’n ffynnu os wyt ti ddim yn ffynnu?
“Mae llawer o fuddion o wylio ar ôl dy hun, ti’n canolbwyntio’n well, ti’n fwy cynhyrchiol yn dy waith ac yn hapusach yn gyffredinol yn dy fywyd personol.”
‘Role models‘ da yn y Gymraeg yn Ninas Dinlle
Gyda’r sesiwn yn Ninas Dinlle, mae cyfle i ferched rwydweithio a chefnogi ei gilydd mewn caffi sydd yn nwylo merched.
“O ran y sesiwn rydym yn ei gwneud nesaf, mae wedi ei lleoli yng nghaffi BRAF yn Ninas Dinlle,” meddai.
“Rwy’n meddwl bod hwnna’n le da oherwydd mae dwy ferch yn y fan yna sydd wedi dod at ei gilydd i gychwyn BRAF fel caffi, a gwneud gweithdai cadw’n iach a heini, a ballu.
“Maen nhw eto’n role models da.
“Rydym yn dueddol o gael pynciau gwahanol ym mhob un sesiwn, er mwyn i bawb gael dysgu rhywbeth ac mae’r elfen Gymraeg yn bwysig.
“Mae yna dipyn o rwydweithiau iaith Saesneg allan yna roedd pobol yn mynd iddyn nhw, ond y teimlad oedd bod yna gap o ran rhwydwaith Gymraeg, sef dewis iaith nifer fawr o’r mynychwyr.
“Os ydy pobol yn siarad Cymraeg, mae’n haws siarad efo pobol eraill yn Gymraeg os mai dyna wyt ti wedi arfer efo fo.”
Rhwystrau gwahanol i ddynion
Yn ôl Sara Lois Roberts, mae rhwydweithio’n hollbwysig, ac mae tystiolaeth i gefnogi hynny.
Wedi ei ddechrau gan ferched oedd yn profi rhwystredigaethau fel merched mewn busnes, mae’r sesiynau rhwydweithio wedi bod yn mynd ers ychydig flynyddoedd, ac mae’r merched wedi creu cymuned ac yn ysbrydoli’i gilydd.
“Mae llawer o ymchwil yn dangos bod angen cynyddu opsiynau rhwydweithio ac eraill er mwyn cynyddu nifer y merched sydd yn rhedeg busnes,” meddai wedyn.
“Dyna le mae’r Merched Mentrus wedi dod mewn.
“Mae yna ddwy ferch yn lleol sy’n rhedeg busnes cwmni Celyn a Dolen HR.
“Gwnaethon nhw ddod at Menter Môn eisiau cychwyn y rhwydwaith yma oherwydd eu bod nhw’n teimlo eu bod yn dod fyny yn erbyn rhwystrau gwahanol i ddynion mewn busnes a bysan nhw’n hoffi cael grŵp o ferched sy’n wynebu’r un fath o bethau â rhywun maen nhw’n gallu trafod efo, a dod dros yr hurdles.
“Gwnaethon ni gydweithio efo nhw i sefydlu Merched Mentrus yn 2019. Gwnaethon ni’r cyntaf ym Mhorthaethwy. Daeth llawer o bobol i hwnna ac roedd adwaith da iawn.
“Rydym yn agored i bobol sydd newydd ddechrau busnes neu efo busnes ers blynyddoedd, neu hyd yn oed i bobol sy’n meddwl am y peth.
“Y bwriad ydy i chdi ddod i adnabod pobol eraill a gallu uniaethu efo nhw, cael dy ysbrydoli ganddyn nhw.
“Ti ddim yn gwybod o ran y cysylltiadau ble mae dy gyfle nesaf am ddod, efallai bod dy gleient nesaf di’n eistedd wrth dy ochr, efallai bo chdi’n chwilio am wefan ac mae rhywun sy’n creu gwefan wrth dy ochr.
“Mae’n gallu bod yn unig dechrau busnes ar adegau felly mae creu’r gymuned yna’n ofnadwy o bwysig.”
‘Cynyddu opsiynau i ferched’
Yn ôl Sara Lois Roberts, mae ymwchwil yn dangos bod angen cynyddu mynediad i gyllidebau i helpu merched gychwyn busnes a bod yn fwy cyfartal o ran cynrychiolaeth, cael mwy o ferched mewn busnes yn cynghori eraill a rhedeg gweithdai, gan eu bod nhw’n gallu uniaethu mwy â’i gilydd.
“Mae llawer o’r adolygiadau rydym wedi bod yn edrych arnyn nhw yn rhoi argymhellion o ran cynydd y nifer o ferched sydd yn dechrau busnes, pethau fel ceisio cynyddu’r opsiynau sydd yna o ran cyllideb i ferched,” meddai.
“Mae angen eu gwneud nhw yn fwy ymwybodol o beth sydd ar gael a’u cefnogi nhw i wneud ceisiadau am gyllideb ac amlygu role models a mentoriaid addas.
“Er enghraifft yn yr Hwb Menter, rydym yn ceisio gwneud yn siŵr bod nifer y cynghorwyr busnes sy’n ferched a dynion yn gyfartal. Eto, gan fod merched yn fwy dueddol o fod eisiau mynd at ferched eraill i gael cymorth, yr elfen uniaethu.
“O ran cynrychiolaeth gyfartal, rydym hefyd yn ceisio gwneud yn siŵr, os fyw merched yn dod i’n gweithdai ni, bod yna ddigon o ferched yn rhedeg y rheiny a’n bod ni’n hyrwyddo pobol sydd wedi dechrau busnes sydd yn ferched.
“Rwy’n meddwl bod o jyst yn ceisio cynyddu y meddylfryd yna, cael yr agwedd, ‘os mae hi’n gallu gwneud o, rwy’n gallu gwneud o’.”
Llai o ferched yn berchen busnes
Mae tystiolaeth yn dangos bod llai o ferched yn berchen busnes, ond pam?
Yn ôl Sara Lois Roberts, mae’r ymchwil yn dangos ei bod yn rhannol oherwydd bod merched yn dueddol o fod â mwy o gyfrifoldebau teuluol, efo mynediad at lai o gyllideb, ac weithiau dydyn nhw ddim mor hyderus.
Gyda Hwb Menter yn helpu pobol i ddechrau busnes, a nifer o staff yn ferched, maen nhw wedi gweld yr un nifer o ferched yn dod atyn nhw am gymorth â dynion.
“Rwy’n meddwl bod yna gonsensws yn gyffredinol fod yna ddim gymaint o ferched yn dechrau busnesau â dynion,” meddai.
“Yn yr Hwb Menter, rydym yn defnyddio canllaw arfer da sydd wedi ei greu gan Llywodraeth Cymru i gefnogi merched mewn busnes, ac mae hwnnw’n dangos mai ond 28% o fusnesau yng Nghymru ar y pryd oedd yn cael eu rhedeg gan ferched.
“Yn anffodus, mae yna ymchwil ychwanegol allan yna sy’n dangos bod Covid wedi gwneud pethau ychydig yn waeth, sy’n ddiddorol.
“O ran pam, mae pawb yn wahanol, wrth gwrs, ond yn gyffredinol mae gan ferched heriau gwahanol i ddynion yn aml iawn.
“Mae llawer o bethau’n dod lawr i gyfrifoldebau eraill sy’n dueddol o ddisgyn ar ferched, fel gwylio ar ôl plant, gofalu ar ôl rhieni oedrannus ac ati, elfenau oedd wedi cynyddu yn ystod Covid gydag ysgolion ar gau ac ati.
“Mae pethau fel hynny yn mynd ar draws eu hamser nhw i gychwyn busnes. Mae hyn yn un o’r rhesymau, yn ôl yr ymwchil.
“Mae llawer o’r ymchwil rydym yn edrych arno fel y Rose Review, sydd wedi dod allan gan Natwest, yn dweud bod llai o fynediad i gyllideb i ferched.
“Roedd yr Entrepreneur Network yn dweud mai 9% o gyllideb sy’n mynd i ferched, eto mae hyn yn ofnadwy o isel.
“Eto mae’n anodd dweud beth yw’r rheswm am hynny. Efallai bod yna ychydig o unconscious bias fod merched ddim yn mynd i dyfu busnesau i’r lefel sydd ei hangen fel bod investors yn cael gwerth am arian.
“Rwy’n gweld bod llawer o ddiffyg hunanhyder gan ferched hefyd, ac elfen o farn eraill os nad ydy rhywbeth yn gweithio allan.
“Roeddwn yn siarad efo merch y bore yma sydd eisiau cychwyn busnes, ac roedd hi’n teimlo fel bod hi ddim yn gwybod os fysa hi’n gallu’i wneud o.
“Rwy’n meddwl bod siarad efo rhywun wedi helpu, a gwnaeth hi adael yn meddwl, ‘Galla i roi go arno fo‘.
“Hyd yn oed os dydy pethau ddim yn mynd yn iawn, ti wedi trio.
“Mae pobol yn mynd i farnu hyd yn oed os ti’n gwneud yn dda.”
Merched yn llwyddo i ddenu merched
Yn ôl Sara Lois Roberts, mae tua’r un faint o ddynion a merched yn mynd at yr Hwb Menter i ddechrau busnes.
“Mae split yr Hwb Menter yn agos i 50/50 o ran merched a dynion,” meddai.
“Rwy’ wedi bod yn cysidro pam yn ddiweddar, ac rwy’n meddwl ei fod oherwydd bod y tîm sydd gennym ni â llawer o ferched.
“Mae gennym ni ddynion hefyd, ond mae llawer ohonom yn ferched ac yn rhedeg busnes ar yr ochr wrth weithio neu wedi gwneud yn y gorffennol.
“Maen nhw’n gweld pobol maen nhw’n gallu mynd atyn nhw sy’n approachable, pobol sydd wedi’i wneud o.
“Mae ychydig o stereoteip mai dynion hŷn mewn siwt â brîffcês sydd yn rhedeg busnes.
“Dydy o ddim yn hynna dim mwy.”