Gallai ymddiriedolaeth ddiwylliannol gael ei sefydlu i helpu cais Wrecsam i ddod yn Ddinas Diwylliant y Deyrnas Unedig 2029.
Collodd y ddinas allan o drwch blewyn i Bradford y llynedd, yn y gystadleuaeth ar gyfer teitl 2025.
Mae Dinas Diwylliant y Deyrnas Unedig yn gystadleuaeth sy’n cael ei rhedeg gan Adran Digidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon y Deyrnas Unedig bob pedair blynedd.
Mae disgwyl i’r rownd nesaf o geisiadau ar gyfer teitl 2029 agor yn 2025.
Diweddariad
Fe wnaeth adroddiad gerbron pwyllgor craffu’r amgylchedd, busnes a buddsoddi Cyngor Wrecsam roi diweddariad ar y cais ar gyfer 2029 yr wythnos ddiwethaf, ac mae’n awgrymu sefydlu ymddiriedolaeth fel bod modd i’r bwrdd agor cyfrif banc a chyflogi staff, a bod yn annibynnol o’r awdurdod.
“Yn barod ar gyfer cais Wrecsam i fod yn Ddinas Diwylliant 2029, cafodd bwrdd dros dro ei recriwtio drwy geisiadau agored fis Mai 2023,” medd yr adroddiad fydd yn cael ei gyflwyno gan y Cynghorydd Hugh Jones (Ceidwadwyr, yr Orsedd), y prif aelod dros yr amgylchedd.
“Fe fu tri chyfarfod o’r bwrdd llawn hyd yma.
“Fodd bynnag, does gan y bwrdd hwn ddim statws cyfreithiol ar hyn o bryd, na chwaith y sefydliad, sy’n golygu na all fod â chyfrif banc, creu cytundebau ag eraill, cyflogi staff na dosbarthu grantiau.
“Mae’r bwrdd dros dro wedi cytuno ar weledigaeth a gorchwyl yr Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol newydd, sydd wedi llywio’r penderfyniadau yn nhermau’r strwythur llywodraethu cyfundrefnol parhaol arfaethedig.”
Ymddiriedolaeth Gymunedol a Diwylliannol Wrecsam
Enw’r ymddiridolaeth fydd Ymddiriedolaeth Gymunedol a Diwylliannol Wrecsam, ond mae disgwyl y bydd “enw masnachu cynhwysol sy’n wynebu’r cyhoedd” gael ei ddatblygu ddechrau’r flwyddyn nesaf “ar y cyd â chymuned Wrecsam”.
Dywed yr adroddiad fod yna argymhelliad fod y cwmni elusennol yn aros yn annibynnol ac ar wahân i’r Cyngor yn nhermau pwy sydd ar y bwrdd ymddiriedolwyr.
“Mae Joanna Swash, gafodd ei phenodi’n gadeirydd dros dro, wedi mynegi ei pharodrwydd i barhau’n Gadeirydd Parhaol y Bwrdd Ymddiriedolwyr am o leiaf ddwy flynedd (gan ddechrau wrth sefydlu’r Ymddiriedolaeth Elusennol).
“Bydd hyn yn darparu arweinyddiaeth gref a pharhad i’r elusen newydd wrth symud tuag at benodi tîm gweithredol, dechrau datblygu’r cais Dinas Diwylliant newydd a chyflwyno gweithgareddau datblygu diwylliannol yn Wrecsam.
“Mae cynnig hefyd i gadarnhau’r bwrdd dros dro presennol yn fwrdd cychwynnol yr elusen, yn ddibynnol ar eu cytundeb a datblygu erthyglau cymdeithasu yn amlinellu uchafswm tymor eu penodiad a phroses fesul cam ar gyfer camu o’r neilltu ac adnewyddu’r bwrdd.”
Yn ôl yr adroddiad, unwaith caiff yr ymddiriedolaeth elusennol ei sefydlu a’i bod yn dod yn endid cyfreithiol, bydd ymgysylltiad â’r cyhoedd yn cael ei gynnal gan bwyllgor ymgysylltu cymunedol fydd yn cael ei arwain gan yr ymddiriedolaeth.
Bydd yr ymarfer ymgysylltu yma’n cynnig gwybodaeth ac yn diweddaru aelodau’r cyhoedd, y gymuned a busnesau ar gynnydd yr Ymddiriedolaeth a’r cais ar gyfer Dinas Diwylliant 2029.
Bydd pwyllgor craffu’r amgylchedd, busnes a buddsoddi’n cyfarfod ddydd Mawrth (Tachwedd 7) i drafod yr adroddiad.
Yn ogystal â rhoi eu hadborth, bydd gofyn i gynghorwyr cefnogi sefydlu’r ymddiriedolaeth arfaethedig, a’r cynnig i’w enwi’n Ymddiriedolaeth Gymunedol a Diwylliannol Wrecsam.