Mae Megan Lee o’r Coedpoeth, Wrecsam wedi bod wrthi’n perfformio fel prif gantores er pan oedd hi’n unarddeg oed, a hynny hefo’i rhieni mewn band teuluol o’r enw Blue Genes.

Aeth yn ei blaen i gael gyrfa ar ei phen ei hun, gan sgwennu caneuon gwreiddiol yn plethu genres amrywiol Americana, ac mae hi wedi rhyddhau nifer o senglau, gan gynnwys ei chân gyntaf yn y Gymraeg, ‘Y Nawr’, yn gynharach eleni.

A hithau nawr ar fin rhyddhau ei EP cyntaf, mae’r gyfansoddwraig ugain oed yn llawn cyffro a bwrlwm wrth edrych ymlaen at rannu ei llais a’i phrofiadau hefo’r byd.

Gyrfa dwyieithog, y nawr…ac yn y dyfodol?

Yn Saesneg yn bennaf mae hi wedi bod yn canu hyd yn hyn, ond mae hi’n manteisio ar bob cyfle i weithio yn y Gymraeg.

“Fues yn perfformio ar tair llwyfan yn Focus Wales 2023 – Old bar no.7, the Royal Oak, a Hwb lles; roedd y trydydd o’r rhain wedi’i gynllunio ar gyfer hyrwyddo artistiaid Cymraeg a’r iaith Gymraeg,” meddai wrth golwg360.

“Roedd yn lle gwych i hyrwyddo fy sengl newydd ‘Y Nawr’, gan fod yna bobol o bedwar ban y byd yno, yn siarad ystod eang o ieithoedd.

“Mae’n gân am fyw bywyd yn yr eiliad a bod yn ifanc.

“Cafodd ei recordio a’i chynhyrchu gan ffrind, Tom Wright, yn stiwdio ffrind arall, Peter Ravenhill. Enw’r stiwdio yw York Road.

“Dw i wedi cael ymatebion gwych gan bob cynulleidfa, hyd yn oed pobol ddi-gymraeg sydd wedi gofyn am gyfieithiad o’r geiriau gan eu bod wedi dweud bod y dôn mor hardd a hoffen nhw wybod mwy am beth mae’r gân yn sôn amdano.

“Wnes i hefyd ei pherfformio ar sioe Noson Lawen ddiwedd mis Ionawr 2023, wedi’i ffilmio yng Nghaernarfon.

“Hon yw’r gân Gymraeg gyntaf i mi ei rhyddhau, ond dwi’n gobeithio nad hon yw’r olaf!

“Dwi’n gobeithio sgwennu mwy i gynulleidfa Gymraeg yn y dyfodol.”

Mae’r colofnydd hwn yn falch iawn o glywed hyn, gan fod y gân nawr ymysg fy ffefrynnau! Mae hi ar gael ar bob platfform ffrydio (cerddoriaeth Amazon, Apple Music, iTunes, Spotify a.y.b., a hoffwn eich annog i fynd ati i wrando arni.

Canu yn y gymuned leol a thu hwnt!

Wrth ddilyn Megan ar Facebook, rwy’ wedi sylwi arni yn gwneud pob math o waith clên a gwerthchweil yn y gymuned, yn rhannu ei chreadigrwydd ac yn hybu’r Gymraeg.

Mae hyn yn cynnwys ymweld â chartref nyrsio i ddifyrru pobol oedrannus, a pherfformio gig arbennig i ddysgwyr yn y Waun, wedi’i threfnu gan Fenter Iaith Wrecsam a Fflint, lle bu’n canu caneuon gwerin Cymraeg, hefo’i llais swynol hyfryd ac yn canu’r gitâr.

Mae gan Megan ei sioe radio ei hun ar orsaf radio Premier Radio, sydd wedi’i lleoli yn Wrecsam ac sy’n gwasanaethu’r ardal a thu hwnt drwy gwaith caled gwirfoddolwyr. Enw ei sioe yw ‘Megan’s music roots’, ac mae hi’n chwarae’r math o gerddoriaeth sydd wedi ei hysbrydoli hi yn ei gyrfa’n canu gwlad. Mae’r sioe yn cael ei darlledu bob dydd Iau, 12-1yp.

Mae hi hefyd yn ymweld ag ysgolion cynradd lleol i rannu cerddoriaeth yn ddwyieithog, ond yn bennaf yn y Gymraeg.

“Trwy hyn, dw i’n gobeithio annog y genhedlaeth nesaf yn Wrecsam i ddilyn y gylchdaith gerddorol Gymraeg,” meddai

Tu hwnt i fro ei mebyd, dinas-sir Wrecsam, mae Megan wedi bod draw yng Nghlwb Ifor Bach yn ystod yr haf, yn perfformio fel rhan o noson lansio sengl ac albwm y gantores Eleri.

Bu hefyd yn chwarae yn noson ‘Nashville Bad Boys of Country’ draw yng Nghaerwysg, ac ar ôl iddi ganu rhai caneuon, daeth galwad gan y dorf: “More Dolly!” Ac roedd Megan wrth ei bodd yn cael ei chymharu â Dolly Parton!

Yn y cyfamser, mae The Crown Inn and Campsite draw yn Llanfihangel Glyn Myfyr, Conwy, wedi gwirioni gymaint hefo Megan, maen nhw yn ei henwi hi’n ysbrydoliaeth ar gyfer yr ŵyl ‘AmeriCymru Country Music Festival’, lle bydd hi’n perfformio ym mis Gorffennaf 2024!

Yr EP ‘Origins’ a mynd ar daith

Y cam nesaf amlwg, felly, oedd rhyddhau ei EP cyntaf, ac mae hwn ar gael nawr. Mi fedrwch ei chadw ymlaen llaw ar blatfformau megis Spotify, ac hefyd ‘mofyn CD gan Megan drwy yrru neges breifat ati – rhagor o wybodaeth am hynny yma.

Mae’r EP yn cynnwys pum trac:

  • Light of the moon
  • Hey Danielle
  • Lost Boy
  • When you’re gone
  • Church on Sunday

Mae’r caneuon yn adlewyrchu gwahanol is-genres Americana, gan gynnwys bluegrass, tex-mex, a baledi, ac yn cynnwys offerynnau megis y banjo, mandolin, dobro, gitar, ac organ Hammond.

Mae’r gân ‘Hey Danielle’ yn cael ei disgrifio fel gwrthddadl i ‘Jolene’ gan Dolly Parton!

Mae Megan yn dweud mai dyma ei ‘Origin Story’, ac mae’n gosod ei hun yng nghwmni cerddorion benywaidd eraill y genre, megis Loretta Lynn a The Chicks.

Ac mae mis Tachwedd yn brysur iawn i Megan, gan ei bod hi yn mynd ar daith ‘No smoke without fire’ gyda Tom Wright a ffrindiau creadigol eraill. Gan ddechrau yn Brighton, byddan nhw’n ymweld â Nottingham, Lerpwl, Blackpool… ac yna yn ôl i Wrecsam ar gyfer y gig olaf!

Un o sêr amlycaf Wrecsam

Mae gan Ysgol Morgan Llwyd yn Wrecsam restr go lew o gyn-ddisgyblion enwog – Llŷr Williams, y pianydd cyngerdd; Lowri Tynan, y nofiwr fu’n cynrychioli Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad; a Mike Williams, fu’n Brif Olygydd NME gynt ac sydd nawr yn Brif Olygydd ar Sight & Sound, y cylchgrawn ffilm. Bu yna wleidyddion a chwaraewyr criced hefyd.

Ond teimlaf, efallai, fy mod yn eistedd yn y rhes flaen ar hyn o bryd, yn gwylio wrth i un o’n sêr mwyaf ddod i droedio’i llwybr at fod yn gerddor byd-enwog, gan ledaenu ei chyfuniad unigryw ei hun o Americana dwyieithog.

Yn wir, edrychaf ymlaen at fersiwn Megan Lee o Dollywood!