O wylio sawl enghraifft yn y gorffennol, mae theatr avant garde, neu theatr arbrofol neu absẃrd, yn beth anodd ei wneud yn iawn. Mae eisiau i chi aflonyddu ar y gynulleidfa jest digon fel eu bod nhw’n mynd o’r theatr yn meddwl am rai o bethau mawr y byd mewn golau newydd. Ond dy’ch chi ddim tarfu’n ormodol rhag iddyn nhw ddiflasu neu ddigio gyda chi am byth. Ambell waith, mae theatr avant garde Gymraeg wedi ymhél yn ormodol â ffurf a thechneg er mwyn arloesi, heb dalu sylw ddigon i’r ddrama.

Llwyddodd Rhinoseros – addasiad Manon Steffan Ros o ddrama absẃrd Eugene Ionesco – i wneud y job yn gampus. Drama Ffrengig yw hi, sydd wedi ei gosod mewn tref fach ddi-nod. Un diwrnod mae rhinoseros yn dod i ruo drwy’r dref ac yn syfrdanu’r trigolion. Yn raddol, mae’r trigolion i gyd yn cael eu swyno gan y rhinoserosiaid (‘rhinoserosus?’ ‘rheinoserai?’ fel y mae cymeriadau’r ddrama yn ei ofyn o hyd) eraill, ac yn troi’n fwystfilod gwyllt.

Alegori yw’r ddrama a gafodd ei sgrifennu yn wreiddiol yn 1959, mewn ymateb i dwf Ffasgiaeth cyn yr Ail Ryfel Byd. Y bobol sy’n cael eu troi’n rhinoseriaid yw’r rheiny a gafodd eu denu at Ffasgiaeth. Mae’r pwnc yn amserol iawn, wrth i rymoedd adain dde ennill cefnogaeth ar hyd y byd.

Amserol a pherthnasol

Mae yna ddarluniau cyfoes a pherthnasol o’r dechrau un. Ar y dechrau mae Bérenger (Rhodri Meilir) yn cael ei geryddu gan Siân ei gyfaill (Bethan Ellis Owen) am yfed gormod ac am esgeuluso’i hun: dyw e heb gribo’i wallt nac eillio, mae yn hwyr i’w waith mewn swyddfa bapur newydd. Mae’n ysu am ddiod ganol dydd. Mae’n cyfadde’ i Siân ei fod wedi teimlo’n anniddig erioed ac yn anhapus.

Un drwsiadus, penderfynol ac uchelgeisiol yw Siân, sy’n gwybod ei meddwl. Ar ôl dweud ei fod am newid ei ffyrdd, mae Bérenger yn ei gwahodd gydag e i’r theatr y noson honno, ond mae hi’n gwrthod, am ei bod hi’n mynd allan i yfed gyda ffrindiau. Am ragrith! A dyna ddechrau ffrae, a dyna ddarlun byw o gymdeithas wedi’i dal mewn un olygfa fer.

Mae elfennau Cymreig iawn o ran iaith a diwylliant yn perthyn i addasiad Manon Steffan Ros. Mynnu mai ‘dŵr Tŷ Nant’ sydd yn ei wydr ac nid sheri mae Berenger. Mae nifer o jôcs am iaith. Ac mae’r drafodaeth ddryslyd am y gwahaniaeth rhwng y rhinoseriaid gogleddol a deheuol – y gogs a’r hwntws – yn glyfar, ac yn aml-haenog.

Proc

Mae Bérenger, yr everyman yn y ddrama, yn arswydo wrth weld ei gymdogion yn newid, ac ef yw’r unig un sy’n gwrthod ildio. Ar ôl darllen am y ddrama, mae rhywun yn deall bod Bérenger yn sefyll dros ymwybod yr hunan a’r cymeriadau eraill yw’r ymwybod torfol. Ond roedd hi’n bosib dehongli pethau’n wahanol drosoch eich hun – dyna sy’n braf am ddrama sy’n rhoi proc i’r meddwl.

Mae’r set a’r gwisgoedd yn ddeniadol, a gofal wedi ei roi i’r ffordd y mae’r trigolion yn troi’n greaduriaid mawr llwyd. Mae Eddie Ladd – sy’n actio cymeriad yr athronydd – yn hawlio golygfa gyfan ei hun ar gyfer y dasg, pob cyhyr o’i chorff yn cyfleu’r symudiadau bwystfilaidd. Mae’n berfformiad a hanner. A Bethan Ellis Owen yn llenwi’r llwyfan wrth ruo a rhysio a brysio i droi’n anifail gwyllt. Yr hyn sydd fwyaf brawychus oedd pa mor sydyn yr oedd dadleuon Siân yn culhau ac yn colli eu rhesymeg.

Mae nifer fawr o gyrn a rhinoserosiaid yn y ddrama – allai hynny droi’n ffarsaidd ond maen nhw yn gweddu’r ddrama rywsut. Roedd y cyfan wedi’i greu yn gynnil iawn, a’r set yn newid yn ddiffwdan, i gyfeiliant addas, trydanol, bygythiol y cyfansoddwr Dyfan Jones.

Cast cryf

Mae cast y ddrama yn gryf. Dafydd Emyr fel yr amheuwr yn y swyddfa, yn beio’r clecs am y rhinoseros ar gelwyddgwn y wasg a’r byd cyfalafol (adnabod sawl un felly!). Victoria Pugh fel y ddynes snobyddylyd â’i gorhoffedd o’i chath, a’i hedmygwr, Glyn Pritchard – actor sydd yn wastad yn werth ei wylio ar lwyfan. Ac Ioan Gwyn fel Derfel y dyn busnes synhwyrol, â’i ben i’r maen. Newydd-ddyfodiad i’r ddrama Gymraeg yw Priya Hall, sy’n gwneud début trawiadol fel yr ysgrifenyddes y mae Bérenger yn cwympo mewn cariad â hi.

Roedd perfformiad Rhodri Meilir fel yr arwr anfoddog Bérenger, ei ran gyntaf ar lwyfan mewn drama Gymraeg ers blynyddoedd mawr, yn wefreiddiol. Roedd fel pe bai actor o Hollywood yn troedio un o lwyfannau’r West End – nid oherwydd ei fod yn enw mor adnabyddus oherwydd ei holl waith ar ddramâu cyfres S4C, ond am eich bod yn teimlo eich bod yn gwylio actor mawr, o ryw le aruchel.

Er mod absẃrd a gwallgo’ y sefyllfa, roedd ei gymeriad o ran llais, ymarweddiad a chorff yn argyhoeddi’n llwyr, fel y llanc blinedig sydd yn gweld ymhell. Rydyn ni wedi bod ar ein colled heb Rhodri Meilir yn y theatr Gymraeg, a brysied iddo yn ôl i’r theatr eto.

Dyma gynhyrchiad llawn cyntaf i Steffan Donnelly ers iddo ymuno â’r cwmni fel Cyfarwyddwr Artistig y llynedd, a’i lwyfaniad cyntaf o waith mawr Ewropeaidd. Mae ganddo brofiad o’r clasuron ac felly roedd disgwyl eiddgar am y cynhyrchiad yma.

Efallai bod y syniad o rinoseros mewn siwt – y llun oedd ar y posteri – ychydig yn rhy heriol i ganran o’r gynulleidfa theatr Gymraeg yn 2023, gan mai dim ond hanner llawn oedd y theatr yn Pontio yn anffodus. Gobeithio y cân nhw gyfle i’w gweld cyn diwedd y daith.


Mae Rhinoseros (Theatr Genedlaethol Cymru) ar daith:

  • Canolfan Celfyddydau Aberystwyth, Tachwedd 4
  • Neuadd Dwyfor, Pwllheli, Tachwedd 7
  • Theatr Hafren, y Drenewydd, Tachwedd 9
  • Mwldan, Aberteifi, Tachwedd 14
  • Galeri Caernarfon, Tachwedd 16
  • Taliesin Abertawe, Tachwedd 18