Cafodd angladd Matthew Perry, oedd fwyaf adnabyddus am chwarae cymeriad Chandler Bing yn y gyfres gomedi Friends, ei chynnal yn Los Angeles ddydd Sadwrn (Tachwedd 4). Y comedïwr Gary Slaymaker sy’n rhoi teyrnged i’r actor fu farw yn 54 oed.
“Fe gollon ni ffrind heddiw” – Wy wedi clywed y llinell yna lawer rhy aml yn y blynyddoedd diwethaf.
Ond yn achos yr actor, Matthew Perry, mae hi’n frawddeg sy’n llythrennol gywir.
Fel un o chwe aelod y comedi sefyllfa mwyaf poblogaidd yn hanes darlledu (fe wnaeth dros 52.5m o bobol wylio pennod ola’r gyfres Friends yn America – heb sôn am y miliynau o wylwyr eraill ledled y byd), roedd Perry’n adnabyddus i bawb.
Fel un sydd wedi gwneud tipyn gyda’r byd comedi dros y blynyddoedd, wy’n deall pwysigrwydd dod o hyd i berfformiwr/cymeriad sydd â dawn i ddweud jôc, ond sydd hefyd â’r bersonoliaeth i ennyn edmygedd (neu gariad, i fod yn onest) y bobol sy’n gwylio.
Doedd yna ddim amheuaeth fod Matthew Perry’n berchen ar y ddwy dalent yma.
Fydden i’n dadlau mai un o’r rhesymau bod Perry wedi cydio yn nychymyg gwylwyr y gyfres Friends oedd y ffaith mai fe oedd yr un mwyaf ‘normal’ o’r criw.
Allen i ddychmygu taro ar draws Chandler mewn bywyd go iawn; ond prin iawn fydden i’n debygol o gyfarfod unrhyw Phoebe neu Rachel mewn bywyd dydd i ddydd.
Roedd Matthew Perry hefyd yn agored iawn am ei broblemau gyda chyffuriau ac alcohol dros y blynyddoedd; ac er bod e’n ei chael hi’n anodd gwella’i hun, roedd e’n fwy na pharod i gynnig cymorth i eraill oedd yn dioddef o’r un problemau… ac mae hwnna’n dweud tipyn am y dyn, wy’n credu.
Fe ddywedodd y byddai’n well ganddo gael ei gofio am ei waith gyda phobol eraill oedd yn dioddef o addictions, ond yn deall yn iawn mai Chandler Bing fyddai ei atgof penna’ i’r byd. A dyw hwnna ddim yn beth gwael o bell ffordd.
Pan ydych chi wedi bod yn ymddangos yn ystafelloedd byw pobol am ddeng mlynedd, mae yna nifer sy’n mynd i’ch gweld chi fel rhan o’r teulu, bron… a gyda chymeriad mor fywiog a hoffus â Chandler, mae’r atgofion yn mynd i fod yn rhai melys.
Felly, fe gollon ni berfformiwr talentog, dyn wnaeth ei orau i ddelio gyda’i wendidau, ond yn y bôn, fe gollon ni ffrind.