Bydd y llyfr cyntaf i gael ei gyhoeddi dan gynllun AwDUra’r Mudiad Meithrin yn cael ei lansio yr wythnos hon.

Cafodd y cynllun i annog lleisiau Cymraeg o blith cymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifol Ethnig i ysgrifennu straeon i blant ei lansio y llynedd, a Mam-gu, Mali a Mbuya gan Theresa Mgadzah Jones yw’r llyfr cyntaf i’w gyhoeddi.

Yn ystod y rhaglen, cafodd deg ymgeisydd gefnogaeth yr awduron Jessica Dunron a Manon Steffan Ros wrth ysgrifennu, ac fe wnaeth y Mudiad Meithin ymrwymo i gyhoeddi gwaith o leiaf dau o’r awduron newydd.

Cafodd yr holl destunau eu hanfon at Manon Steffan Ros, Jessica Dunrod a Nia Gregory, arweinydd Cylch Meithrin Llanypwll yn Wrecsam oedd ar y panel beirniadu, ac fe wnaethon nhw ddewis tri llyfr i’w cyhoeddi.

Ynghyd â llyfr Theresa Mgadzah Jones, bydd gwaith Mili Williams a Chantelle Moore yn cael eu cyhoeddi hefyd.

Fe wnaeth stori ar ffurf cartŵn gan Sarah Younan ymddangos yng nghylchgrawn Wcw hefyd.

‘Ar ben fy nigon’

Bydd Mam-gu, Mali a Mbuya, sydd wedi cael ei gyfieithu i Gymraeg gan Manon Steffan Ros, yn cael ei lansio ym Mwyty Maasi yng Nghaerdydd nos Iau (Tachwedd 9) am 7yh.

“Roeddwn i’n hollol gyffrous i gymryd rhan yn AwDUra ac ar ben fy nigon o fod wedi cael fy newis i gael cyhoeddi fy ngwaith,” meddai Theresa Mgadzah Jones, sy’n dod o Gaerdydd.

“Mae Manon a Jessica wedi rhannu eu mewnwelediad a’u gwybodaeth gwerthfawr ac mae wedi fy helpu’n fawr i gredu fy mod i’n gallu gwneud hyn.

“Dw i methu aros am y cam nesaf yn y daith hudolus yma ac i weld fy llyfr mewn print ac yn cael ei gyhoeddi.

“Mae wedi bod yn anrhydedd cael gweithio gyda’r dylunydd Derek Bainton a gyda Mudiad Meithrin.”

‘Y daith yn parhau’

Ychwanega Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin, fod taith AwDUra yn parhau.

“Ar ôl cyhoeddi gwaith Sarah Younan yng nghylchgrawn Wcw, mae’n hyfryd gallu cyhoeddi stori Theresa Mgadzah Jones am gymeriadau annwyl Mam-gu, Mali a Mbuya,” meddai.

“Mae’n stori am berthyn, am gynefinoedd ac am gyd-fyw’n unedig mewn amrywiaeth.

“Gwn y bydd plant bach ar hyd a lled Cymru’n mwynhau stori Theresa a darluniau Derek.”