Bydd prosiect enillodd grant i gefnogi iechyd meddwl a lles plant a phobol ifanc yn cyflwyno cynhyrchiad Cymraeg o’r sioe Joseff a’r Gôt Amryliw y penwythnos hwn.
Mae tua hanner cant o blant a phobol ifanc rhwng saith ac 14 oed wedi bod yn ymarfer yn wythnosol, ac ystod y gwyliau ysgol, i baratoi at y cynhyrchiad gan Gwmni Theatr Eleth.
Bydd tri pherfformiad yn cael eu llwyfannu o sioe Andrew Lloyd Webber a Tim Rice – nos Wener (Hydref 27) am 7yh, a dydd Sadwrn (Hydref 28) am 2yp a 7yh yn Neuadd Goffa Amlwch.
Defnyddio’r Gymraeg yn gymdeithasol
Bu’r prosiect yn llwyddiannus wrth ymgeisio am £10,000 o grant gan y Loteri Genedlaethol i ddod â’r gymuned ynghyd, ac i wella bywydau’r bobol ifanc sy’n cymryd rhan drwy gefnogi eu hiechyd meddwl a’u lles, a rhoi hyder iddyn nhw.
Nod arall y cwmni yw annog y plant i ddefnyddio’r Gymraeg yn gymdeithasol.
“Rydym yn hynod ddiolchgar i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol am ddarparu cyllid i ni sydd wedi ein galluogi i roi cyfle unigryw a chyffrous i’r plant o fewn ein cymuned ddifreintiedig i weithio tuag at lwyfannu cynhyrchiad cerddorol yn Amlwch i’r gymuned i gyd ddod i wylio,” meddai Lowri Williams o Gwmni Theatr Eleth.
“Mae pob un o’n plant a’n gwirfoddolwyr wedi gweithio’n ddiflino dros y flwyddyn ddiwethaf yn ymarfer ar gyfer fersiwn Gymraeg o Joseff a’r Gôt Amryliw.”
“Mae’r Gronfa’n ymrwymo i gefnogi prosiectau sy’n dod â phobol ynghyd yn eu cymunedau, creu cysylltiadau cymdeithasol cryfach a helpu i ddatblygu sgiliau newydd,” ychwanegodd Nia Hughes, Swyddog Ariannu yng Nghronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.
“Mae prosiect Cwmni Theatr Eleth yn sicr yn gwneud pob un o’r rhain a hoffem ddymuno pob hwyl iddyn nhw gyda’u perfformiad y penwythnos hwn.”